Sefydlwyd Coleg Harlech ym 1927 a sefydlwyd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Gogledd Cymru ym 1903. Dyma oedd dau o ddarparwyr addysg oedolion hynaf Cymru a chawsant eu huno yn Awst 2001 i greu CAG (G) Coleg Harlech. Mae’r Gymdeithas a ffurfiwyd yn sgil yr uno wedi parhau â’r traddodiad hir o gynnig addysg ryddfrydig i oedolion yn y celfyddydau sy’n galluogi oedolion i ddatblygu eu gallu i ddysgu a chyflawni eu potensial, ond mae hefyd wedi parhau i adeiladu ar hyn drwy ddatblygu addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys darparu cyfleoedd i oedolion dan anfantais gymdeithasol ac addysgol drwy gyfrwng cyrsiau preswyl yn Harlech a chyrsiau yn y gymuned a’r gweithle ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae’r Gymdeithas felly yn cynnig math unigryw o addysg oedolion yn y gymuned drwy weithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill i gefnogi oedolion sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd. Mae CAG (G) Coleg Harlech, wrth gwrs, yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gymuned hefyd, yn ogystal ag ysgolion haf yng Ngholeg Harlech a hynny drwy gydweithredu â Chanolfan Iaith y Gogledd a Chanolfan Iaith y Canolbarth.
Mae gwaith CiO y Gymdeithas yn canolbwyntio ar dri maes, sef
- Cymraeg yn y Gweithle
- Ymwybyddiaeth Iaith
- Cymraeg i’r Teulu
Gyda Chymraeg yn y Gweithle, fel arfer defnyddir cyllid addysg undebau llafur i gynnal y cyrsiau. Cynhelir dosbarthiadau Ymwybyddiaeth Iaith hefyd, a chaiff cwrs cyflawn ei dreialu drwy ddefnyddio pecyn adnoddau Llywodraeth y Cynulliad.
Conglfaen darpariaeth CiO y Gymdeithas yw’r cwrs Cymraeg i Rieni a’r Gymdeithas yw’r darparwr mwyaf o bell ffordd o gyrsiau Cymraeg i’r Teulu yn genedlaethol. Comisiynwyd y cwrs hwn gan CAG ddeng mlynedd yn ôl er mwyn llenwi bwlch yn y farchnad ac fe’i cynigir ledled y rhanbarth mewn partneriaeth â Chanolfan Iaith y Gogledd a Chanolfan Iaith y Canolbarth.
Ar hyn o bryd, mae cwrs newydd Cymraeg i’r Teulu yn cael ei gynhyrchu gan CBAC fydd yn disodli’r cwrs Cymraeg i Rieni hwn sydd wedi dyddio erbyn hyn. Mae llawer
o diwtoriaid y Gymdeithas yn treialu rhai o unedau’r cwrs newydd ac yn cael cyfle i gyflwyno adborth ar gynnwys a diwyg y cwrs.
Ceir nifer o ddatblygiadau gan y Gymdeithas i annog dysgwyr i ddefnyddio’r iaith a ddysgwyd yn y dosbarth. Mae un tiwtor wedi dechrau cynnal gwersi ioga drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae tiwtor arall, sy’n cynnal dosbarthiadau Cymraeg i’r Teulu, yn rhoi cyfle i’r dysgwyr atgyfnerthu’r iaith a ddysgwyd drwy gynnal gweithgareddau arbennig. Un o’r gweithgareddau hynod boblogaidd hynny yw Cerdded Nordig!
Cerdded Nordig
Ffordd o fwynhau cerdded cyffredin yw Cerdded Nordig – ond mae'n gwneud i ni gerdded ddwywaith yn fwy effeithiol. Mae Cerdded Nordig yn defnyddio ffyn ac mae hynny’n golygu bod cyhyrau y rhan uchaf o'r corff yn cael eu defnyddio yn ogystal â'r coesau! Mae’r ddwy ffon yn helpu gyrru'r cerddwr ymlaen ac mae hyn yn gwneud i’r corff weithio'n galetach nag arfer - ond mae'r gefnogaeth a roddir gan y ffyn yn gwneud iddo deimlo'n haws!
Mae Cerdded Nordig yn dechneg ffitrwydd penodol, ac ni ddylid drysu’r dechneg gyda ffyn cerdded mynyddoedd gan nad yw'r ffyn yn cael eu gosod o flaen y cerddwr / rhedwr, ond mewn ffordd benodol sy'n cynyddu'r defnydd a wneir o ran uchaf y corff. Gall unrhyw un ddechrau Cerdded Nordig, unrhyw le, ac nid oes angen offer na dillad drud.
Cerdded Nordig yw'r gweithgaredd ffitrwydd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd ac fe'i defnyddir gan unigolion, hyfforddwyr personol, clybiau iechyd, ffisiotherapyddion, meddygon a hyrwyddwyr iechyd oherwydd ei fod yn hynod effeithiol, fforddiadwy a HWYLUS!
Gyda Cherdded Nordig RHAID i’r dechneg gael ei dysgu’n gywir er mwyn i’r cyfranogwr gael y gorau o'r gweithgaredd. Mae'n dechneg sy'n sicrhau bod y corff cyfan yn gweithio'n effeithlon.
Sesiwn blasu cerdded Nordig!
Datblygiadau eraill
Mae datblygiadau eraill y Gymdeithas i annog dysgwyr i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg yn cynnwys cefnogi a chynnal sesiynau amrywiol mewn canolfan gymunedol Gymraeg newydd a chyffrous, sef CellB. Canolfan i’r celfyddydau yn lleol yw adeilad CellB, a leolir ar safle hen orsaf heddlu a llysoedd ynadon Blaenau Ffestiniog. Bwriad pennaf CellB yw i addysgu a chynnig adloniant trwy gerddoriaeth, dylunio, ffilm, celf, drama a choffi! Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan:
http://www.cellb.org/Cell_Blaenau/Croeso___Welcome.html
Dosbarthiadau Cymraeg newydd
Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal cwrs Cymraeg i bobl fyddar a hefyd cwrs darllen gwefusau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Manceinion.
Os am fwy o fanylion am unrhyw agwedd ar waith Cymraeg i Oedolion CAG (G) Coleg Harlech, cysylltwch â:
Mr Dafydd Rhys
CAG(G) Coleg Harlech
3a Bank Place
Porthmadog
Gwynedd
LL55 1RS
LL49 9AA
01766 515298
ebost info@fc.harlech.ac.uk