Gan mai’r Canolbarth sydd o dan y chwyddwydr y rhifyn hwn, roedd hi’n anochel y byddai hynny’n dylanwadu ar y gystadleuaeth! 
 
         Gwobr    
 
 Arf pob tiwtor yw’r adnoddau sydd ganddo a dyna paham mae gwobr y rhifyn hwn mor arbennig. Mae Canolfan y Canolbarth yn cynnig gwobr o becyn adnoddau, i gynnwys cardiau fflach bach 1, cardiau fflach bach 2 a chwaraeydd mp4. Os hoffech chi ennill y wobr hon, atebwch y cwestiwn canlynol: 
 

 Y dyddiad cau yw 17 Awst, a does dim gwell ffordd o ddechrau tymor addysgu newydd ym mis Medi na gyda phecyn o adnoddau newydd! Diolch yn fawr i Ganolfan y Canolbarth am ei haelioni. 
 
 I gael mwy o wybodaeth am y Llyfrgell ysblennydd hon, darllenwch yr erthygl  Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr adran Newyddion. 
 
 Manylion  
 
  Llyfrgell Genedlaethol Cymru 
 
  Oriau Agor Cyffredinol 
 
  Llun – Gwener  9:30 – 6:00 
 
  PWYSIG: Bydd y Llyfrgell yn cau ar ddydd Sadwrn o 1 Ebrill 2009 ymlaen.  
 
  Ystafelloedd Darllen 
 
  Llun - Gwener  9.30am - 6.00pm  
 
 Gwasanaeth dydd Sadwrn  
 
  Gwasanaeth cyfyngedig sydd yn yr Ystafelloedd Darllen ar ddydd Sadwrn. Dylid archebu unrhyw ddeunydd sydd i’w ddefnyddio ar ddydd Sadwrn cyn 4.00pm dydd Gwener.  
 
  Mae’r Ystafelloedd Darllen ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus.  
 
 
   
  Arddangosfeydd 
 
  Llun - Gwener  10.00am - 5.00pm 
 
 Caffi  
 
  Lleolir Bwyty Pen Dinas ar lawr gwaelod y Llyfrgell.  
 
  Trowch i’r dde wrth y brif fynedfa, ac mae Pen Dinas yn syth o’ch blaen.  
 
 