Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl profiad tiwtor

Rwy wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Llundain ers mwy na deng mlynedd bellach ac mae’r galw am ddosbarthiadau Cymraeg wedi cynyddu’n ddiweddar. Yng Nghanolfan Cymry Llundain eleni, fe ddechreuodd tri deg o fyfyrwyr yn lefel un ym mis Medi. Oherwydd diffyg lle a diffiyg tiwtoriaid profiadol bu’n rhaid i ni roi pawb yn yr un dosbarth.

Roedd ugain ohonyn nhw eisiau dysgu tafodiaith y De ac roedd y gweddill eisiau dysgu tafodiaith y Gogledd. Mae hyn wedi bod yn sialens fawr; rhaid addasu fy ffordd o ddysgu ac mae’r grwpiau yn arwain eu dysgu eu hun gyda chymorth dysgwyr profiadol sy’n fy helpu yn y dosbarth. Mae’r dosbarth yn gweithio’n dda hyd yma ond roedd dysgu mae gen i... ac mae... gyda fi yn yr un dosbarth yn anodd.

Y peth gorau am ddysgu yng Nghanolfan Cymry Llundain, Gray’s Inn Road, ydy’r bywyd cymdeithasol yn y bar ar ôl y dosbarth, ac mae’r sgwrs yn y bar yn troi at hanes, gwleidyddiaeth, chwaraeon a diwylliant Cymreig.

llun profiad tiwtorUn o’r problemau mwyaf wrth ddysgu dosbarthiadau nos wythnosol yma yn Llundain ydy maint y cyrsiau safonol a gyhoeddwyd gan CBAC. Rhaid i ni geisio dysgu pob cwrs mewn un flwyddyn yma ac weithiau rydyn ni’n colli pobl
sydd angen mwy o amser i ymdopi â’r iaith. Bydd cwrs un-dydd deirgwaith y flwyddyn yn helpu ein myfyrwyr ond mae’n anodd cadw myfyrwyr, yn enwedig y myfyrwyr sy’n byw y tu allan i Lundain.

Rwy’n meddwl bod adnoddau ar-lein fel Say Something in Welsh yn bywsig dros ben yn Llundain a rwy’n falch bod pawb yn gallu gweld rhaglenni S4C ar-lein nawr. Mae hi’n fwy anodd i fyfyrwyr ymarfer yr iaith yma yn Llundain os nad ydyn nhw’n byw gyda Chymry Cymraeg, ond ar y llaw arall mae hiraeth yn gallu gyrru pobl i ddal ati.

Os am fwy o fanylion am ddysgu Cymraeg yn Llundain cysylltwch â jamespdodd@f2s.com neu ewch i’r wefan http://www.londonwelsh.org/learn-welsh

 

llinell