Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl ymchwil y gogledd

bulletPam wnaethoch chi benderfynu dysgu Cymraeg?

bulletPa weithgareddau dosbarth sy’n eich helpu chi i ddysgu?

bulletBeth ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gallu ei wneud erbyn diwedd y cwrs?


Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnwyd i dros 1,000 o ddysgwyr Cymraeg fel rhan o brosiect ymchwil sy’n cael ei gynnal yng ngogledd Cymru. Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a sefydlodd y prosiect, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Y man cychwyn oedd ymateb i’r diffyg ymchwil ym maes Cymraeg i Oedolion trwy gynnal yr astudiaeth hydredol, ranbarthol gyntaf o gynnydd a dilyniant dysgwyr. Trwy gasglu tystiolaeth ledled gogledd Cymru am gyfnod o dair blynedd, bydd y prosiect yn darparu sail gadarn i gefnogi datblygiadau newydd yn y maes. Llais y dysgwr yw hanfod y dystiolaeth hon.

llinell

Ymhlith y pynciau ymchwil mae boddhad y dysgwyr gyda’r ddarpariaeth dysgu iaith a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, eu defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, y rhwystrau maent yn eu hwynebu a’u bwriadau o safbwynt parhau ar eu taith iaith. Mae’r dystiolaeth yn cael ei chasglu trwy gyfrwng holiaduron a chyfweliadau gyda grwpiau o ddysgwyr ac unigolion. Rhwng 2008 a 2010 dosbarthwyd tri holiadur i ddysgwyr newydd, rhwng dechrau eu cwrs cyntaf a diwedd eu hail gwrs. Cyflwynir yma ddetholiad o ganlyniadau’r ddau holiadur cyntaf.

llinell

Siarad Cymraeg gyda’r plant a’u helpu gyda’u gwaith cartref oedd y prif resymau dros ddysgu Cymraeg, yn ogystal â symud i Gymru neu i gymuned Gymraeg. Yng nghyd-destun y teulu, ymhlith plant a chymheiriaid y dysgwyr yr oedd yr iaith ar ei chryfaf, yn hytrach nag ymhlith y genhedlaeth hŷn. O ganlyniad i’w cwrs, dywedodd dysgwyr eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn amlach gyda’u teulu a’u ffrindiau. Dyma arwyddion cadarnhaol o botensial y Gymraeg fel iaith deuluol a chymunedol, a rhan ganolog o fywyd dysgwyr. 

llinell

Mynegodd y dysgwyr fodlonrwydd gyda safonau’r addysgu a’r adnoddau ar y cyrsiau. Y gweithgareddau a ystyrid fwyaf effeithiol yn y dosbarth oedd hyfforddiant gan y tiwtor, ailadrodd ac ymarfer siarad. Prif anawsterau’r dysgwyr oedd deall y gramadeg, diffyg geirfa a diffyg hyder. Daeth yn amlwg mai ychydig y defnyddid y dechnoleg ddiweddaraf yn y gwersi o’i chymharu ag adnoddau eraill, ac mae’r prosiect yn ymchwilio i sut mae dysgwyr yn defnyddio technoleg y tu allan i’r dosbarth, yng nghyd-destun y Gymraeg.

llinell

Prif ddisgwyliadau’r dechreuwyr o’u cwrs cyntaf oedd y byddent yn llwyddo i ddysgu ynganu’r Gymraeg yn dda ac i gynnal sgyrsiau syml. Dyma ddisgwyliadau addas a chanlyniad cadarnhaol, gan y gallai disgwyliadau rhy uchelgeisiol arwain at siomi dysgwyr, tanseilio eu hyder ac amharu ar ddilyniant yn y pen draw. Mae diffyg dilyniant yn destun pryder yn y maes ac mae’r prosiect yn ymchwilio i’r hyn sy’n rhwystro dysgwyr rhag parhau. Eleni, mae cyfweliadau ffôn yn cael eu cynnal gyda’r rhai sydd wedi gadael cwrs yn ddiweddar, ac yn yr holiadur cychwynnol, holwyd y dysgwyr am eu rhesymau dros adael cwrs yn y gorffennol. Dangosodd dadansoddiad o’r ymatebion mai’r ddau brif rheswm oedd blaenoriaethau eraill a diffyg amser, yn hytrach nag anfodlonrwydd gyda’r ddarpariaeth. Ar y llaw arall, y trydydd rheswm mwyaf cyffredin oedd canfod bod y Gymraeg yn iaith anodd ei dysgu. Mae hyn yn awgrymu bod angen ystyried sut y cyflwynir y Gymraeg i ddysgwyr newydd a sut maent yn cael eu paratoi ar gyfer eu taith iaith.

llinell

Cipolwg cryno iawn o ganlyniadau’r ymchwil a gyflwynir yma, pigion o’r data sylweddol sydd wedi ei gasglu hyd yn hyn. Cyhoeddir manylion pellach wrth i’r ymchwil barhau, a gobeithir y byddant o ddiddordeb i bawb sy’n ymwneud â Chymraeg i Oedolion a maes caffael ail iaith yn gyffredinol.

 

Hunydd Andrews
Swyddog Ymchwil, Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd, Prifysgol Bangor

llinell