Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
teitl clecs

llinell

Merched Y Wawr a’r Clybiau Gwawr

wawrathon

Ar ddydd Llun 30 Mai 2011 bydd cyn-lywyddion y Mudiad yn darllen gwahanol lyfrau am gyfnod o 12 awr yn Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe. Bydd gwahanol themâu a slotiau amrywiol megis llyfrau i blant meithrin a llyfrau ar hanes yr Eisteddfod. 

Dyma gyfle gwych i rieni a theuluoedd sy’n dysgu Cymraeg ddod i’r babell i glywed straeon Cymraeg a rhannu gwybodaeth am lyfrau Cymraeg addas.

Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gynnal ac ehangu gweithgareddau a phrosiectau MYW.

llinell

Microsoft Office Cymraeg!

Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith (LIP) ar gyfer pob fersiwn o Microsoft Office 2010 ar gael nawr i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, diolch i gydweithio rhwng Microsoft a Bwrdd yr Iaith.  Microsoft sydd wedi ariannu’r pecyn i gyd, sy’n addas i’r Cymry sy`n ddihyder eu Cymraeg a hefyd i’r bobl hynny sy'n dysgu Cymraeg. Gall y defnyddiwr hofran dros unrhyw elfen a chael cyfieithiad i’r Saesneg yn syth.

Mae'r Pecyn Rhyngwyneb i Office 2010 yn darparu rhyngwyneb Cymraeg i Outlook, Word, Excel a Powerpoint. 

Gellir lawrlwytho’r deunydd am ddim drwy glicio ar:
http://office.microsoft.com/en-us/downloads/office-language-interface-pack-lip-downloads-HA001113350.aspx

llinell

llun IATEFLIATEFL

Cynhelir 45ain Cynhadledd IATEFL o 15 Ebrill  i 19 Ebrill eleni yn Brighton. Mae’n gyfle gwych i rwydweithio a chymharu holl agweddau dysgu iaith. Bydd dros 1,400 o bobl o dros 70 o wledydd yn mynychu’r gynhadledd eleni eto. Ewch i’r wefan i gael gwybod mwy am y gynhadledd ac am waith IATEFL yn gyffredinol ym maes dysgu iaith.
http://www.iatefl.org/

 llinell

llun profi geiriauProfi Geirfa

Yn rhifyn diwethaf Y Tiwtor soniwyd am y rhaglen gyfrifiadurol Geirfa. Adnodd i brofi geirfa yw Geirfa, sef y cymhwysiad arbennig y mae Peter Arnold o Landeilo wedi ei greu o’r newydd. Mae’n cynnwys yr holl eirfa sydd yn ymddangos yn y llyfrau cwrs Mynediad a Sylfaen ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar eirfa’r cwrs Canolradd.

Yn rhifyn 14 roedd gennym 5 copi o’r rhaglen i’w dosbarthu’n rhad ac am ddim i 5 person lwcus, a’r enillwyr yw:
Helen Williams
Caroline Mortimer
Dafydd Griffiths
Siân Thomas
Nic Dafis

Llongyfarchiadau mawr iddynt ac os ydych am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: http://www.interruptroutine.co.uk/geirfa/

 

llinell