Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Newyddion y Canolbarth

Rhannu’r gwersi a rhannu’r gost
llinell

Yn Ebrill 2010, daeth cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys atom i ofyn a fyddai’n bosib i ni gynnig cwrs Cymraeg yn y Gweithle ar dri safle iddyn nhw: yn y Drenewydd, Llandrindod ac yn Aberhonddu. Roeddent wedi ennill grant, ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, i gynnig hyfforddiant Cymraeg i staff y sefydliadau yma. Fel darparwyr Cymraeg i Oedolion yn y canolbarth, roeddem fel Canolfan yn falch o fedru cynorthwyo’r Cyngor Sir yn eu cais, ac aed ati i drefnu cyrsiau, tiwtoriaid a lleoliadau. Mae’r Ganolfan a’i darparwyr yn cynnig cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle ar draws y rhanbarth i gyflogwyr cyhoeddus a phreifat.

Yn fuan wedi hyn, cawsom gais arall gan y Cyngor Sir a’r Bwrdd Iechyd Lleol, oedd yn y cyfamser wedi trafod y cais gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol.  Ffurfiwyd y Byrddau Gwasanaethau Lleol er mwyn i arweinwyr sefydliadau lleol yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ddod at ei gilydd er mwyn gweithredu ar y cyd i sicrhau bod gwasanaethau i'r cyhoedd yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar y dinesydd. Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a chynnig y gwerth gorau am arian, mae’r Byrddau hefyd yn ceisio rhannu hyfforddiant ymysg y gweithleoedd gwahanol, a phenderfynwyd felly estyn gwahoddiad i aelodau’r Bwrdd i dderbyn hyfforddiant Cymraeg yn y Gweithle ar y cyd.

Yn sgil y penderfyniad hwn, trefnwyd y byddem yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg yn y Gweithle, o lefelau Mynediad i Ganolradd, yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd. Cafwyd diwrnodau gwybodaeth ar y tri safle hwn, a mynegodd dros gant o weithwyr ddiddordeb yn y cynllun. Un o’r pethau ddaeth i’r amlwg oedd bod nifer sylweddol o weithwyr clinigol y Bwrdd Iechyd lleol yn dangos diddordeb, yn ogystal â’r gweithwyr gweinyddol arferol.  Llwyddwyd i ddenu gweithwyr o’r Bwrdd Iechyd lleol, Cyngor Sir Powys, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Choleg Powys. Roedd mwy o ddiddordeb ar lefelau Mynediad a Sylfaen, er bod dosbarthiadau bychain Canolradd wedi cychwyn yn Aberhonddu a Llandrindod. Mae’r dosbarthiadau yn dilyn cyrsiau CBAC am ddwy awr yr wythnos, ac mae cynlluniau ar y gweill i gychwyn cynllun mentora ar Chwefror 28ain (yn Llandrindod yn y lle cyntaf).

O safbwynt y Ganolfan, mae’r cyrsiau yn golygu ein bod yn gallu cynnig dosbarthiadau hyfyw i’r gweithleoedd, ac yn golygu ein bod yn medru cynnig gwersi sydd yn rhannu’r gost i weithleoedd hefyd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y trefniant hwn yn llwyddo ac yn dwyn ffrwyth.

Dafydd Morse

 

llinell