DVD Gwylion’n Graff
Bydd copïau rhad ac am ddim o DVD Gwylio’n Graff, casgliad o glipiau o raglenni teledu Cymraeg, yn cyrraedd pob canolfan yn yr wythnosau nesa. Clipiau o raglenni tebyg i 04 Wal, Cwpwrdd Dillad, Y Byd ar Bedwar, Wedi 3 a Taro 9 yw’r rhain, ac fe’u dewiswyd er mwyn annog trafodaeth ymysg dysgwyr. Mae Non ap Emlyn wedi paratoi gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ar lefelau Uwch a Hyfedredd i gyd-fynd â phob un o’r 24 clip. Cysylltwch â’ch canolfan i holi am gopi.
Adnoddau Cymraeg i’r Teulu
Mae CBAC wedi ennill cytundeb i baratoi a chyhoeddi deunyddiau Cymraeg i’r Teulu, gan gynnwys llyfr cwrs, cardiau fflach mawr a bach, pecyn gwaith cartref ac adnoddau sain. Bydd y llyfr yn cyflwyno cwrs 120 awr, yn bennaf ar gyfer dosbarthiadau sy’n cyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Bwriad y gwerslyfr a’r deunydd atodol yw creu cwrs cyflawn ar lefel Mynediad sy’n cyflwyno patrymau mewn trefn briodol ac sy’n addas i rieni gyda phlant dan 7 oed (Cyfnod Sylfaen yr ysgolion). Awduron y project cyffrous hwn bydd Owen Saer a Pam Evans-Hughes.
Panel Adnoddau
Cynhelir cyfarfod o banel adnabod anghenion adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS yn ystod mis Gorffennaf. Bydd cynrychiolwyr o bob canolfan yn bresennol yn y cyfarfod, a chroesewir eich sylwadau ar adnoddau sydd wedi’u cyhoeddi neu syniadau am brojectau newydd. Anfonwch eich sylwadau neu argymhellion am ddeunyddiau newydd (gan nodi lefel a disgrifiad o’r adnodd) at dyfan.evans@cymru.gsi.gov.uk erbyn 10 Gorffennaf.
Cwrs ar-lein newydd
Mae’r wefan ‘Say Something in Welsh’ yn herio dysgwyr i ddysgu Cymraeg yn gynt nag erioed drwy gofrestru ar y cwrs unigryw hwn sy’n defnyddio adnoddau MP3 gan fwyaf. Rhoddir y pwyslais ar symud o ddysgu’r iaith i ddefnyddio’r iaith. Ewch i’r wefan i gael gwybod mwy ac i weld a fydd eich dysgwyr newydd chi yn medru siarad Cymraeg yn gyfforddus ‘ymhen rhai wythnosau!’
Blogiadur.com
Darpariaeth wych sy’n eich galluogi chi a’ch myfyrwyr i gymdeithasu ar y we trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Blogiadur yn gasgliad o wahanol flogiau a ffrydau RSS/Atom. Gallwch weld cyfraniadau llawer o wahanol flogiau ar y wefan hon, a gellir gweld lluniau oddi ar Flickr.com, ac unrhyw gyfraniadau Cymraeg diddorol eraill y mae’r trefnwyr yn dod ar eu traws! Dyma gyfle i fwynhau darllen cyfraniadau diweddaraf i’r byd blogio Cymraeg i gyd o dan yr un to.
Os ydych chi neu’ch myfyrwyr yn awyddus i weld unrhywbeth penodol wedi’i gynnwys ar Blogiadur.com rhowch wybod trwy anfon e-bost at aran@sgwarnog.com.