Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl swyddog y dysgwyr

Enw:
Enfys Thomas

Swydd:           
Swyddog y Dysgwyr, Eisteddfod Wrecsam a’r Fro 2011

Ble ydych chi’n byw a chyda phwy?  
Yn Wrecsam, gyda fy ngŵr, David.

Hoff fwyd?            
Bwyd Eidalaidd

Hoff ddiod?            
Gwin coch neu gin, tonic, rhew a lemon neu Champagne neu ...

Hoff lyfr?            
Saesneg: Birdsong gan Sebastian Faulk a To Kill a Mockingbird gan Harper Lee (methu dewis rhwng y ddau.)
Cymraeg: Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis a Rhwng y Nefoedd a Las Vegas gan Elin Llwyd Morgan.

Beth yw eich diddordebau?
Teithio, bwyta, darllen a bod gyda fy wyrion: Caitlin, sy’n 9 oed, a Joshua Dafydd sy’n 6 oed.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn eich swydd bresennol?
Helpu sicrhau Eisteddfod fythgofiadwy i’r Cymry Cymraeg a’r dysgwyr yn Wrecsam a’r Fro.

Ydy dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i effeithio ar ardal Wrecsam? Sut a pham?
Ydy, yn sicr. Mae’r Eisteddfod yn dod ynghanol ‘Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011’ a’r gobaith yw parhau i hybu’r manteision sy’n dod o fyw mewn cymdeithas ddwyieithog.

Pe baech yn cael 3 dymuniad, pa rai fyddech chi’n eu dewis?

Beth oedd eich swydd ddiwethaf?
Ymgynghorydd y Gymraeg, Awdurdod Addysg Wrecsam

Beth fyddai eich swydd ddelfrydol?
Faswn i’n newid dim ar fy ngyrfa. Athrawes ydw i, drwyddof draw!

llinell

Mae is-bwyllgor y Dysgwyr wedi bod yn brysur ers misoedd yn trefnu’r holl gystadlaethau i ddysgwyr yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro 2011. Dyma ychydig o fanylion gan yr is-bwyllgor:


bulletY Swyddogion

Cadeirydd:                       
Siôn Aled Owen

Is gadeiryddion: 
Les Barker, Mari Wasiuk

Ysgrifenyddes:           
Heulwen Jones (sydd hefyd yn Fam y Fro)


bulletDysgwr y Flwyddyn

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae’n dangos bod modd dysgu Cymraeg a gwneud cyfraniad
gwerthfawr i fywyd ein cymunedau Cymraeg. Mae hefyd yn gyfle i annog pobl eraill i ddysgu a defnyddio Cymraeg.

Mae cymryd rhan yn hawdd. Bydd rhaid i’r dysgwr naill ai ysgrifennu darn byr yn sôn am ei hanes a llenwi’r ffurflen bwrpasol, neu os ydy rhywun arall am enwebu dysgwr, bydd angen iddyn nhw ysgrifennu darn amdano / amdani ac anfon y darn hwnnw a’r ffurflen i swyddfa’r Eisteddfod.

Rhaid i geisiadau gyrraedd y swyddfa erbyn 31 Mawrth 2011. Bydd y darn ysgrifenedig yn cynnwys yr elfennau canlynol am y person sy’n cystadlu:

e.e. teulu a diddordebau

(dylid nodi pa ddosbarthiadau a fynychwyd, os yn berthnasol)


logo'r eisteddfodCynhelir y rownd gyn-derfynol yn ystod y gwanwyn, ac yna bydd pedwar yn cael eu dewis i gymryd rhan yn y rownd derfynol a gynhelir yn ystod yr Eisteddfod yn Wrecsam. Cyhoeddir enw’r enillydd yn seremoni Dysgwr y Flwyddyn a bydd yr enillydd hefyd yn ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn.

Gwobrau
Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 i’r enillydd, ynghyd â £100 yr un i bawb arall yn y rownd derfynol. Hefyd ceir tanysgrifiad blwyddyn yr un gan gylchgrawn Golwg i bawb yn y rownd derfynol.


bulletDyddiadau pwysig eraill:

Cystadlaethau Llwyfan: rhaid i’r enwau fod yn llaw y trefnydd erbyn 1 Mai 2011
Cystadlaethau Cyfansoddi: rhaid i’r gwaith fod yn llaw y trefnydd erbyn 1 Ebrill 2011
*Mae’r holl fanylion i’w cael yn y Rhestr Testunau, ar wefan yr Eisteddfod www.eisteddfod.com neu o’r Swyddfa, Uned 15, Parc Busnes Yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, CH7 1XP

Digwyddiadau Maes D
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer dysgwyr ar bob lefel eto eleni – sgyrsiau, darlithoedd, gemau, cerddoriaeth, gwersi iaith, cyfrifiaduron a phaned wrth gwrs. Croeso cynnes i bawb a bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn hir.

Yr Ŵyl Yn Eich Poced
Bydd y llyfryn hwn ar gael cyn hir ac yn edrych yn hynod o gyffrous ar ei newydd wedd!


llinell