# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009
clecs_issue6.jpg clecs1.jpg
clecs2.jpg

clecs3.jpg
Erbyn hyn mae 3 Clonc Mawr wedi eu cynnal, gyda rhan dau wedi ei chynnal ddydd Sadwrn 18 Ebrill pan gerddodd y grŵp o Saundersfoot i Ddinbych y Pysgod. Cynhaliwyd rhan 3 ddydd Sadwrn 30 Mai a cherddodd y grŵp bryd hynny o Ddinbych y Pysgod i Lydstep.

Mae’r Clonc Mawr yn cynnig cyfle i oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg ddefnyddio eu Cymraeg wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Bydd un Clonc Mawr bob mis am wyth deg mis. Y syniad yw cerdded un rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro bob mis am chwe mlynedd a hanner. Mae’r Clonc Mawr ar gyfer oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg, eu teuluoedd a’u ffrindiau ac wrth gwrs y Cymry.

Cynhelir Clonc Mawr 4 a 5 ar 20 Mehefin ac 11 Gorffennaf, ac os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am y teithiau, ffoniwch 01437 776785 neu anfonwch neges at cloncfeistr@ycloncmawr.co.uk  

   Iaith ar Daith
Cynhaliwyd wythnos Iaith ar Daith yn Sir Y Fflint rhwng 25 Ebrill a 2 Mai eleni. Bwriad yr wythnos oedd hyrwyddo’r Gymraeg mewn ysgolion, mewn cymunedau, mewn gweithleoedd a chyda Cymry, dysgwyr a Chymry di-Gymraeg ar draws Sir Y Fflint. Roedd y daith yn gyfle i holl bartneriaid iaith Sir Y Fflint ddod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant Cymru. Dyma’r drydedd wythnos Iaith ar Daith i’r Sir ei threfnu. Cynhaliwyd amrywiaeth fawr o sesiynau bore, prynhawn a chyda’r nos, gyda sesiynau arbennig ar gyfer plant ac oedolion. Daeth y dathliadau i ben gyda Gŵyl Cadi Ha’ a Thwmpath Dawns Calan Mai.


Gŵyl Roc Y Ffin

Peidiwch â phoeni os na lwyddoch i fynd i rai o weithgareddau’r wythnos Iaith ar Daith oherwydd mae Menter Iaith Sir y Fflint hefyd yn cynnal Gŵyl Roc Y Ffin ar ddydd Sadwrn y 25ain o Orffennaf mewn cydweithrediad â Charnifal Yr Wyddgrug ar faes y Rec, Maes Bodlonfa. Os oes gennych fand neu os gwyddoch am fand lleol a fyddai’n hoffi perfformio, cofiwch gysylltu â Menter Iaith Sir y Fflint: gwybod@menteriaithsiryfflint.co.uk

01352 744040

Uned 3
Parc Busnes Yr Wyddgrug
Ffordd Wrecsam
Yr Wyddgrug
CH7 1XP

animated-line.gif

   cystad5.jpg
Yn y rhifyn diwethaf, roedd cyfle i chi ennill tocyn teulu Llancaiach Fawr. (Mynediad am ddim i ddau oedolyn a dau blentyn.) Y dyddiad cau oedd 18 Mai a dyma’r cwestiwn:

Ym mha sir y mae Llancaiach Fawr?

Yr ateb wrth gwrs yw Caerffili a’r enillydd yw Colin Pari o Bontyclun. Llongyfarchiadau mawr iddo.

Cofiwch am y gystadleuaeth yn y rhifyn hwn ac ewch i’r adran Cysylltu i anfon eich ateb. Y dyddiad cau y tro hwn yw Awst 17 a’r wobr yw pecyn o adnoddau Cymraeg i oedolion, sy’n cynnwys cardiau fflach a chwaraeydd MP4, yn rhoddedig gan Ganolfan Iaith y Canolbarth. Y cwestiwn yw:

       clecs-4.jpg

Pob Lwc!

   purpleline.jpg