Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl trosglwyddo Cymraeg i Oedolion

Mae tîm o ymchwilwyr a leolir yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi ennill grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymchwil ym maes Cymraeg i Oedolion. Nod yr ymchwil hwn yw ‘ystyried sut y gellir gwella’r ffordd y caiff y Gymraeg ei throsglwyddo i oedolion’. Mae’r tîm, a arweinir gan Dr Diarmait Mac Giolla Chríost o Ysgol y Gymraeg, yn cynnwys yr Athro Alison Wray o Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd, a Dr Rachel Heath-Davies a Dr Adrian Price o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg (sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg). Hefyd, mae nifer o ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Abertawe yn cyfrannu at y prosiect dwy flynedd. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r Ysgol wedi penodi Cydymaith Ymchwil a Chynorthwyydd Ymchwil, sef Dr Patrick Carlin a Jennifer Marshall, i weithio yn llawn amser ar y prosiect.

Meddai’r Athro Alison Wray, “Welsh for Adults teaching is already highly successful. The purpose of this project is to make it even better, by drawing the attention of tutors and materials writers to the very latest international research into language teaching. For instance, research shows that individual differences between learners, including their motivation, are major determiners of their success, so the question is, how can different needs be met in a class context? There have also recently been challenges to the ‘communicative method’ as the best approach to teaching, with research evidence suggesting that learners benefit from more opportunity to memorise vocabulary and rehearse useful phrases. Most importantly, we will be asking tutors and learners across Wales what they believe will most improve their experiences, since the recommendations from the project must make sense at the point of delivery”.

Dywedodd Dr Rachel Heath Davies ei fod yn waith cyffrous iawn gan ei fod yn gyfle i ymchwilio i'r holl ddulliau a deunyddiau sydd ar gael ar hyn o bryd yn y maes. Bydd yr argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad terfynol yn siŵr o gael cryn effaith ar y ffyrdd o ddysgu Cymraeg i oedolion i'r dyfodol. Edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio â phawb yn y maes i rannu arfer dda. Meddai Dr Diarmait Mac Giolla Chríost, ‘Mae’r maes hwn yn un hynod o bwysig i’r Gymraeg ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod hynny yn barod yn Iaith Pawb. Mae penderfyniad APADGOS (yr Adran ar gyfer Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) i ariannu’r prosiect yn fuddsoddiad sylweddol yn y maes ac mae’r tîm ymchwil wedi bod yn gweithio’n galed iawn ar wahanol agweddau o’r proseict ers rhai misoedd bellach. Yn y pen draw rydym yn gobeithio bydd canlyniadau’r gwaith o ddefnydd i bawb sydd â diddordeb ym maes Cymraeg i Oedolion’.

bulletbulletbullet

Erbyn hyn, mae’r tîm wedi cwblhau dau adroddiad, un ar yr ymchwil rhyngwladol ar gaffael ail iaith a’r llall ar y deunyddiau dysgu ac addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion. Bydd yr adroddiadau ar gael yn fuan iawn ar wefan y prosiect, sef:

http://www.caerdydd.ac.uk/cymraeg/subsites/welshforadultsresearch/reports/index.html

Mae’r tîm yn rhoi’r adroddiadau ar-lein er mwyn i bawb ym maes Cymraeg i Oedolion gael eu gweld ac mae croeso hefyd i bawb gynnig eu barn i’r tîm ar yr adroddiadau. Mae ychydig o gyngor ar-lein ynghylch sut i wneud hynny.

Y cam nesa’ yn y prosiect yw i Dr Patrick Carlin a Jennifer Marshall ymweld â’r gwahanol ganolfannau Cymraeg i Oedolion yn y gwanwyn. Eu bwriad yw cwrdd â thiwtoriaid, dysgwyr ac eraill sy’n ymwneud â Chymraeg i Oedolion, ac mae’n bosibl y byddwch chi’n dod ar eu traws yn eich rhan chi o Gymru yn ystod y misoedd nesa’!

Yn y pen draw bydd holl ganlyniadau’r prosiect yn ymddangos ar wefan y prosiect. Wrth gwrs, yn y cyfamser, byddai’r tîm yn gwerthfawrogi’n fawr unrhyw sylwadau ac awgrymiadau am y gwaith gan bawb ym maes Cymraeg i Oedolion – tiwtoriaid, dysgwyr ac eraill fel ei gilydd! Os ydych chi am gysylltu â’r tîm yna bydd Dr Diarmait Mac Giolla Chríost yn falch iawn o glywed oddi wrthych:

MacGiollaChriostD@caerdydd.ac.uk

llinell