# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
canolbarth.jpg
pwy_sion.jpg
Enw:
Siôn Meredith

Teitl Swydd:
Cyfarwyddwr

Ble y’ch chi’n byw?:
Cefnllwyd – rhyw bedair milltir y tu allan i Aberystwyth, felly o fewn pellter beicio i’r gwaith (mewn tywydd teg)

Hoff fwyd:
Dw i’n hoff iawn o fwyd, ac mae’n anodd dewis un. Dwi’n hoff o gaws drewllyd ac olewyddion gyda gwydraid o win coch.

Hoff le yng Nghymru:
Cwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn – cwm fy nghyndeidiau yng nghysgod yr Aran, sef fy hoff fynydd.

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Fel tad i ddau o blant, defnyddir y gair ‘paid’ yn go aml! Ond gwell gen i rywbeth fel ‘deuparth gwaith yw ei ddechrau’ gan mod i’n ddiarhebol am wneud pethau ar y funud olaf pan fydd pwysau i gwblhau rhwybeth ar fyrder.


pwy_dafydd.jpg
Enw:
Dafydd Morse

Teitl Swydd:
Swyddog Datblygu â gofal am Gymraeg i’r Teulu ac yn y Gweithle

Ble y’ch chi’n byw:
Llangeitho, Canolbwynt y byd!

Hoff fwyd:
Brechdan ŵy wedi’i ffrïo

Hoff le yng Nghymru:
Fy nghartref yn gyntaf, ond Traeth Mawr, Tŷ Ddewi fel arall.

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Mewn bwyty neu gaffi – ‘Bytwch fel’se chi gartre, ond dim cweit cymaint’.


pwy_elin.jpg
Enw:
Elin Wyn Williams

Teitl Swydd:
Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd

Ble y’ch chi’n byw?:
Aberhosan

Hoff fwyd:
Draenog y Môr

Hoff le yng Nghymru:
Trefdraeth

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
'Dafydd cer i neud paned!’

pwy_jaci.jpg
Enw:
Jaci Taylor

Teitl Swydd:
Swyddog Datblygu

Ble y’ch chi’n byw?:
cartref trefol - yn Aberystwyth
cartref gwledig - yn Bow Street

Hoff fwyd:
Bwyd Gwesty Cymru

Hoff le yng Nghymru:
Ardal Aberystwyth

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Y peth yw …..


pwy_sharon.jpg
Enw:
Sharon Owen

Teitl Swydd:
Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd Cynorthwyol (dros gyfnod mamolaeth Lowri)

Ble y’ch chi’n byw?:
Dw i wedi ymgartrefu yn nhref Aberystwyth ers diwrnod olaf 2008, a dw i’n rhyfeddu at ba mor sydyn y mae acen Gethin fy mab 3 oed yn troi i fod yn ddeheuol!

Hoff fwyd:
Cinio Sul, neu tsips ac ŵy.

Hoff le yng Nghymru:
Traeth ac Eglwys Mwnt ger Aberteifi.

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar.


pwy_lowri.jpg
Enw:
Lowri Jones

Teitl Swydd:
Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd Cynorthwyol (ar gyfnod mamolaeth)

Ble y’ch chi’n byw?:
Capel Bangor

Hoff fwyd:
Salad a Phasta

Hoff le yng Nghymru:
Y fferm deuluol yn Nhalerddig, Llanbrynmair

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Brensiach y Bratiau! (Pan yn siarad â’r plant!)


pwy_fran.jpg
Enw:
Fran Disbury

Teitl Swydd:
Swyddog Rheoli Data

Ble y’ch chi’n byw?:
Tre-Taliesin

Hoff fwyd:
Asbaragws

Hoff le yng Nghymru:
Cartref

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
erbyn pryd wyt ti ei angen?

__________________


Enw:
Carys Hughes Jones

Teitl Swydd:
Gweinyddwraig

Ble y’ch chi’n byw?:
Aberystwyth

Hoff fwyd:
Cinio Dydd Sul

Hoff le yng Nghymru:
Ystrad Fflur


pwy_annwen.jpg
Enw:
Annwen Frost

Teitl Swydd:
Ysgrifenyddes

Ble y’ch chi’n byw?:
Llanbedr Pont Steffan

Hoff fwyd:
Sglodion o ‘Lloyds’ Llambed

Hoff le yng Nghymru:
Caerdydd, am fod yr wyrion yn byw yn y cyffiniau

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Mam wastad yn dweud bod hi a nhad yn ‘byw dan bwced’


pwy_rhian.jpg
Enw:
Rhian Lloyd

Teitl Swydd:
Ysgrifenyddes

Ble y’ch chi’n byw:
Llanilar

Hoff fwyd:
Bwyd Eidalaidd

Hoff le yng Nghymru:
Ceredigion (gweld arwyddion Ceredigion pan yn teithio a meddwl pa mor braf yw dod adre!)

Hoff ddywediad neu ystrydeb:
Ma’ nhw yn nhîn y cŵd neu mae hi wedi mynd i dîn y cwd arnom ni!!!


pwy_felicity.jpg
Enw:
Felicity Roberts

Teitl Swydd:
Tiwtor Llawn Amser â gofal am gyrsiau atodol ardal Aberystwyth

Ble y’ch chi’n byw?
Aberystwyth

Hoff fwyd:
taten â blas da arni, a salad amrywiol efo ŵy

Fy hoff le yng Nghymru:
fy nghartref

Hoff ddywediad neu ystrydeb:
Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad, i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant……


pwy_menna.jpg
Enw:
Menna Morris

Teitl Swydd:
Tiwtor Drefnydd Gogledd Powys

Ble y’ch chi’n byw:
Y Drenewydd

Hoff fwyd:
Bwyd Eidalaidd

Hoff le yng Nghymru:
Llanberis


pwy_lowri2.jpg
Enw:
Lowri Thomas Jones

Teitl Swydd:
Tiwtor-drefnydd Meirionnydd a Bro Ddyfi

Ble y’ch chi’n byw:
Y Bala

Hoff fwyd:
Caws

Hoff le yng Nghymru:
Pen Maes Llan, Llan Ffestiniog

Hoff ddywediad neu ystrydeb:
Mae bywyd fel pryd chinese - ni cheir y melys heb y chwerw ( Wali Thomas - C’mon Midffîld)


pwy_dafydd2.jpg
Enw:
Dafydd Rhys

Teitl Swydd:
Rheolwr Dysgu Cymunedol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Harlech

Hoff fwyd:
Bwyd Môr

Hoff le yng Nghymru:
Pwll Deri

Hoff Ystrydeb neu ddywediad:
Gobaith yr yrfa faith ar y drofa fer


pwy_cet.jpg
Enw:
Cêt Morgan

Teitl Swydd:
Cynorthwyydd Clerigol

Ble y’ch chi’n byw:
Llandre

Hoff le yng Nghymru:
Porth Dinllaen

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Tri chynnig i Gymro


pwy_dafydd3.jpg
Enw:
Dafydd Wyn Morgan

Teitl Swydd:
Swyddog Y Dysgwyr a Dysgu Anffurfiol

Ble y’ch chi’n byw:
Tregaron/Dolgellau

Hoff fwyd:
Cig Eidion

Hoff le yng Nghymru:
Tregaron

Hoff ystrydeb neu ddywediad:
Rwyf wedi dysgu llawer o’m  camgymeriadau ac felly, oherwydd hynny, am wneud rhagor!!!


purpleline.jpg