Yn sgil derbyn a dadansoddi sylwadau fel rhan o strategaeth Llais y Dysgwr, a Llais y Tiwtor yn yr achos hwn, daeth yn amlwg bod dysgwyr a thiwtoriaid yn poeni am y naid sydd rhwng lefel Canolradd ac Uwch. Gofynnodd mwy nag un dosbarth am gael ailadrodd lefel Canolradd (er bod nifer o’r dysgwyr yn y dosbarthiadau hyn wedi sefyll arholiad Canolradd) am eu bod am deimlo’n fwy hyderus cyn symud ymlaen. Trafodwyd hyn yn fanwl ym Mhwyllgor Ansawdd y Ganolfan a dod i’r casgliad ei bod yn bwysig iawn ceisio ymateb i gais dilys iawn. Gwelir yn aml nifer fawr o ddysgwyr ar lefel Canolradd sy’n gallu sgwrsio’n eithaf hyderus, ond o wrando’n ofalus maent yn wallus iawn sy’n dangos diffyg dealltwriaeth o rai patrymau sylfaenol, a defnyddiant eirfa gyfyngedig. Aed ati felly i greu wyth uned newydd i fod yn bont rhwng Canolradd ac Uwch. Penderfynwyd creu unedau thematig lle bydd un pwynt gramadegol yn cael ei ymarfer o fewn y thema, ond hefyd gyda chryn bwyslais ar godi lefelau hyder wrth ymarfer sgiliau siarad rhydd ac ymestyn geirfa.
Ceir wyth o unedau o dan y teitlau canlynol:
Ein byd (er mwyn cydymffurfio â gofynion cyflwyno Addysg ar gyfer Datblygu Cynaladwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang)
Iechyd
Bwyd
Gwyliau
Ddoe a Heddiw
Byd Gwaith (sy’n gwneud defnydd helaeth o Atodiadau Gweithle Cwrs Canolradd CBAC gan ein bod yn teimlo bod gweithgareddau defnyddiol iawn yno)
Hanes Cymru
Mwynhau Llenyddiaeth
Wyth uned pedair awr sydd gennym – gwerth tymor o waith mewn dosbarth dwywaith yr wythnos, neu hanner blwyddyn mewn dosbarth unwaith yr wythnos. Teimlaf yn gryf yn bersonol nad ydym am ychwanegu blwyddyn gyfan arall o atgyfnerthu neu mae’n berygl y bydd pobl am droi yn y pwll hwn am weddill eu dyddiau dysgu Cymraeg, a’i bod yn bwysig yn seicolegol symud ymlaen at y Cwrs Uwch yn ystod y flwyddyn. Dylid pwysleisio hefyd nad oes rhaid dilyn y llwybr Pontio Uwch. Os teimla tiwtor fod ganddo ddosbarth cryf sy’n barod i symud yn syth at y Cwrs Uwch, dyna sy’n digwydd.
Mae’r unedau wedi bod ar waith mewn dosbarthiadau ers mis Medi a diolch i ennill arian o Gronfa Gwella Ansawdd y Cynulliad, maent hefyd yn cael eu gwerthuso’n drylwyr mewn grwpiau ffocws – gyda thiwtoriaid a dysgwyr. Y cam nesaf fydd addasu yn sgil y sylwadau, dylunio ac argraffu. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn datblygu gweithgaredd ar-lein i gyd-fynd â phob un o’r unedau a byddwn yn rhoi’r gweithgareddau hyn ar y Moodle Cymraeg i Oedolion newydd a fydd ar gael yn y dyfodol agos. Nid ydym yn awyddus i ryddhau’r unedau ar hyn o bryd gan fod y gwerthusiad yn mynd yn ei flaen. Erbyn diwedd mis Mai, os oes gan rywun ddiddordeb mewn gweld y deunyddiau hyn, byddan nhw ar gael.
Helen Prosser