Daeth hanner cant o bobl at ei gilydd yn ddiweddar i lansio dogfen Llywodraeth y Cynulliad, ‘Canllawiau ar gyfer trefnu hyfforddiant iaith Gymraeg yn y gweithle’. Roedd y lansiad yn rhan o seminar a drefnwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion y De Orllewin yn trafod Cymraeg yn y Gweithle a sut mae trefnu cyrsiau a chael y gorau o’r sesiynau.
Ymhlith y siaradwyr oedd John Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Cyflwynodd Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwr Canolfan Caerdydd a’r Fro, amlinelliad o ganllawiau cynllunio hyfforddiant iaith.
Cafwyd hefyd grynodeb o ymchwil a wnaed gan Ganolfan y Gogledd gan Aled Davies, Cyfarwyddwr Canolfan y De Orllewin. Roedd nifer o ddysgwyr yn y gweithle yn bresennol a chafwyd hanesion difyr gan rai unigolion yn olrhain eu hymdrechion i ddysgu’r iaith.
Chris Reynolds