Mae gwefan newydd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau anffurfiol ar ffurf podlediadau wedi’i lansio ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn ddiweddar.
Mae Cymraegonthemove wedi’i chreu gan Gwmni Aliaith o’r Felinheli, ac mae’r gyfres gyntaf o sgyrsiau wedi’i hanelu at ddysgwyr sydd wedi bod yn dysgu ers dwy flynedd a mwy.
‘Dw i’n grediniol mai gwrando ydi’r peth pwysicaf un wrth ddysgu iaith, ac mae’r wefan hon yn darparu’r math gorau o wrando, sef sgyrsiau anffurfiol, a hynny rhwng Cymry Cymraeg a dysgwyr,’ meddai Aled G Jôb ar ran Cwmni Aliaith.
‘Mae yna sgriptiau i gyd-fynd hefo pob podlediad a dan ni hefyd wedi paratoi Canllawiau Dysgu sy’n awgrymu sut y gall dysgwyr wrando ar y podlediadau a’r sgriptiau hefo’i gilydd. Mae gwrando a darllen y sgript ar yr un pryd yn ffordd i atgyfnerthu’r dysgu sy’n digwydd.’
Gall dysgwyr wrando neu lawrlwytho 24 sgwrs am ddim ar eu cyfrifiadur/gliniadur, Mp3 neu I-Pod , a darperir 3 sgript am ddim hefyd fel bo modd i ddysgwyr gael blasu’r cynnyrch dan sylw.
Mae ail gyfres ar y gweill, a hynny ar gyfer dysgwyr newydd, a’r gobaith ydi y bydd y gyfres hon yn barod ar gyfer Eisteddfod y Bala ym mis Awst.
‘Un peth arall dan ni isio’i wneud ydi mynd â’r syniad i’r priffyrdd a’r caeau, fel bo modd i ddysgwyr ym mhob rhan o Gymru gymryd rhan yn y sgyrsiau nesaf. Os oes yna diwtoriaid sy’n gwybod am ddysgwyr hoffai gymryd rhan ym mhrosiect Cymraegonthemove wrth iddo ddatblygu, efallai y gallan nhw roi gwybod imi.’
Os ydi’r cynnyrch yn apelio at y defnyddwyr, y nod tymor hir ydi datblygu gwasanaeth dyddiol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, gan gynhyrchu podlediadau dyddiol fyddai’n cynnwys iaith y gogledd neu’r de, yn ôl dymuniad y dysgwr.
Am fwy o fanylion, ewch i www.cymraegonthemove.co.uk, neu e-bostiwch post@cymraegonthemove.co.uk.
* Ewch i’r adran Deunydd Dysgu i glywed enghraifft o’r podlediadau ac i weld rhai o’r tasgau sy’n seiliedig arnyn nhw.