# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009

llyfrgell1.jpg

Wyddoch chi...?

  • Petaech chi’n gosod holl silffoedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn un rhes fe fydden nhw’n ymestyn am dros 120 o filltiroedd!
  • Mae un ystafell yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei gorchuddio o’r llawr i’r nenfwd mewn copr. Yn yr ystafell hon mae casgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru o dapiau sain, rhaglenni teledu a ffilmiau yn cael ei gadw.
  • Beth sydd 33 gwaith yn uwch na Mynydd Everest? Ateb: yr holl lyfrau yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi eu gosod un ar ben y llall!
  • Mae ambell i beth digon rhyfedd yn y Llyfrgell, fel cudyn o wallt yr emynydd William Williams, Pantycelyn!
  • Yr eitem hynaf yng nghasgliad y Llyfrgell yw darn o bapyrus o’r Aifft sy’n dyddio nôl i’r flwyddyn 113 O.C.

Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Y Llyfrgell yw cartref rhai o brif drysorau Cymru. Ymhlith y rhain mae llawysgrifau Cymraeg fel Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch, y ffotograff cyntaf o olygfa yng Nghymru, a’r llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru. Ochr yn ochr â nhw ceir deunydd mwy modern fel ffilmiau, cerddoriaeth, llythyrau a dyddiaduron – gyda’r cyfan yn adrodd hanes Cymru fel cenedl neu hanes y Llyfrgell ei hun.

Dechreuodd casgliadau’r Llyfrgell gyda sefydlu casgliad Cymreig yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Ychwanegwyd ato gan rodd Syr John Williams, meddyg a chasglwr llyfrau. Addawodd roi ei gasgliad helaeth (dros 26,000 o lyfrau a llawysgrifau) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru petai’n cael ei lleoli yn Aberystwyth.

Ers 1911 mae’r Llyfrgell wedi mwynhau’r hawl i gasglu copi o bob gwaith printiedig a gyhoeddir yn y DU ac Iwerddon. Mae ein casgliadau hefyd yn tyfu drwy bwrcasiadau a rhoddion caredig gan unigolion a sefydliadau fel ei gilydd.


Addysg

Mae Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig gweithdai ar hanes a diwylliant Cymru i bobl sy’n dysgu Cymraeg, gan ddefnyddio eitemau o’r casgliad i gyfoethogi eu dealltwriaeth o Gymru.
  • Gellir edrych ar ddatblygiad y Gymraeg, o rai o'r cerddi hynaf yn yr iaith sydd i’w canfod yn Llyfr Taliesin i Feibl William Morgan fu'n sail i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern, ac o’r Llyfrau Gleision wnaeth gymaint i danseilio’r iaith i’r protestiadau iaith wnaeth gymaint i’w hadfer.
  • Gallwn gyflwyno hanes y syniad o genedl Gymreig o Gyfraith Hywel Dda i Oes y Tywysogion, ac o’r Deddfau Uno i ddatganoli.
  • Neu beth am edrych ar hanes cymdeithasol Cymru, a sut a pham y trodd Cymru o fod yn wlad amaethyddol i fod yn un o bwerdai diwydiannol y byd, a beth oedd effaith hyn ar y gymdeithas.
Mae hyn oll yn rhan o raglen rhad ac am ddim sy’n cael ei chynnig gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thrwy astudio hanes a diwylliant Cymru a defnyddio eitemau gwreiddiol o’r casgliad bydd modd dod i ddeall a gwerthfawrogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn llawnach.


Beth am ddod â’ch dosbarth ar ymweliad â’r Llyfrgell?

Mae modd teilwra’r cyrsiau hyn i ateb gofynion penodol y dysgwr neu’r dosbarth, neu mae modd paratoi rhywbeth penodol ar eich cyfer os oes angen.

Hefyd, cynigir Teithiau Tywys o gwmpas Llyfrgell Genedlaethol Cymru bob dydd Llun am 11.00 y bore fel arfer ac maent yn rhad ac am ddim. Gall grwpiau hefyd drefnu Teithiau Tywys ar adegau eraill.

Croesewir grwpiau o ddysgwyr, yn enwedig, i fwynhau arlwy’r Llyfrgell trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir gwneud trefniadau ymlaen llaw i addasu cyrsiau a theithiau at anghenion grwpiau unigol. Ac ar ôl yr holl waith caled, beth am gael hoe fach yng nghaffi’r Llyfrgell, sef Bwyty Pen Dinas! Yna, gellir ymlwybro draw i’r Siop ac mae cefnogi’r Siop yn helpu’r Llyfrgell yn ei gwaith o gasglu, diogelu ac arddangos trysorau Cymru.

Owen Llywelyn

animated-line.gif
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Owen Llywelyn (Swyddog Addysg):   
01970 632528
neu ewch i wefan y Llyfrgell, www.llgc.org.uk

Ewch i’r adran Deunydd Dysgu (Y Tiwtor) er mwyn gweld enghraifft o’r adnoddau a’r tasgau iaith sydd i’w gweld ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.
llyfrgell2.jpg