![adnabod.jpg](/delweddau/hen/adnabod.jpg)
Mae’r rhifyn hwn o’r Tiwtor yn edrych yn benodol ar ardal Canolfan y Canolbarth, sy’n ymestyn o Ystradgynlais i’r Bala, ac o’r Gelli Gandryll i Aberystwyth. Poblogaeth y rhanbarth yw 226,847, gyda 89,246 o bobl y rhanbarth yn siarad Cymraeg. Mae 54% o boblogaeth Ceredigion yn medru’r Gymraeg, 65% o boblogaeth Meirionnydd yn gwneud, a 24% o boblogaeth Powys. Serch hynny, mewn rhanbarth mor fawr â hyn mae yma ardaloedd lle ceir bron i 85% o’r boblogaeth ym medru’r Gymraeg, ac mewn ardaloedd eraill nemor ddim siaradwyr.
Un peth ydy darparu dosbarthiadau Cymraeg i oedolion, peth arall ydy darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth. Gellir trefnu beth wmbreth o weithgareddau dysgu anffurfiol ond, i ddysgwyr, mae’r cam hwnnw i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn y gymuned yn enfawr.
Braf iawn felly yw gwybod am fusnesau sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg. Mae dysgwyr y Canolbarth yn ddigon ffodus yn hynny o beth gan fod dewis eang ganddynt o fusnesau dwyieithog.
Y Sgubor Harddwch
Ar waelod y sir, os ydych am roi ychydig o faldod i’ch corff trwy gyfrwng y Gymraeg, does unman gwell na’r Sgubor Harddwch ym Mhengallt, ger Castell Newydd Emlyn. Ar fferm ei theulu yno y mae Sioned Jones, merch 22 oed, wedi agor y salon. Ar ôl cyfnod o hyfforddi a gweithio oddi cartref daeth yn ôl i’r ardal i addasu’r beudy yn salon harddwch modern sy’n darparu triniaethau wyneb, dwylo a cherrig poeth. Mae yno wasanaeth sba, ystafell stêm a sawna. Mae Sioned yn defnyddio nwyddau arbennig gan gwmni croen newydd o’r enw Thalgo a bu’n rhaid iddi fynd i Lundain i gael hyfforddiant arbenigol.
![adnabod2.jpg](/delweddau/hen/adnabod2.jpg)
Hefyd, Y Sgubor Harddwch yw’r unig le yng Nghymru i gynnig cyfleusterau dyddiol capsiwl hydrotherapi.
Iddi hi, mae’n bwysig ei bod yn medru darparu gwasanaeth dwyieithog ac mae’n creu perthynas agos â’i chwsmeriaid, o’r briodferch i’r grwpiau sy’n dod ati i ddathlu penblwyddi arbennig!
![animated-line.gif](/delweddau/hen/animated-line.gif)
Jibinc
Wrth deithio i fyny trwy ardal y Canolbarth, mae yna gadwyn o siopau dillad a nwyddau i’r cartref sy’n adnabyddus iawn erbyn hyn fel busnes sy’n rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu gwasanaeth dwyieithog a chyflogi staff dwyieithog. Bwriad Rhian Dafydd, y perchennog, wrth sefydlu siopau Jibinc a Jac Do oedd datblygu busnes cyfoes Cymraeg sy’n ffres ac yn atyniadol. Bellach, mae ganddi ddwy siop yn Aberaeon, un yn Aberystwyth ac un ym Machynlleth.
![adnabod3.jpg](/delweddau/hen/adnabod3.jpg)
Bu Rhian yn gweithio fel Swyddog Estyn Llaw yn hyrwyddo dwyieithrwydd gyda mudiadau gwirfoddol ac mae’r profiad hwnnw yn sicr yn amlwg yn ôl llwyddiant ei chwmni. Gwnaeth dipyn o waith ymchwil ar y dechrau, gan edrych ar elfennau megis demograffi ac arferion iaith ei chwsmeriaid. Wrth i’r cwmni fynd o nerth i nerth, bu’n cydweithio â Cered (Menter Iaith) a Bwrdd yr Iaith gan hyrwyddo Cymreictod ei busnes.
Teimla Rhian ei bod yn bwysig talu’n ôl i’r gymuned am y gefnogaeth hollbwysig honno, ac o ganlyniad mae’n cynnal gweithgareddau cymunedol yn rheolaidd i godi arian at achosion da, megis Sioe Ffasiynau. Yn ogystal â hynny, mae grwpiau Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr yn ymweld â’r siopau yn aml.
Yn ôl y wraig fusnes hon, does dim amser i laesu dwylo ac mae hi eisoes wedi troi llawr cyntaf y siop yn Aberaeron yn oriel a thŷ te. Ond does dim amser am baned chwaith wrth iddi ddatgleu efallai bod yna gynlluniau eraill ar y gweill hefyd. Pob hwyl iddi
![purpleline.jpg](/delweddau/hen/purpleline.jpg)