# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009

aberteifi1.jpg
Mae cynlluniau mawr ar y gweill yn Aberteifi i achub castell hynafol y dref ac mae llawer iawn o waith eisoes wedi ei wneud a hynny dan arweiniad Ymddiriedolaeth CADWGAN. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2000 gan grŵp o Gymry lleol sydd yn frwdfrydig ynghylch achub y castell. Wedi gwylio dirywiad graddol y castell a’i erddi dros gyfnod o flynyddoedd, roedd y grŵp yn teimlo bod rhaid gweithredu er mwyn achub safle sydd mor bwysig o safbwynt hanesyddol a diwylliannol. Mae castell wedi bodoli yn Aberteifi ers 1093, a dyma fan geni’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1176 dan gyfarwyddyd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd.

aberteifi2.jpg
Nod CADWGAN yw diogelu ac adfer un o drysorau mwyaf y wlad ac, wrth wneud hynny, i gyfrannu at adfywio tref Aberteifi a Cheredigion yn gyffredinol o safbwynt twristiaeth a gwasanaethau Cymraeg, a rheolir prosiect y castell ar y cyd gan Gyngor Sir Ceredigion a CADWGAN. Mae’r prosiect, a fydd yn costio sawl miliwn o bunnoedd, yn cynnwys cynlluniau i adfer adeiladau’r castell a’r muriau, ynghyd ag ailddatblygiad uchelgeisiol o dir y castell. Wrth baratoi’r cynlluniau hyn, mae CADWGAN yn gweithio’n agos gyda Niall Phillips, pensaer gyda Purcell Miller Tritton, ac enillydd Medal Aur Eisteddfod Genedlaethol 2008 am Bensaernïaeth.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys:
Creu canolfan dreftadaeth a diwylliant a fydd yn defnyddio’r dechnoleg ryngweithiol ddiweddaraf i adrodd stori’r castell a’r dref ar hyd yr oesoedd.
  • Canolfan Dysgu Cymraeg i oedolion
  • Lle ar gyfer cynadledda  
  • Tŷ bwyta / caffi
  • Adeiladau masnachu
  • Llety gwyliau
  • Creu swyddi e.e. swyddog prosiect dros dro
O safbwynt dosbarthiadau Cymraeg, bwriedir defnyddio rhai o’r bythynnod sydd yn amgylchynu’r castell fel lleoliad dysgu. Byddai hynny yn sicr yn cynnig profiadau gwerthfawr i ddysgwyr yr ardal ac yn ddigon i annog unrhywun i ddysgu’r iaith! Mae rhai o’r cyfleusterau eisoes yn barod ac yn cynnwys ystafelloedd addas, cegin, toiledau ac iard fach, hunan-gynhaliol.
 
Yn ôl Jann Tucker, cadeirydd CADWGAN, yn ddibynnol ar sicrhau y cyllid angenrheidiol, rhagwelir y bydd cynllun y castell a’r adeiladau wedi ei gwblhau erbyn 2012, gyda’r safle yn agored i’r cyhoedd bryd hynny.

Bryd hynny hefyd, synnwn ni fawr pe bawn yn gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr yn ardal Aberteifi! Pwy arall fyddai’n medru dweud eu bod yn cael gwersi mewn castell?

aberteifi3.jpg