Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

croeso

 

 

Ymchwil ...

Dyma thema’r rhifyn hwn ac rydym yn teithio ar hyd a lled Cymru yn edrych ar yr holl brosiectau ymchwil sy’n bodoli ar hyn o bryd ym maes Cymraeg i Oedolion – o Ymchwil y Gogledd gan Hunydd Andrews i’r Ymchwil ar Drosglwyddo’r Gymraeg i Oedolion dan ofal Dr Diarmait Mac Giolla Chríost o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Cawn wybod beth yw swyddogaethau’r Gweithgor Ymchwil, a Steve Morris o Ganolfan y De Orllewin sy’n cyflwyno’r wybodaeth honno.

Hefyd, mae Glenda Brown, CBAC, yn Edrych Tua’r Gorwel ac yn sôn am y gynhadledd lle cafwyd cyfle i ymateb i’r Strategaeth Iaith Genedlaethol arfaethedig – Iaith Fyw: Iaith Byw, ac i adnabod blaenoriaethau’r Llywodraeth i’r maes cynllunio iaith i’r dyfodol.

llun clawrMae cael gwybodaeth am adnoddau yn holl bwysig i bob tiwtor ac mae’r erthygl Prosiectau Newydd yn sôn am yr adnoddau newydd sydd wedi eu comisiynu gan APADGOS. Ceir diweddariad am App y Cwrs Mynediad yn ogystal â gwybodaeth o’r newydd am Ddeunyddiau Pontio Uwch.

Edrychwn ar ddatblygiadau newydd ym maes CiO ac yn benodol ar waith Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Choleg Harlech. Mae datblygiadau eraill yn cynnwys cynnig Modiwl CiO yn rhan o gwrs gradd. Hefyd, yn yr adran Adolygiadau, mae Owen Saer yn esbonio cefndir y cwrs Cymraeg i’r Teulu newydd ac yn rhoi blas ar y cynnwys.

Proffil

Ieithyddiaeth, cloncan a cherdded yw prif ddiddordebau’r Tiwtor yn yr adran Proffil, a gellir dweud mai’r un diddordebau sydd gan ein Dysgwr hefyd!

Cystadleuaeth

gwobrEwch i’r adran Cystadleuaeth am gyfle i weld yr holl nwyddau aur ac arian a gynigir gan Siop Rhiannon, Tregaron, ac am gyfle i ennill Tlws Pitrwm-Patrwm hyfryd.

Deunydd Dysgu

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym dasgau Cymraeg i’r Teulu ac mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

pob hwyl