Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cynhadledd

Gwesty'r Park Plaza, Caerdydd
14 Rhagfyr 2010

gan Glenda Brown

Yn y gynhadledd Edrych tua’r Gorwel gan Gwmni Iaith Cyf rhoddwyd cyfle i ni ymateb i’r Strategaeth Iaith Genedlaethol arfaethedig – Iaith Fyw: Iaith Byw, ac i adnabod blaenoriaethau’r Llywodraeth i’r maes cynllunio iaith i’r dyfodol.

Roedd y gynhadledd yn amserol iawn gan fod dogfen ymgynghorol y Strategaeth Iaith ar ei newydd wedd y bore hwnnw.  Gyda’r inc dal yn wlyb, cawsom gyflwyniadau gan saith siaradwr gwadd a chyfle i rannu i weithdai i gynnig ein sylwadau.

alun ffredDifyr iawn oedd y siaradwyr gwadd, sef:
Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Treftadaeth
Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Elaine Davies, IAITH
Sel Wiliams, Prifysgol Bangor
Heini Gruffudd, Cyngor Iaith Hafan
Meic Raymant, Heddlu Gogledd Cymru
Alun Jones, Menter a Busnes

Croesawyd pawb i’r Gynhadledd gan y Gweinidog Treftadaeth a chyflwynodd y Strategaeth gan roi ychydig o’r cefndir.

Pwysleisiodd Meirion Prys Jones fod y Strategaeth Iaith yn bwysicach na’r Mesur Iaith gan ei bod yn gosod mecanwaith ar gael safonau iaith yn hytrach na chynlluniau iaith.  Atgoffodd Meirion Prys Jones y gynulleidfa fod Cymru ar flaen y gad gyda strategaeth o’r fath gan nad oes yr un yn debyg yng ngwledydd eraill Ewrop.  Dywedodd mai esblygiad o’r hyn a fu ydyw, gyda gweledigaeth sy’n seiliedig ar y gorffennol.  Pwysleisiodd bwysigrwydd y ffaith mai cytundeb rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Bwrdd yw’r Strategaeth, a chadarnhaodd mai dyma oedd y ffordd ymlaen.

Cydnabuwyd bod angen ystyried anghenion ieithyddol gwahanol mewn ardaloedd gwahanol, a phenderfynwyd bod angen categoreiddio ardaloedd fel a ganlyn:

llinell

Soniodd Elaine Davies am ei hymchwil ar y Gymraeg yn y teulu a oedd yn ddiddorol dros ben ac yn amserol o gofio’r cwrs ‘Cymraeg i’r Teulu’ cenedlaethol newydd sydd ar y gorwel.

Codi ein hymwybyddiaeth o anghenion y Gymraeg yn ein cymunedau wnaeth Sel Williams gan bwysleisio ei bod yn hynod bwysig ystyried y gwahaniaethau rhyngddynt.  Pan gyfeiriodd at addysg cyfrwng Cymraeg dywedodd mai ‘cynnwys beth sy’n cael ei ddysgu sy’n bwysig, nid y cyfrwng’.  Gofynnodd gwestiwn dilys iawn hefyd, sef ‘Ai cymuned ddylai ffitio i weithdrefnau’r Llywodraeth neu’r ffordd arall rownd?’… ‘ Mae fel ceisio ffitio sgwâr i gylch!’ 
Mentrodd farnu’r Cynulliad gan nodi mai’r Cynulliad gyhoeddodd Iaith Pawb ac mai nhw hefyd sy’n ei fonitro.  Creda fod hyn yn fodd iddynt ganmol eu hunain, ac nad oes cynnydd mawr i’w weld mewn gwirionedd.

Cawsom ein tywys drwy gyflwyniad Heini Gruffudd, O Ddysgu i Ddefnyddio, a chawsom ein cyfeirio’n gyntaf at ystadegau sy’n dangos nifer y bobl ifanc sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.  Pwysleisiodd nad yw’r iaith yn perthyn i’r dosbarth yn unig, gan mai dim ond creu pont y mae addysg cyfrwng Cymraeg i alluogi pobl i drosglwyddo’u sgiliau iaith i’r byd gwaith yn y pen draw. 

llinell

Nododd mai dim ond 7% o blant sy’n siarad Cymraeg gartref a bod y Gymraeg yn y gymuned yn dirywio, ond bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu’n sylweddol.  Cyfeiriodd at y ffaith mai blaenoriaeth y sector addysg oedd gyrru pobl ifanc i brifysgolion y tu hwnt i’w hardaloedd a’r canlyniad wedyn yw ein bod yn eu colli o ran yr iaith.  Pwysleisiodd fod angen rhoi llawer mwy o sylw i addysgu crefftau a chynnig mwy o gyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg sydd eu hangen yn lleol er mwyn cadw’r bobl ifanc yn lleol i’w cymunedau.  Nododd fod 40% o alw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector Addysg Bellach yn yr ardaloedd Seisnig, ac mai dim ond 10% o’r ddarpariaeth sy ar gael.  Ym marn Heini Gruffudd, mae angen i’r Llywodraeth ystyried sefydlu corff addysgu ieithoedd yn debyg i’r hyn a geir yng Ngwlad y Basg, sef HABE, a phwysleisiodd ei bwynt olaf yn gryf gan nodi bod ‘dysgu iaith mewn gwacter yn wastraff amser’.

Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Meic Raymant, Heddlu Gogledd Cymru, yn sôn am y camau mawr y mae’r corff wedi eu gwneud i greu gweithleoedd dwyieithog.  Roedd yn gwbl glir fod Heddlu Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran gweithle sy’n hybu’r Gymraeg ac roedd ei gyflwyniad yn ysbrydoliaeth i'r rheini sy’n gweithredu cynlluniau iaith.  Braf oedd clywed bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gosod lefel isafswm ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer eu staff presennol ac ar gyfer ymgeiswyr swyddi.

Cawsom gyflwyniad difyr iawn gan Alun Jones o dan y teitl Iaith, Economi a Mentergarwch. Cyfeiriodd at yr angen i’r Llywodraeth wneud y cyswllt rhwng y byd addysg a’r byd gwaith. Nododd fod hyn yn ddiffyg yn y Strategaeth a’n bod ni’n dibynnu ar agweddau positif pobl ar hyn o bryd yn hytrach nag ar arweiniad cadarn gan y Llywodraeth.

Cafwyd cyfle yn y prynhawn i bwyso a mesur nodau’r Strategaeth, ac i gynnig adborth a fyddai’n rhan o’r ymgynghoriad.  Gwnaethpwyd nifer o sylwadau gan y grwpiau, megis bod:

 

Felly, disgwyliwn yn amyneddgar i weld canlyniadau’r ymgynghori, a daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 4 Chwefror. 

Ewch i wefan y Cynulliad am ragor o wybodaeth.

llun cynhadledd