# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
iatefl2.jpg
Fore Sadwrn mynychais symposiwm â’r teitl:

Grammar Teaching in the Post-Communicative Era.

Yn y symposiwm hwn trafodwyd nifer o bethau o ddiddordeb i ni ym maes Cymraeg i Oedolion a chafwyd gweithdy digon difyr, ‘Practising the Spoken Grammar of English’ gan Simon Mumford, oedd yn canolbwyntio ar ymarfer iaith lafar.

Rhaid defnyddio iaith wahanol mewn gwahanol sefyllfaoedd a rolau cymdeithasol. Bydd patrymau’r iaith a ddefnyddiwn yn amrywio fel bydd y sefyllfa a’r gwrandäwr yn amrywio.

Mae siaradwyr brodorol yn defnyddio gwahanol gyweiriau iaith yn gwbl naturiol, ond mae dysgwyr yn aml yn ei chael hi’n anodd defnyddio iaith anffurfiol iawn a brawddegau anghyflawn. Mae ’na duedd ymhlith dysgwyr i siarad yn orffurfiol a chywir ac mae angen i ni godi eu hymwybyddiaeth o gywair iaith a threulio amser yn ymarfer iaith lafar naturiol ac anffurfiol yn y dosbarth.

Es i i’r symposiwm gan ddisgwyl trafodaeth helaeth ar ddysgu gramadeg ond, yn fy marn i, yr hyn oedd mwyaf defnyddiol oedd ychydig o syniadau ynglŷn â sut i ymarfer iaith lafar anffurfiol yn y dosbarth:


Disgrifio lluniau

Er mwyn trosglwyddo llawer o wybodaeth mewn amser byr, byddwn yn defnyddio cadwyni o ymadroddion yn hytrach na brawddegau llawn. I ymarfer hyn gall y tiwtor ddangos llun am dri deg eiliad ac wedyn ei guddio a’i ddisgrifio mewn 10 eiliad: e.e. môr glas...llawer o bysgod...del a lliwgar iawn...ychydig o greigiau...gwymon sgleiniog - dyna sydd yn y llun. Yna gall y dysgwyr ddisgrifio lluniau i’w gilydd yn yr un modd.


Cyd greu alibi

Dydy pobl ddim fel arfer yn defnyddio brawddegau cyflawn wrth siarad; yn aml bydd un person yn gorffen brawddeg person arall. Dyma weithgaredd arall gan Simon Mumford i ymarfer rhuglder; mae’n amrywiad ar yr hen ffefryn ‘alibi’. Mae’r dysgwyr yn gweithio mewn grwpiau o 3; un ditectif a 2 berson dan amheuaeth. Ni roddir amser paratoi felly rhaid i’r dysgwyr feddwl yn gyflym a gwrando’n astud ar ei gilydd; dylent dorri ar draws ei gilydd a gorffen brawddegau ei gilydd e.e.

iatefl.jpg


iatefl3.jpg
Gall y ditectif gwestiynu aelodau’r grŵp gan ofyn iddynt ail adrodd pwyntiau, felly mae’n rhaid iddyn nhw wrando’n ofalus. Mae angen cydweithio’n agos a meddwl yn gyflym.

Ar ôl y symposiwm roedd amser i fynd i un gweithdy arall ac yna ymadael â’r gynhadledd a mynd draw i’r bar sushi am ginio a sgwrs efo hen ffrind a thrwy hynny fwynhau elfen arall sydd mor bwysig yng nghynhadledd IATEFL - cyfarfod a chymdeithasu efo ffrindiau hen a newydd.


Janette Jones

   purpleline.jpg