Dych chi’n cael trafferth ynganu rhyw air neu‘i gilydd weithiau? Rhyw air sy’n mynnu dod allan yn anghywir? A’r mwya dych chi’n meddwl am y gair hwnnw a thrio’i ddweud yn eich pen, mae o dal i sleifio allan o’ch ceg cyn i’ch ymennydd roi caniatâd iddo! Wel, un o’r geiriau hynny sy’n peri i mi chwysu bob tro ydy’r gair Saesneg hwnnw am ystum - ‘gestures’.
Nôl ym mis Tachwedd y llynedd, pan gytunodd Haydn Hughes a mi i roi sesiwn hyfforddi ar y cyd yng Nghynhadledd IATEFL eleni yng Nghaerdydd, ‘roedd mis Ebrill ar ryw orwel pell iawn, a thybiem y byddai digon o amser i baratoi ac i feddwl am syniadau. Ond fel popeth arall, buan daeth dechrau Mawrth, a’r amser paratoi yn mynd yn brinach a phrinach. Gan ein bod wedi gwneud cryn dipyn o waith hyfforddi ar sgiliau gwrando, dyma benderfynu cynnig sesiwn o’r enw ‘Sharp Listening’ a oedd i gynnwys rhyw bedwar gweithgaredd a fyddai’n tanlinellu pwysigrwydd ymateb yn weladwy wrth wrando. Er ein bod wedi cynnig sawl sesiwn hyfforddi i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ein hardal, peth hollol newydd oedd gwneud rhywbeth fel hyn drwy gyfrwng y Saesneg, ac fel yr ai’r wythnosau yn eu blaenau, a dechrau mis Ebrill yn dynesu, ‘roedd hyn yn dechrau fy mhoeni. Yr unig gysur oedd meddwl mai fel fi, ail-iaith yw’r Saesneg i lawer iawn o fynychwyr IATEFL. Ond a ddylen ni drio cyflwyno mewn rhyw Saesneg grand, neu a fyddai cyfuniad o Saesneg Sir Drefaldwyn a Saesneg Caernarfon yn gwneud y tro? Rhyw bethau bach gwirion fel hyn oedd yn fy mhoeni am yr wythnosau oedd yn arwain at y gynhadledd. Rhai o’r pryderon eraill oedd na wyddem faint o bobl i’w disgwyl i’n sesiwn, faint o daflenni byddai eu hangen, a fyddai digon o le i gynnal y gweithgareddau, sut ‘stafell oedd ar gael i ni, fyddai’r PowerPoint yn gweithio, fyddai’r adnoddau sain yn gweithio’n iawn?
Erbyn i wythnos y gynhadledd gyrraedd, ‘roedd y nerfau yn frau iawn, a rhyw deimlad ofnadwy ym mhwll fy ‘stumog! Pam o pam y cytunom ni i wneud hyn? ‘Don i ddim wedi medru canolbwyntio rhyw lawer ar y sesiynau a welais ar ddechrau’r wythnos yn IATEFL gan fod y deugain munud rhwng hanner awr wedi pedwar a deng munud wedi pump, b’nawn Iau Ebrill 3ydd wedi eu serio ar fy meddwl, gan ddiystyru pob dim arall. Wrth weld y cyfranwyr eraill yn cynnal eu sesiynau, ron i’n cenfigennu at ba mor hyderus oeddynt, a pha mor rhwydd yr oeddynt yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa gyda’r eirfa goeth a’r termau gramadegol Saesneg yn llifo’n esmwyth a naturiol. Wedi dweud hynny, mae’n rhaid i mi gyfaddef bod gweld sesiwn wael wedi gwneud i fi deimlo cryn dipyn yn well!
Bore dydd Iau, a fawr o flas ar frecwast yn yr Etap! Criw ohonom yn bwyta, a finnau’n eitha tawedog ymhlith bwrlwm sgwrs y merched eraill, yn ceisio gorfodi’r croissant i fynd ymhellach na’r corn gwddw! Ymhlith y clebrwrs ar y bwrdd brecwast ‘roedd David Heathfield, un o hoelion wyth Cynhadledd IATEFL, un sy’n uchel iawn ei barch yn y byd dysgu Saesneg ac un sy’n cyfrannu’n flynyddol at y Gynhadledd gyda sesiynau difyr ar sut mae adrodd storïau yn helpu’r broses o ddysgu iaith. Manteisiais innau ar y cyfle i’w holi am ychydig o dips, ond difaru wnes i pan gododd o’r bwrdd gan ddweud: ‘ Oh, I’ll look forward to coming to see you.’
Roedden ni wedi cael ambell gyfle i ymarfer yn ystod yr wythnos, a’r gair bach ‘gestures’ yna yn parhau i fod yn broblem, fy ngyd–gyflwynydd yn tynnu coes yn barhaol am y cam-ynganu, ac ‘roedd rhai o’m cyd gynadleddwyr CiO yn gwneud pethau’n waeth drwy fy atgoffa o’r gair ar bob cyfle! Cyrraedd yr ystafell ei hun b’nawn Iau, ac eistedd mewn sesiwn hynod ddiflas er mwyn cael bod yn yr ystafell i osod ein stondin ar y cyfle cyntaf posib, gan geisio dyfalu faint o bobl fyddai’n dod. Gwyddom fod ein cyfeillion CiO yn mynd i ddod yno i’n cefnogi felly fedren ni efallai obeithio am rhyw 20 yn ein sesiwn? Ceisio meddwl am wahanol senarios a sut y byddem yn addasu’r gweithgareddau ar gyfer criw bach / criw mawr…a’r nerfau’n parhau i gynyddu. Oedd gen i amser i redeg i’r tŷ bach? Na, gwell peidio, trio tawelu’r meddwl, cymryd joch o Powerade, anadlu’n ddwfn, a dyma’r dorf o gant yn dechrau llifo mewn, David Heathfield yn eu plith. ‘Roedd yr ystafell yn llawn, a diolch byth am yr wynebau cyfarwydd oedd wedi eu plannu hwnt ac yma yn y gynulleidfa. Anadl ddofn arall, a dechrau arni, ac ymhen dim ‘roedd y cyfan ar ben, gyda’r wên ar wynebau o bob cwr o’r byd yn dangos, gobeithio, bod pawb wedi mwynhau’r deugain munud o weithgareddau swnllyd.
Er gwaetha’r holl boeni ches i ddim trafferth gyda’r gair ‘gestures,’ er i mi ei ynganu rhyw bump o weithiau yn ystod y sesiwn, yn ôl ffrind i mi a oedd yn cyfri! Ond dw i’n meddwl y bydd y gair ‘captivate’ yn fwgan i’m cyd-gyflwynydd am flynyddoedd i ddod..!
Elin Williams