Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
llun apps

teitl app

Ym mis Medi soniwyd am App newydd ar gyfer yr iPhone ar gyfer dysgwyr, sef menter ar y cyd rhwng CBAC a Phrifysgol Aberystwyth. Lansiwyd App y Cwrs Mynediad i’w werthu ym mis Hydref ac mae nifer o ddysgwyr wedi cael budd mawr o’r adnodd. Llwyddodd yr adnodd hefyd i gael adolygiadau ardderchog yn siop iTunes gan ennill 5 seren, sef y sgôr uchaf posib.

Mae’r App yn cynnwys deunydd o’r llyfr Mynediad a hefyd ffeiliau sain o’r CDs yn ogystal ag ymarferion a deunydd sain ychwanegol. Rhoddir sylw i’r patrymau sy’n codi ym mhob uned a gall y dysgwyr glywed y patrymau yma’n cael eu hynganu. Gall y dysgwyr hefyd recordio a chymharu eu hunain wrth iddynt ailadrodd y patrymau. Mae’r App hefyd yn cynnwys rhestr o holl bwyntiau gramadegol y cwrs Mynediad yn ogystal â’r holl eiriau mae’r dysgwyr wedi eu dysgu hyd yn hyn.

Mae nifer fawr o ddysgwyr wedi llunio adolygiadau ffafriol iawn o’r App hwn yn y siop iTunes:

This App is absolutely fantastic & does exactly what it says on the tin. Not only that but the developers are absolutely brilliant in terms of support. Job well done - best app I own by far!

An excellent piece of work. Very easy to use and very dependable.

I am actually on Sylfaen Un now, but I found this great to go back, revise, recap, strengthen and practise. Can we have a Sylfaen version please?

llinell

Ers i’r App gael ei lansio, mae’r datblygwyr wedi parhau i weithio arno. Mae’r fersiwn diweddaraf yn cynnwys profion adolygu lle gofynnir 10 cwestiwn i’r dysgwr yn ymwneud â’r eirfa neu’r patrymau y mae e / hi wedi eu dysgu hyd yn hyn. Mae’r adborth a gasglwyd gan ddefnyddwyr yn cadarnhau bod yr elfen newydd hon yn arbennig o ddefnyddiol, ac yn galluogi’r dysgwr i adolygu’n barhaus. 

Mae trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal ar gyfer trosi’r Cwrs Sylfaen hefyd, a gobeithio bydd App Sylfaen ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae gan Y Tiwtor 5 copi o App y Cwrs Mynediad i’w dosbarthu’n rhad ac am ddim. Os hoffech chi gael copi o’r App, ewch i’r adran Cysylltu ac anfon eich manylion atom. Bydd yr enwau lwcus yn cael eu tynnu allan o’r het ar 31 Mawrth.

 

llinell