# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009

cyngor.jpg  
Ydych chi eisiau gwybod sut mae rheoli dosbarth o allu cymysg?

Ydych chi eisiau gwybod sut i gael gafael ar ddeunydd dysgu penodol?

Oes gennych chi gant a mil o gwestiynau heb eu hateb?

Oes angen Cyngor Cyflym arnoch chi? Ewch i’r adran Cysylltu i anfon eich neges!

_______________________________

       Annwyl Diwtor

       I ba raddau y gall, ac y dylai,
       tiwtor addasu i anghenion
       unigolion mewn dosbarth?

       J. Beynon
       Aberhonddu

_______________________________


Annwyl J.Beynon

Wrth gwrdd â dosbarth Cymraeg am y tro cyntaf, mae cymaint o ffactorau’n gallu effeithio ar lwyddiant unigolion, ac fe all y ffactorau hynny barhau i fod yn ddylanwadol tan ddiwedd y cwrs e.e:

• teimladau ar ddechrau cwrs
• disgwyliadau, dyheadau a nodau dysgu
• profiadau addysgiadol blaenorol, gan gynnwys dysgu ieithoedd eraill
• gallu cynhenid
• personoliaeth
• oedran
• maint y cyswllt â’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth
• os nad ydynt yn Gymry, ers pryd y maent yng Nghymru, a beth yw eu hiaith gyntaf
• cefnogaeth teulu, ffrindiau a chydweithwyr
• sefyllfa’r cartref

Yn yr un modd, ceir nifer o ffactorau sydd hefyd yn medru bod yn rwystr i gynnydd unigolion:
• nifer yn y dosbarth yn rhy fawr/rhy fach
• lleoliad anhygyrch: trafferth gyda pharcio, grisiau ac ati
• ystafell rhy dwym/rhy oer
• diffyg goleuni yn y dosbarth
• methu gweld neu glywed yn dda
• trefn cadeiriau a desgiau anghysurus
• tiwtor sy’n dod drosodd yn ymosodol, aneffeithiol, aneglur, anghyfeillgar, difater neu’n fler
• gwers sy’n symud yn rhy gyflym/rhy araf
• tiwtor sy’n dangos ffafriaeth at unigolion
• gweithgareddau dysgu ddim yn plesio
• egwyl/dim egwyl
• tiwtor sy’n ynganu mewn ffordd anghyfarwydd,
e.e. cael, oer, eisiau, chwarae

Gall fod nifer o ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar lwyddiant y myfyrwyr ac wrth gwrs mae rhai pethau’n ddigon syml i’w datrys ac o fewn gallu’r tiwtor i wneud hynny e.e. gwres yr ystafell, cael egwyl a.y.y.b. Y gamp bryd hynny yw sicrhau bod y myfyrwyr yn trosglwyddo’r anghenion / pryderon i’r tiwtor. Ond mae rhai ffactorau’n fwy cymhleth ac, o bosib, yn ymwneud â phersonoliaethau. I ba raddau, felly, mae hi’n deg disgwyl i diwtor gyfaddawdu budd y grŵp er mwyn rhoi sylw i anghenion neu ddymuniadau unigolyn?
Mae’n debyg mai’r ateb yw anelu am gyfaddawd rhwng polisi’r sefydliad ac arddull unigol y tiwtor (a bod yn barod i addasu).  Rhaid ystyried anghenion yr unigolyn o fewn cyd-destun y grŵp, cyn belled â phosibl.

(Diolch i Helen Prosser ac Owen Saer.)

   purpleline.jpg