# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
dwyddraig.jpg
Fel Cynorthwyydd Ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, bûm yn ddigon ffodus i ennill cymhorthdal o’r Brifysgol i fynd i Tsieina am bythefnos fis Tachwedd diwethaf.  Diben y daith oedd tynnu ar ymarfer da ym maes dysgu’r Saesneg yn Tsieina er mwyn darganfod a ellir datblygu dulliau newydd o ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith yma yng Nghymru.  Ymwelais â Phrifysgol Nanjing ble roeddwn yn gweithio’n agos gyda Dr Qi Yan yn Adran Ieithoedd Tramor.  Gyda chymorth Cymrodoriaeth gan yr Academi Brydeinig, bu Dr Qi hefyd yma yn yr Ysgol am dri mis eleni yn gwneud ymchwil ac yn treialu gwahanol ddulliau dysgu yn ein Canolfan Cymraeg i Oedolion yn ogystal â chyda’n myfyrwyr is-raddedig.  Mae’r cydweithredu rhyngwladol hwn yn rhan o raglen ymchwil ehangach yn yr Ysgol, ac rydym yn cydweithredu â’r Athro Alison Wray, arbenigwraig ar iaith fformiwläig o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.     

Pan oeddwn yn Nanjing, arsylwais ddosbarthiadau Saesneg yn y Brifysgol ac mewn ysgolion yn y ddinas.  Siaradais hefyd â nifer fawr o athrawon Saesneg a’u myfyrwyr ynglŷn â dulliau dysgu’r iaith yn Tsieina.  Y peth mwyaf trawiadol yw faint o bwyslais y mae’r dysgwyr a’r athrawon yn ei roi ar ddysgu ar y cof.  Rhan ganolog o ddosbarthiadau Saesneg yn Tsieina yw dysgu testunau ar y cof (DTC), ac mae’r myfyrwyr yn dysgu nifer enfawr o eiriau, ymadroddion a brawddegau bob wythnos.  Bob yn ail ddiwrnod mewn ysgolion yn Tsieina, mae’r plant yn cael erthygl neu stori, tua 300 o eiriau o hyd, ac mae rhaid iddynt ddysgu’r darn ar y cof erbyn y diwrnod canlynol.  Asesir y plant gan yr athrawon wedyn trwy ofyn iddynt adrodd y darn yn uchel air am air.  Gan fod disgyblion yn Tsieina yn mynd i’r ysgol chwe gwaith yr wythnos, maent yn dysgu tua 900 o eiriau ar y cof yn wythnosol.  Wrth gwrs, nid yw’r geiriau i gyd yn eiriau gwahanol, ond rhaid iddynt ddysgu’r brawddegau a’u hailadrodd yn y drefn gywir.  Wrth drafod yr ymarfer hwn gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Nanjing, cefais fy synnu i glywed bod y rhan fwyaf ohonynt wedi dysgu tri neu fwy o lyfrau dysgu Saesneg ar y cof!

dwyddraig2.jpg  
Cefais sgwrs hir am DTC gyda’r Athro Wang Haixiao, Pennaeth Adran Ieithoedd Tramor y brifysgol.  Esboniodd fod dysgu ar y cof yn rhan ganolog o’r diwylliant addysgol ymhob pwnc yn Tsieina, ac wrth ddysgu’r Saesneg, mae DTC yn helpu’r dysgwyr mewn sawl ffordd.  Dysgir y Saesneg yn Tsieina fel iaith dramor;  yn wahanol i’r sefyllfa o ddysgu ail iaith ble mae’r dysgwyr yn gallu gweld, clywed, a siarad yr iaith y tu allan i’r dosbarth, nid oes gan y myfyrwyr Tsieineaidd yr un cyfle i ddefnyddio’r Saesneg.  Ni welir arwyddion Saesneg yn aml yn y wlad, ac i bob pwrpas, nid oes Saseneg yn y gymuned o gwbl.  Rhaid i ddysgwyr yr iaith chwilio am gyfleoedd i glywed, darllen, a siarad yr iaith naill ai ar y rhyngrwyd, ar deledu lloeren, neu drwy ddod yn gyfeillgar â siaradwyr iaith gyntaf.  Yn ôl yr Athro Wang, gall DTC helpu’r dysgwyr gydag absenoldeb y Saesneg y tu allan i’r dosbarth.  Mae’r dysgwyr yn cael fersiynau o’r testunau i’w cofio wedi’u recordio ar dâp neu gryno ddisg.  Maent yn gwrando arnynt ac yn adrodd y testunau’n uchel drosodd a throsodd wrth ddarllen y sgriptiau nes eu bod nhw’n gallu cofio pob gair.  Mae gwrando ar y testunau’n rhoi modelau ffonolegol iddynt, yn eu helpu gyda chaffael goslef y Saesneg, ac yn caniatáu iddynt ymarfer eu sgiliau clywedol.  Mae eu sgiliau llafar a darllen yn datblygu hefyd wrth ddysgu’r sgriptiau a’u hailadrodd yn uchel.  Gan fod llawer o’r testunau’n adlewyrchu sefyllfaoedd beunyddiol a ‘go iawn’, mae enghreifftiau di-rif o’r iaith ‘mewn cyd-destun’, ac mae hyn yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddod yn gyfarwydd ag agweddau pragmateg yr iaith.  O ganlyniad, maent yn datblygu ymdeimlad â rhythm yr iaith a sut mae’r iaith yn gweithio.  Ys dywed un disgybl o Ysgol Ganol Jinling, ‘When I memorize things, I get a sense of the language’.  

Nid ‘dysgu fel parot’ neu gofio peiriannol yn unig yw DTC.  Tra bo athrawon a thiwtoriaid ieithoedd yn y gorllewin wedi cefnu ar y math hwn o ddysgu, mae nifer o ddysgwyr rhugl yn canu clodydd y dull ac yn cysylltu eu llwyddiant â DTC.  Yn ei lyfr gwerthfawr, Success with Foreign Languages, disgrifia Stevick (1989) saith dysgwr llwyddiannus.  Yn ganolog i strategaethau nifer ohonynt yw’r dysgu ar y cof o destunau, cerddi, brawddegau, ymadroddion, a ffurfiau eraill o iaith fformiwläig.  Yn y dwyrain, ac yn enwedig yn Tsieina, mae DTC yn rhan annatod o’r broses o ddysgu ieithoedd, ac mae nifer o bapurau academaidd wedi’u cyhoeddi am lwyddiant dysgwyr yn y wlad honno (gweler Wray a Fitzpatrick, 2008, am restr o’r astudiaethau hyn).  Yn ôl Wray a Fitzpatrick (2008), nid yw DTC yn arwynebol nac yn ddiwerth fel y mae addysgwyr yn y gorllewin yn tueddu i ystyried yr ymarfer.  Mae’r dull wedi profi yn effeithiol o ystyried llwyddiant dysgwyr yn y dwyrain o gymharu â’r rhai yn y gorllewin.  Gall DTC hefyd fod yn effeithiol wrth ei ddefnyddio i gyfnerthu gwybodaeth a hyrwyddo dealltwriaeth (ibid).

Ond sut mae DTC yn gweithio?  Mae nifer o theorïau am sut mae dysgu talpiau o iaith a dysgu iaith fformiwläig yn hwyluso dysgu ieithoedd yn gyffredinol.  Mae’r Athro Alison Wray wedi cyhoeddi nifer fawr o erthyglau ar iaith fformiwläig yng nghyd-destun caffael iaith, ac mae’n trafod y pwnc yn drylwyr yn ei dau lyfr pwysig (Wray, 2002; 2008).  Gall dysgu ‘chunks’ o iaith fod o gymorth wrth ddod o hyd i batrymau ieithyddol.  Mae’r ‘chunks’ hyn yn cael eu storio yn yr ymennydd yn yr un modd y mae geiriau sengl yn cael eu storio, ac o ganlyniad, mae dysgwyr yn dwyn i gof y ‘chunks’ hyn yn yr un modd y mae geiriau sengl yn cael eu hadennill.  Ar ôl dysgu’r ‘chunks’ ar y cof, mae’n bosibl wedyn amlygu patrymau a gwybod sut i newid y patrymau er mwyn creu brawddegau newydd.  Fformiwlâu yw’r ‘chunks’ hyn, a gall dysgwyr naill ai eu defnyddio’n llawn heb eu newid neu eu hamrywio yn ôl y patrymau sydd wedi eu hamlygu yn yr ymennydd.  Gyda’r ‘chunks’ o iaith hyn, nid oes angen i’r dysgwyr adeiladu negeseuon fesul gair ar y tro oherwydd mae’r patrymau’n barod i’w defnyddio.  Mae’r fformiwlâu hefyd yn helpu llif y sgwrs ac yn galluogi siaradwyr ail-iaith i swnio’n fwy idiomatig a rhugl wrth siarad.   

                  
Ond sut y gall hyn helpu ein dysgwyr ni?  Heb os nac oni bai, mae gwahaniaethau diwylliannol enfawr rhwng Tsieina a Chymru, ac nid oes amheuaeth bod y meddwl Conffiwsaidd wedi dylanwadu’n gryf ar agweddau pobl yn y dwyrain tuag at ddysgu ar y cof.  O ganlyniad, a fyddai’n deg i ni ddisgwyl i’n dysgwyr fabwysiadu DTC fel modd o wella eu Cymraeg?  A fyddent yn fodlon cofio cannoedd o eiriau ac ymadroddion bob wythnos?  Efallai na, ond rydym yn gallu dysgu rhywbeth oddi wrth y Tsieiniaid.  Rwyf wedi bod yn arbrofi gyda defnyddio drama yn y dosbarth.  Wrth sôn am ddrama, nid wyf yn cyfeirio at weithgareddau cyfathrebol fel chwarae rôl neu addasu sefyllfaoedd ar y pryd (er bod y gweithgareddau hyn yn werthfawr yn eu hunain).  Yn hytrach, rwy’n siarad am ddysgu llinellau o fonologau, deialogau, a dramâu sy’n trafod testunau diddorol ac yn defnyddio iaith mewn cyd-destunau ‘go iawn’.  Mae DTC yn debyg i’r drilio a geir ar ein Cyrsiau Wlpan gan fod y driliau’n amlygu patrymau’r Gymraeg, ond maent yn gweithio ar y cof tymor byr.  Gyda DTC, diben y dysgu yw serio’r patrymau a’r fformiwlâu ar y cof tymor hir er mwyn hwyluso eu hadennill pan fydd angen.  Mae canlyniadau cynnar fy arbrofi gyda drama yn y dosbarth yn dangos bod y dysgwyr yn gallu ac yn fodlon dysgu talpiau o iaith ar y cof; maent yn mwynhau’r broses o ddysgu ac adrodd eu llinellau; maent yn cydweithredu’n well â’i gilydd; ac mae hunan-hyder, ymrwymiad, a chymhelliant y dysgwyr yn cryfhau.  Er mwyn sicrhau bod defnyddio DTC yn y dosbarth yn llwyddiannus, dylid esbonio paham a sut mae’r dull yn gweithio (mae hyn yn dangos i’r dysgwyr ddiben yr holl waith cofio ac yn ennyn eu cydweithrediad), dewis testunau diddorol ac arloesol gyda llawer o densiwn neu gomedi (er mwyn magu a chadw diddordeb ac i greu awyrgylch ble mae’r dysgwyr yn gallu ymgolli yn eu cymeriadau), gadael i’r dysgwyr benderfynu sut maent am bortreadu eu cymeriadau (maent yn teimlo eu bod yn cymryd rhan fwy gweithredol yn y broses o ddysgu), a gwneud yn siŵr bod naws yr ystafell ddosbarth yn ysgafn a difyr gyda digon o chwerthin a hwyl.  

Arsylwais athrawon a disgyblion yn dysgu Saesneg yn Tsieina ac yn defnyddio drama yn y dosbarth fel math o DTC.  Roedd y canlyniadau positif yn amlwg i’w gweld:  roedd y disgyblion yn arbrofi gydag acenion a goslef ac yn helpu ei gilydd gydag ynganu’r geiriau’n gywir;  roeddent yn cofio talpiau mawr o iaith ac yn ymgyfarwyddo â phatrymau’r Saesneg; ac yn bwysicach fyth, efallai, roeddent yn cael hwyl gyda’r iaith wrth ailadrodd eu llinellau ac actio eu rhannau.  Ac felly y bu wrth i mi arbrofi gyda defnyddio drama yn y dosbarth Cymraeg.  Yr oedd yr hwyl a sbri a gafodd y dysgwyr yn rhan elfennol o’r dosbarth, ac roeddent o’r farn fod yr holl broses wedi cyfoethogi eu profiad o ddysgu, ac wedi hwyluso eu defnydd o’r iaith, yn ogystal â chryfhau eu hunan-hyder.     

Er y gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau ddiwylliant, mae’n bosibl i ni addasu a mabwysiadu dulliau traddodiadol Tsieineaidd o ddysgu’r Saesneg.  Mae dysgwyr yn Tsieina wedi arfer â dysgu peth wmbreth o iaith ar y cof, ac nid yw annog ein dysgwyr i ddilyn eu hesiampl y tu hwnt i’n cyrraedd.  Mae digon o ddeunydd ar gael yn y Gymraeg fel deialogau a dramâu byrion.  Wrth ddefnyddio DTC o’r cychwyn cyntaf yn ein dosbarthiadau mae’n bosibl normaleiddio’r ymarfer.  Gall ein dysgwyr wedyn ei dderbyn fel rhan o’r broses ddysgu a gallwn ninnau weld yr effaith ar eu hiaith.   

Tim Jilg

animated-line.gif

Llyfryddiaeth a Darllen Pellach:

Unrhyw erthygl gan Alison Wray ar iaith fformiwläig.

Ding Y. (2007). Text memorization and imitation: The practices of successful Chinese learners of English. System, 35 (2), 271-280.

Stevick, E. W. (1989). Success with Foreign Languages: Seven Who Achieved it and What Worked for Them. London: Prentice Hall.

Wray, A. (2002). Formulaic language and the lexicon. Cambridge: Cambridge University Press.

Wray, A. (2008). Formulaic language: pushing the boundaries. Oxford: Oxford University Press.

Wray, A. and Fitzpatrick, T. (2008). Why can’t you just leave it alone? Deviations from memorized language as a gauge of nativelike competence. Yn F. Meunier a S. Granger (golygyddion), Phraseology in Foreign Language Learning and Teaching. (t.t. 123–147).

dwyddraig3.jpg