Bydd Maes D ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 yn fan croeso i amrywiaeth o bobl gan gynnwys dysgwyr y Gymraeg a thiwtoriaid. Mae Pwyllgor y Dysgwyr, dan arweiniad Shirley Williams, wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ers misoedd i sicrhau amrywiaeth o weithgareddau fydd yn apelio at amrywiaeth fawr o bobl.
Agorir Maes D yn swyddogol gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, a bydd pob diwrnod yn dilyn patrwm o weithgareddau iaith, sesiwn balchder bro, cyffro’r corff cyn cinio, sesiwn dros ginio a pherson gwadd yn y prynhawn. Ar ddiwedd pob diwrnod fydd adloniant neu gerddoriaeth ysgafn a chewch gyfle i glywed hanesion lleol, gwneud ymarferion aerobeg a thai chi, gwneud bagiau a choginio.
Ymhlith cyfranwyr Maes D eleni y mae Buddug Medi, Bethan Gwanas, Billy Thompson, Dafydd Iwan a Siân James, ac fe fydd pob diwrnod yn cynnig rhywbeth gwahanol, e.e:
- Bydd Dydd Mawrth (Awst 4ydd) yn ddiwrnod y tiwtor Cymraeg gyda stondinau ac adnoddau ar gael i diwtoriaid eu gweld a bydd amrywiaeth o bartneriaid wrth law i drafod gyda chi.
- Bydd Dydd Mercher (Awst 5ed) yn un o uchafbwyntiau’r wythnos gyda gwobrwyo Dysgwr Y Flwyddyn. Cynhelir y Seremoni Wobrwyo yng Nghanolfan Cywain gyda’r hwyr ac os ydych am docyn yna brysiwch i’w archebu. Yn hynny o beth, hoffai’r Pwyllgor longyfarch y pedwar ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol sef (o’r chwith i’r dde): Zoe Morag Pettinger o Drisant, Aberystwyth; Meggan Prys Lloyd o Riwlas, Bangor; John Burton o Benmachno, Conwy; a Dominic Gilbert o Fanceinion.
Pob hwyl iddynt yn y Bala!
Diwrnod y cystadlu bydd y Dydd Iau gydag ystod o gystadlaethau llwyfan yn cynnig cyfleoedd i ddysgwr ddatblygu eu sgiliau a pherfformio ar lwyfan yn y Gymraeg.
Fe welwch felly fod gennym wythnos lawn o weithgareddau ym Maes D eleni ac mi fydd croeso twymgalon yno i chi, boed glaw neu hindda! Os am ragor o wybodaeth am y trefniadau neu os ydych am wirfoddoli i weithio yn y babell, cysylltwch â Dafydd Wyn Morgan ar dafydd@eisteddfod.org.uk neu ffoniwch 07748 675798.
Dafydd Wyn Morgan
Swyddog y Dysgwyr a Dysgu Anffurfiol