Roedd manylion yn rhifyn diwethaf Y Tiwtor yn egluro bod Llywodraeth y Cynulliad yn y broses o dendro am gyhoeddwyr ar gyfer pedwar prosiect newydd i gynhyrchu adnoddau i gefnogi dysgwyr a thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion
(gweler http://www.ytiwtor.org/rhifyn14/newyddion/prosiectau_newydd.html am fanylion pellach am y pedwar prosiect).
Mae'r broses honno bellach wedi ei chwblhau a dyma restr o'r cwmnïau sydd wedi eu dewis i ymgymryd â'r gwaith:
-
Casgliad o glipiau o raglenni teledu ar gyfer dysgwyr Sylfaen / Canolradd ar DVD: Telesgop
- Cyfres o chwe llyfr darllen ffeithiol a ffuglen ar gyfer dysgwyr Mynediad / Sylfaen / Canolradd: Y Lolfa.
-
Amser stori - DVD i helpu dysgwyr ddarllen i'w plant: Telesgop
-
Cronfa ddata o adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob oedran: Telesgop
Bydd y cwmnïau yn mynd ati i gychwyn ar y gwaith dros yr wythnosau nesa. Bydd tiwtoriaid yn cael eu gwahodd i gynrychioli'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion mewn grwpiau monitro fydd yn cael eu sefydlu ar gyfer pob prosiect er mwyn rhoi cyngor i'r cyhoeddwyr a sicrhau bod y deunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu yn addas i'r gynulleidfa darged.