# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009

  cydnab.jpg
Mae Prifysgol Bangor yn falch i gyhoeddi bod dosbarth Penrallt wedi ennill y categori Gwobr Grŵp Gweithredu Cymunedol yng Ngwobrau Ysbrydoli Addysg Oedolion eleni. Cyflwynwyd y gwobrau gan y cyflwynydd teledu Sara Edwards a’r cyn athletydd a seren rygbi Nigel Walker mewn seremoni swmpus ym Mhrifysgol Bangor ar 7 Mai.

Cynhelir y Gwobrau i godi’r llen ar Wythnos Addysg Oedolion (9-16 Mai), gŵyl a dathliad dysgu oedolion mwyaf y Deyrnas Unedig, a gydlynir gan NIACE Dysgu Cymru gyda chyllid craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

Cynhelir y dosbarth yng Nghapel Bedyddwyr Penrallt, ac mae’n darparu ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd amrywiol iawn sy’n dysgu Cymraeg am lu o wahanol resymau. Daw rhai o’r dysgwyr o’r ardal leol, ac eraill o leoedd mor bell â St Albans, Nottingham, yr Iseldiroedd ac America. Mae’r dosbarth yma wedi bod yn dysgu Cymraeg am bedair blynedd.

Mae pob un ohonynt nid yn unig yn rhan o ddosbarth ond fel y dywedodd Stel Farrar, eu henwebydd a’u tiwtor: ‘Maent hefyd yn rhan o gymuned glos sy’n cefnogi ei gilydd y tu mewn a thu allan i’r dosbarth.’

‘Maent yn ddysgwyr brwd, sydd wedi gwneud cymaint o ymdrech i astudio’n galed er gwaethaf pwysau teulu a gwaith,’ meddai Stel. ‘Fel canlyniad maent bellach yn rhugl yn y Gymraeg ac, yn bwysicach, maent yn defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn y gymuned, yn y gwaith ac yn eu cartrefi.’

Gyda’r gyfadran Dysgu Gydol Oes hefyd yn darparu meithrinfa, mae’r cwrs yn rhoi mynediad i blant ifanc sy’n mwynhau’r cyfleusterau a all ymuno yn y dysgu gyda’u rhieni, drwy ganu rhigymau a chwarae gemau drwy gyfrwng y Gymraeg.


   purpleline.jpg