Cynhaliwyd cyfarfod arferol ALTE yn Ebrill dan nawdd y Xunta de Galicia, yn Santiago de Compostela (neu Sain Siâm). Rhennir cyfarfodydd ALTE yn dair agwedd:  
 
 ➢ gwaith y SIGs (grwpiau â diddordeb penodol, sy’n trafod Cod Ymarfer, Cysylltu â Fframwaith Ewrop, arholiadau iaith i ymfudwyr a dinasyddiaeth, a dysgwyr ifainc.  
 
 ➢ gweithdai - yn trafod agweddau gwahanol ar arholiadau iaith. 
 
 ➢ cynhadledd agored - darlithiau ar themâu penodol, yn agored i aelodau ALTE a’r cyhoedd. 
 
  Grwpiau â Diddordeb Penodol 
 
  Yn y grŵp i drafod y Cod Ymarfer, edrychwyd yn fanylach ar ganllawiau i awditwyr, a’r broses o’u hyfforddi a’u penodi. Mae CBAC wedi cael awdit ar yr arholiadau Mynediad a Sylfaen, ond bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd bob tair neu bedair blynedd. Ceir gwybodaeth am y safonau y mae ALTE’n eu defnyddio ar y wefan: 
 
  
 Yn y grŵp, yn trafod cysylltu â Fframwaith Cyfeirio Ewrop, edrychwyd ar ddogfen newydd a fydd yn rhoi canllawiau i lunwyr arholiadau, o feddwl am y lluniad i agweddau ymarferol. Noddir hyn gan Gyngor Ewrop, ac mae fersiwn cynharach ar eu gwefan nhw - y nod yw diweddaru’r ddogfen hon: 
 
  
 Gweithdai 
 
  Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf gan ddwy sy’n gweithio yng Nghaergrawnt ar gysylltu corpora iaith â’r Fframwaith Ewrop. Dim ond dechrau y mae’r project hwn, ac yn y gweithdy edrychwyd ar samplau o waith ysgrifenedig ymgeiswyr o’r Eidal. Roedd rhaid eu gosod ar lefel Ewropeaidd gan ddefnyddio meini prawf gwahanol - rhai’n ffwythiannol, rhai’n ieithyddol a rhai holistig. Er na chafwyd llawer o gonsensws, esgorodd hyn ar lawer o drafod. 
 
 Roedd yr ail weithdy ar Ddiffinio Iaith Academaidd, gyda nifer o gyfranwyr o wledydd gwahanol. Cadeiriwyd y sesiwn gan yr Athro Alan Davies, sy’n dod yn wreiddiol o Gastell Nedd, ond sydd erbyn hyn yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caeredin ar Ieithyddiaeth Gymwysedig. Eto, roedd cryn amrywiaeth yma a rhai’n canolbwyntio’n benodol ar sgiliau fel gwneud nodiadau cyfamserol mewn darlith. Nid oedd neb yn cynnig elfen o drawsieithu, er yn cydnabod bod llawer o’r deunydd astudio, erthyglau a chyfnodolion mewn meysydd arbenigol iawn ar gael yn Saesneg yn unig. Gwelwyd pa mor anodd oedd gwahaniaethu rhwng C1 ac C2 ar y fframwaith. 
 
 Cynhadledd 
 
  Agorwyd y gynhadledd gan Gomisiynydd yr Undeb Ewropeaidd ar Amlieithedd. Pwysleisiodd bwysigrwydd amlieithedd yng nghyd-destun Ewrop, gan gynnwys yr ieithoedd llai eu defnydd. Yn sgil hynny, cafwyd sgyrsiau gan ddau gynrychiolydd o’r Undeb Ewropeaidd, y naill o’r adran Adnoddau Dynol, yn sôn am broblemau recriwtio staff amlieithog a’r llall â chyfrifoldeb am gyfieithu. Diddorol oedd clywed am sut mae’r uned gyfieithu’n trosi rhwng 23 o ieithoedd gwahanol - a bod hon yn system sy’n gweithio’n esmwyth. Crybwyllodd yn ei sgwrs fod rhai wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd penodol. 
 
 Roedd diwrnod y gynhadledd yn gyfle i siaradwyr gwahanol, yn cynnwys un o’r rhai sy’n gyfrifol am yr arholiadau Galiseg. Fodd bynnag, un o’r darlithwyr mwyaf diddorol oedd Sheelagh Rixon, o Brifysgol Warwick. Byrdwn ei darlith oedd bod yn rhaid bod yn ofalus iawn wrth asesu dysgwyr ifanc/plant. Cyfeiriodd at rai o’r problemau a achoswyd gan y TASau yn Lloegr a’r adlif negyddol y mae profion yn gallu ei achosi. 
 
 Testun yr Athro Barry O’Sullivan oedd arholiadau at ddefnydd penodol - LSP, sef arholiadau i’r gweithle. Mae tipyn o ddiddordeb mewn arholiadau fel hyn, er nad yw’r grŵp diddordeb penodol yn ALTE wedi datblygu tan yn ddiweddar. Pwysleisiodd Barry bwysigrwydd diffinio’r parth yn ofalus - hynny yw, adnabod anghenion pobl y gweithle er mwyn datblygu arholiadau ystyrlon. 
 
 Cafwyd cyflwyniad i’r arholiadau Galiseg i oedolion, a nodwyd mai dim ond 35% ar gyfartaledd sy’n pasio! Ceir rhagor o wybodaeth am y ‘Certificado de Lingua Galega’ 
 
  
  Bydd y cyfarfod nesaf yn Maynooth, Iwerddon a chanolbwyntir ar faterion yn codi wrth asesu ieithoedd llai eu defnydd. 
 
 Emyr Davies 
 
  Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion 
 
 
