Na, nid berf nac enw nac ansoddair mo “GYCiO” ond acronym am y Gweithgor Ymchwil Cymraeg i Oedolion. Dyma’r grŵp bach sy’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn i greu a monitro’r Strategaeth Ymchwil Cymraeg i Oedolion a chydlynu ymchwil yn y maes yn genedlaethol. Mae’n bosibl i nifer ohonoch chi fod y gair ‘ymchwil’ yn creu darlun o bobl academaidd sy’n treulio eu holl amser yn pori trwy lyfrau sych mewn llyfrgelloedd ac yn cynhyrchu cyhoeddiadau hirwyntog a diflas sydd ond yn casglu llwch ar y silff heb ddim perthnasedd i fywyd go iawn. Wel, nid dyna nod GYCiO! O’r cychwyn cyntaf, cytunwyd bod angen sicrhau bod unrhyw waith ymchwil Cymraeg i Oedolion i fod o ddefnydd ymarferol i’r maes sydd hefyd – gymaint ag sy’n bosibl – yn ateb gofynion penodol y maes.
Gallwch ddarllen am gefndir sefydlu’r Gweithgor yn rhifyn 4 ‘Y Tiwtor’ (2009). Yno, sonnir am y Strategaeth Ymchwil Cymraeg i Oedolion a’r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer datblygu strategaeth newydd ar gyfer 2010 – 2013. Erbyn i chi ddarllen y rhifyn hwn o’r ‘Tiwtor’, dylai’r strategaeth newydd fod ar waith.
Cyn edrych ar y strategaeth newydd, teg gofyn beth a gyflawnwyd gan strategaeth 2006 – 2009. Dyma rai o’r prif ddatblygiadau:
Gwefan ymchwil: Ar waith fel rhan o wefan Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru (sef y Ganolfan sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu maes Ymchwil CiO) lle mae
- copi o’r strategaeth
- gwaith ymchwil gan ymchwilwyr unigol a
- llyfryddiaeth ymchwil Cymraeg i Oedolion sydd wedi’i diweddaru ac ar gael i bawb sydd â diddordeb yn y maes.
Gyda llaw, os oes gyda chi unrhyw waith addas i'w roi ar y wefan croeso i chi ebostio copi at Steve Morris (s.morris@abertawe.ac.uk);
Mae GYCiO wedi bod yn rhannu gwybodaeth am ymchwil CiO a’i mapio yn ôl anghenion y maes. Trwy hyn, rydyn ni wedi llwyddo i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r prosiectau ymchwil mawr yn mynd i’r afael ag un neu fwy o’r blaenoriaethau a nodwyd gan y maes ei hun ac felly, o werth uniongyrchol o ran diweddaru, datblygu a phroffesiynoli’r maes;
Er mwyn gwyntyllu a lledaenu casgliadau ymchwil, sicrhawyd bod sesiynau pwrpasol yn cael eu cynnal fel rhan o raglen y cynadleddau blynyddol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Defnyddiwyd y sesiynau hyn weithiau er mwyn casglu deunydd neu ymateb tiwtoriaid i brosiectau arfaethedig;
Cydweithio ag is-bwyllgorau CiO eraill er mwyn sicrhau bod mewnbwn ganddynt o ran prosiectau ymchwil fel, er enghraifft, yr ymchwil ar wella’r ffordd y trosglwyddir y Gymraeg i oedolion.
Yn ystod cyfnod y strategaeth gyntaf, gwelwyd cynnydd sylweddol yn yr ymchwil a wnaed i feysydd penodol. Dyma grynodeb o rai ohonynt gyda sylw arbennig i sut y byddan nhw’n effeithio ar faes Cymraeg i Oedolion:
Geirfa Greiddiol i’r Gymraeg: Ymchwil ar y cyd rhwng Canolfan CiO De-orllewin Cymru a’r Athro Paul Meara i lunio geirfa greiddiol i’r Gymraeg ar lefelau Mynediad a Sylfaen. Bydd nifer ohonoch chi fel tiwtoriaid wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn ac erbyn hyn, mae gyda ni eirfa greiddiol ar lefel Mynediad a Sylfaen sydd yn rhan o fanylebau newydd yr arholiadau perthnasol ac yn sail i’r cwricwlwm ac i adnoddau newydd, arloesol sy’n cael eu datblygu e.e. cardiau fflach digidol;
Canolfannau Iaith (Canolfannau Cymraeg) a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Ydy dysgu mewn Canolfan Gymraeg yn effeithio ar y rhwydweithiau cymdeithasol sydd ar gael i oedolion mewn ardaloedd gweddol ddi-Gymraeg? Prosiect a wnaed gan Ganolfan CiO De-orllewin Cymru a ariannwyd gan APADGOS ac unwaith eto, bydd nifer ohonoch chi diwtoriaid – a’ch dysgwyr – wedi cyfrannu ato. Mae’r canlyniadau yn dangos bod dysgu mewn Canolfan Gymraeg yn golygu bod gan ddysgwyr yn yr ardaloedd hyn fwy o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg a’u bod yn fwy tebygol o fynychu gweithgareddau Cymraeg. Mae’n ddiddorol fod y syniad o ‘Ganolfannau Adnoddau Iaith Rhanbarthol’ yn cael ei grybwyll yn nogfen ‘Iaith Fyw: Iaith Byw’’ y Llywodraeth. A fyddai modd cyfuno’r ddau syniad a chreu mwy o Ganolfannau Cymraeg mewn ardaloedd gwahanol?
Prosiect ymchwil hydredol 5 mlynedd Canolfan y Gogledd: Astudio effeithiolrwydd gwahanol ddulliau dysgu a gwahanol fathau o ddarpariaeth ac adnabod profiadau a disgwyliadau dysgwyr. Mae’r ymchwil ar waith ers Hydref 2007 a chyflwynwyd sesiwn lawn ar ganlyniadau’r ymchwil hyd yn hyn yng nghynhadledd tiwtoriaid CiO Tachwedd 2009;
Arholiadau CiO: Gwaith gan CBAC (unwaith eto, bydd nifer o diwtoriaid yn cofio cydweithio a dosbarthu taflenni i ymgeiswyr arholiadau fel rhan o’r gwaith). Edrychir ar ymatebion ymgeiswyr i bob agwedd ar y profion, y cynnwys, y gweinyddu a’r effaith gyffredinol. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y Bwletin Arholiadau a defnyddir yr ymchwil fel sail ar gyfer datblygu’r arholiadau CiO yn y dyfodol;
Ymchwil farchnad: Comisiynwyd yr ymchwil gan Ganolfannau’r Gogledd a’r Canolbarth i edrych ar ystod eang o agweddau gan gynnwys y potensial i ddenu rhagor o ddysgwyr, cymhelliad dysgwyr, rhwystrau rhag dysgu a nifer o ystyriaethau eraill. Cymhwyswyd nifer o gasgliadau’r ymchwil fel rhan o amcanion strategol Canolfannau’r Canolbarth a’r Gogledd;
Rhesymau dysgwyr am adael cyrsiau cyn eu cwblhau: gwaith oedd yn bwydo o’r AHA (Adroddiad Hunan Asesiad) a’r Cynllun Datblygu Ansawdd lle roedd cyfraddau cwblhau yn bwynt gweithredu i’w wella. Cynhyrchwyd adroddiad sydd ar gael ar y wefan ymchwil, ac ar sail prosiect arall yn yr un maes cynhyrchir pecyn hyfforddi tiwtoriaid erbyn diwedd 2010;
Ymchwil farchnad genedlaethol: Yn canolbwyntio ar ddarpar-ddysgwyr i fwydo ymgyrchoedd marchnata yn y dyfodol.
Mae’n deg dweud bod y gweithgarwch ym maes ymchwil CiO, felly, wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod oes y strategaeth ddiwethaf a chyfraniad – neu ‘traw-effaith’ a defnyddio gair mawr byd ymchwil ar hyn o bryd – yr ymchwil i’r maes yn werthfawr ac yn hanfodol os ydym am barhau i ddatblygu’n broffesiynol ac ar seiliau cadarn.
Nodir gwaith ymchwil sydd ar waith ar hyn o bryd yn y rhifyn yma o’r Tiwtor. Yn ogystal â phrosiect mawr APADGOS ar wella’r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion, y gobaith yw ehangu’r gwaith geirfa i lefel Canolradd (os bydd cyllid ar gael) a bydd prosiect hydredol y Gogledd yn parhau. Mae’r Gweithgor wedi nodi’r tri maes canlynol fel anghenion i’w hystyried yn flaenoriaethau am gyfnod y strategaeth nesaf:
- Dadansoddi rhesymau dysgwyr dros adael cyrsiau’n gynnar;
- Y gydberthynas rhwng cyrhaeddiad dysgwyr Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg a wneir ganddynt y tu allan i’r dosbarth (mewn cymunedau lle mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg);
- Dysgu anffurfiol.
Cydlynir y gwaith yn genedlaethol gan Steve Morris, aelod o Academi Hywel Teifi, cartref Canolfan CiO De-orllewin Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y maes naill ai fel darpar-ymchwilydd neu fel tiwtor sydd am ddatblygu syniad ymchwil, mae croeso mawr i chi gysylltu ag ef trwy ebostio: s.morris@abertawe.ac.uk
Steve Morris