# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
  tiwtor:

tiwtorpic7.gif  
Y peth cyntaf sy’n eich taro am Ceri Jones, tiwtor y rhifyn hwn, yw ei bod yn berson cymwynasgar a didwyll, sy’n bwyllog yn wyneb holl brysurdeb y byd dysgu Cymraeg i oedolion. Daw o gefndir amaethyddol, sydd efallai’n gyfrifiol am y nodweddion hyfryd hyn, lle mae rheoli a chyfathrebu yn bwysicach na dim! Cafodd ei magu ar fferm ac mae hithau nawr yn briod â ffermwr hefyd ac yn magu tair o ferched yn eu harddegau ar y fferm deuluol ger y Bala. Bu’n gweithio yn Llys Ynadon Dinbych ac yna mewn gwahanol swyddfeydd yn y Bala cyn penderfynu chwilio am her newydd. Daeth cyfle i ddechrau gyrfa newydd fel tiwtor Cymraeg i oedolion ac roedd hynny’n ddelfrydol iddi, yn rhoi’r cyfle iddi ddefnyddio’i hoffter o’r Gymraeg yn ei gwaith bob dydd.

Mae hi bellach wedi bod yn tiwtora rhan amser ers 12 o flynyddoedd. Mae’n diwtor ffracsiynol dan ofal Canolfan y Canolbarth ac mae ei gwaith yn cynnwys rhyw 5 sesiwn yr wythnos yn ogystal â Sadyrnau Siarad a’r Ysgol Haf. Mae lleoliad ei gwaith yn amrywio o Goleg Y Bala, i Ysgol Y Berwyn a Chanolfan Cywain yn Y Bala.

Ochr allgyrsiol y gwaith sy’n rhoi’r pleser mwyaf iddi, ac mae’n gefnogwr brwd o’r cynllun pontio. Dan ei gofal hi, daw siaradwyr Cymraeg i’w dosbarthiadau yn rheolaidd i sgwrsio â’r dysgwyr. Gwaith gwirfoddol ydy hynny, wrth gwrs, ac mae’n canmol yn fawr ymdrechion y bobl hynny. Yn wir, ar adeg ein sgwrs i greu’r proffil, roedd pâr lleol Cymraeg wedi dod i’r dosbarth i sôn am eu taith tri mis o gwmpas De America gan sgwrsio am y lluniau a’r hanesion gyda’r dysgwyr.

Fel ei dysgwr, Carol Ross, mae Ceri hefyd yn edrych ymlaen yn awchus at yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fydd yn cael ei chynnal dafliad carreg o’r fferm! Mae hi’n arwain drwy esiampl ac ar ôl perswadio’i dysgwyr i gystadlu mi fydd hithau hefyd yn gwneud yr un peth a hynny fel aelod o Gôr Cerdd Dant Cywain. Ni fydd amser i ymlacio yr wythnos honno gan ei bod hefyd yn aelod o Gôr Cwmni Theatr Maldwyn fydd yn perfformio ar benwythnos olaf yr Eisteddfod yn y Pafiliwn. Ar ôl yr holl ganu bydd angen paned a’r lle gorau am baned, mae’n debyg, fydd Maes D, sef pabell y dysgwyr! Fel aelod o Bwyllgor y Dysgwyr sy’n gyfrifol am Faes D, mae Ceri’n ffyddiog y bydd y ddarpariaeth yno eleni yn plesio’n fawr. Aelod arall o’r pwyllgor hwnnw a rhywun y mae Ceri yn ddiolchgar iawn iddi am ei chymorth ar hyd y blynyddoedd yw Shirley Williams.

Un o obeithion Ceri yw y bydd effaith yr Eisteddfod eleni yn parhau am flynyddoedd i ddod ac y bydd dysgwyr yn dal ati i ddysgu’r iaith ac yn ymuno â chlybiau tebyg i’r Clwb Dysgwyr a drefnir gan Antur Penllyn. Mae hi hefyd yn gobeithio treulio mwy o amser yn cadw’n iach, beicio a choginio. Prinder amser yw’r broblem fwyaf mewn ardal lewyrchus sy’n llawn gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol!


purpleline.jpg