Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

teitl adolygiad

llinell

logo CiTMae pecyn newydd cyffrous ar y gweill gan CBAC ar hyn o bryd, sef cwrs Cymraeg i’r Teulu ar lefel Mynediad. 

Cefndir y prosiect
Ffurfiwyd Pwyllgor Cenedlaethol Cymraeg i’r Teulu yn 2008, ac un o’r tasgau cyntaf oedd cyfnewid gwybodaeth am ddarpariaeth ac adnoddau Cymraeg i’r Teulu dros Gymru. Cytunwyd mai peth dymunol dros ben fyddai cwrs cenedlaethol Cymraeg i’r Teulu. Cyhoeddwyd yn 2009 fod Llywodraeth y Cynulliad am gomisiynu cwrs o’r fath.  Lluniwyd y ddogfen fanylion, enillodd CBAC y tendr, a phenodwyd Pam Evans-Hughes o’r gogledd ac Owen Saer o’r de i fod yn gyd-awduron. 

cacenY broses awduro
Ar ôl cyfres o gyfarfodydd, aethpwyd ati i greu’r unedau ym Medi 2009. Fe’u cyflwynwyd i CBAC er mwyn eu dylunio ym Mai 2010, ac ers Medi y llynedd, maent yn cael eu peilota gan dros 40 o diwtoriaid ledled Cymru. Roedd angen cryn dipyn o gyfarfod a chyfathrebu rhwng y ddau awdur, a oedd yn anodd o ystyried y pellter a gofynion eu swyddi. A chynifer o wahanol bobl a sefydliadau ynghlwm wrth y gwaith hwn, cymhleth yw’r broses o ran trafod, cymharu a chyfnewid barn, penderfynu, newid meddwl ac ail-benderfynu ac ati, ac mae wedi bod yn brofiad addysgiadol a diddorol i lawer o’r tîm.  Cafwyd mewnbwn ac arweiniad gan aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol Cymraeg i’r Teulu a’r Panel Monitro ar hyd y ffordd.

plentynAmcanion y pecyn
I rieni plant y Cyfnod Sylfaen (3-6 oed) mae’r adnodd wedi ei fwriadu, a bydd yn cynnwys cwrslyfr, pecyn gwaith cartref a gweithgareddau, canllaw i’r tiwtor, cryno-ddisg, cardiau fflach ac adnoddau eraill i’w cyrchu ar-lein. Er mwyn galluogi myfyrwyr i ail-ymuno â chyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ôl iddynt gwblhau’r cwrs hwn, ac i sefyll arholiad Defnyddio’r Gymraeg Mynediad os y dymunant, mae geirfa a phatrymau craidd Mynediad CBAC yn codi yn y cwrs. 

Trefn y patrymau
Wrth roi trefn ar fewnbwn ieithyddol unrhyw gwrs, mae angen cyfaddawd rhwng cyflwyno eitemau defnyddiol gyntaf, a chyflwyno rhai syml eu strwythur gyntaf (nid yw’r ddau beth bob amser yn gymharus, e.e. mae Beth yw dy enw di? Beth yw’ch enw chi? yn ddefnyddiol, ond mae’n siŵr bydd tiwtoriaid yn cytuno nad ydynt yn hawdd ymdrin â hwy yn y wers gyntaf oll). Ymhlith y patrymau y penderfynwyd eu symud i ddechrau’r cwrs mae: Wyt ti wedi ...? Ga’ i ...? a gorchmynionPenderfynwyd gohirio’r Treiglad Trwynol a thrafod manylion personol megis Ble wyt ti’n gweithio? Ble wyt ti’n byw? ac ati tan yn hwyrach, gan eu bod yn llai perthnasol i sefyllfa sgwrsio â phlentyn.

bwydThemâu
Un o brif nodweddion y cwrs yw ei fod yn cynnwys gemau, gweithgareddau a chaneuon i’w rhoi ar waith gyda’r plant gartref ar ôl y sesiynau.  Mae’r esiamplau a’r gweithgareddau ymarfer yn y llyfr cwrs yn cyflwyno’r iaith mewn cyd-destun sy’n efelychu defnyddio’r iaith gyda phlant, a chyfeirir yn gyson at themâu’r Cyfnod Sylfaen, e.e. Bwyd a Diod; Siapiau, Lliwio a Rhifo; y Cartref; Amser Hamdden ac ati. Bydd hefyd rhestr o lyfrau darllen i’r rhieni roi cynnig arnynt gyda’u plant. Mae’r cwrs, felly, yn ymgais i bontio rhwng yr hyn fydd y plant yn ei ddysgu yn yr ysgol, a chyrsiau Cymraeg i Oedolion.

ambiwlansYn Chwefror 2011, cafwyd adborth cadarnhaol gan y tiwtoriaid sydd wedi bod yn peilota rhan gyntaf y cwrs a’r cam nesaf yw ymgorffori unrhyw awgrymiadau a gafwyd a mireinio ail hanner y cwrs. Mae’r gwaith felly yn mynd yn ei flaen, a’r bwriad yw lansio pecyn Cymraeg i’r Teulu y gallwn oll fod yn falch ohono cyn hir.

Am fwy o fanylion am y cwrs neu’r broses beilota, cysylltwch â cymraegioedolion@cbac.co.uk

Owen Saer

 

llinell