#
croeso-pic7.jpg      llun-clawr7.jpg    
Yn y rhifyn hwn rydym yn edrych ar ardal y Canolbarth ac, ymysg pethau eraill, yn rhyfeddu at drysorau’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ydych chi’n Adnabod yr Ardal ac yn gwybod pa fusnesau sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog? Rydym yn ymweld â Chastell Aberteifi ar waelod y sir ac yn teithio tua’r gogledd i gael diweddariad o fwrlwm Maes D Meirion. A sôn am yr Eisteddfod, pa diwtor sy’n mynd i ganu eleni a pha dysgwr sy’n mynd i lefaru?  

Mae mwy o Gymraeg On The Move wrth i ni gael hanes taith Tim Jilg i Tsieina yn yr erthygl Y Ddwy Ddraig a Dulliau Dysgu.

Ar ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill eleni, Caerdydd oedd canolbwynt y byd IATEFL a darllenwch am rai o sesiynau’r gynhadledd flynyddol yn yr erthyglau Sbri’r Symposiwm a Dyna brofiad! Hefyd, oeddech chi yn y Bae ar gyfer y Baylingo?

Darllenwch am yr Adnoddau newydd sydd ar gael yn y maes a chofiwch mai yn y Tiwtor y mae’r Clecs gorau! Cawn wybod hefyd am lwyddiannau dysgwyr Bangor a helyntion tiwtoriaid Morgannwg, yn ogystal â lansiad arbennig yn y De Orllewin. Peidiwch anghofio am y Portreadau o’r Canolbarth, sy’n agoriad llygad!

Tybed a fydd y golofn Cyngor Cyflym yn apelio atoch chi a thybed a ydych chi’n gwybod yr ateb cywir i Gystadleuaeth y rhifyn hwn?

Mae’r adran Deunydd Dysgu yn orlawn unwaith eto ac yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau wedi eu lefelu, o weithgaredd sain yn ymwneud â phodlediad i dasgau cyfieithu, grid geiriau ac ysgrifennu adroddiad. Ceir tasgau darllen a thrafod sy’n rhoi hanes Aneurin Jones yr arlunydd a hefyd hanes George, crwydryn olaf Cymru.

        A llawer mwy!
        Mwynhewch!


orange-line.jpg