# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009

cinio.jpg

Tiwtoriaid y Cymhwyster Cenedlaethol
Llongyfarchiadau i’r deg tiwtor a darpar-diwtor sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf y Cymhwyster Cenedlaethol. Dw i ddim yn gwybod sut maen nhw wedi ffeindio’r amser i gyflawni’r isod:

Cris Dafis – wedi ennill ar raglen ‘The Weakest Link’;
Catrin Saunders a Jordan Morgan Hughes wedi cael swyddi newydd – Catrin yn bennaeth TWF dros gyfnod mamolaeth a Jordan yn Swyddog Datblygu gyda’r Urdd.

Dysgu Anffurfiol yn mynd o nerth i nerth
Dyma griw ar ymweliad diweddar â Gwersyll yr Urdd yng Nglan Llyn a chriw arall yn mwynhau’r heulwen y tu allan i gaffi ‘Just Because’ lle y cynhelir un o’r clybiau cinio.

clwb-cinio.jpg  

Haf 2009
Roedd yr haf yn arfer bod yn gyfnod tawel pan nad oedd fawr ddim yn digwydd yn y maes ond erbyn hyn mae’n siwr bod pawb yn derbyn bod rhaid cynnal y momentwm trwy fisoedd Gorffennaf ac Awst. Ymhlith cynlluniau’r Ganolfan mae 24 o wersi adolygu a rhaglen gyflawn o weithgareddau dysgu anffurfiol trwy’r haf. Hefyd, cynhelir y cyrsiau canlynol:

• cwrs Sylfaen 2, tair wythnos, i ddysgwyr sydd eisiau symud trwy’r llwybr dilyniant yn gynt

• 2 gwrs Mynediad 1, tair wythnos

• Cwrs Haf.

Pe hoffech chi gael rhestr lawn o’r manylion, cysylltwch ag Angharad ar ardavie1@glam.ac.uk.

Adnoddau newydd
Mae rhai o staff rhan amser y Ganolfan wrthi’n gweithio ar adnoddau cyffrous a fydd ar gael i bawb maes o law.

Mae Sylfia Fisher yn llunio cwrs blasu 8 uned ar gyfer gweithwyr iechyd, sef gwaith a gomisiynir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Mae Nia Williams, Carol Williams a Delyth Pollard wedi bod yn cynnal dau gwrs peilot ar gyfer cynorthwywyr dosbarth y Cyfnod Sylfaen (yn y sector Gymraeg). Nod y cwrs yw meithrin hyder a chywirdeb ymhlith y staff hyn. Cyflwynir tystysgrifau i’r 13 o ferched sydd wedi cwblhau’r cyrsiau peilot gan Jane Hutt AC, Gweinidog Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y Cynulliad. Y cam nesaf yw troi’r gyfres o wersi a gynhaliwyd yn adnodd hylaw.

purpleline.jpg