Mae cyhoeddwyr wrthi ar hyn o bryd yn paratoi ceisiadau tendr ar gyfer pedwar prosiect a flaenoriaethwyd gan banel adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS ym mis Gorffennaf.
DVD
DVD yn cyflwyno casgliad o glipiau fideo o raglenni teledu cyfrwng Cymraeg sy’n addas ar gyfer dysgwyr ar lefelau Sylfaen a Chanolradd. Bydd y clipiau yn cael eu dethol o amrywiaeth eang o raglenni gan gynnwys rhaglenni nodwedd, rhaglenni sgwrsio, bwletinau newyddion a thywydd, rhaglenni plant, chwaraeon ac operâu sebon. Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys canllawiau i diwtoriaid, taflenni gweithgareddau a thrawsgrifiadau o bob clip.
Llyfrau darllen
Cyfres o chwe llyfr ar gyfer dysgwyr i feithrin sgiliau darllen a gwella sgiliau ieithyddol mewn modd hwyliog a diddorol. Bydd dau lyfr yr un yn cael eu paratoi ar gyfer lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Bydd y llyfrau yn cynnwys darnau darllen ffeithiol yn ogystal â ffuglen ac yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau o ddiddordeb i ddysgwyr gan gynnwys diwylliant a threftadaeth Cymru.
Amser stori
DVD-ROM a deunydd ar y we yn cyflwyno casgliad o glipiau fideo o unigolion yn darllen detholiad o lyfrau poblogaidd yn union fel byddai rhiant yn ei wneud. Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo rhieni gyda dealltwriaeth elfennol o’r iaith Gymraeg i ddarllen llyfrau Cymraeg poblogaidd i’w plant. Bydd yr adnodd hefyd yn cynnwys gwybodaeth gefndirol am y llyfrau dan sylw ac awgrymiadau pellach am sut gall dysgwyr fwynhau darllen gyda’u plant.
Cronfa ddata
Cronfa ddata gynhwysfawr ar-lein o adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob oedran. Bydd y gronfa ddata yn cynnwys gwybodaeth am fath, lefel a chynnwys yr adnodd yn ogystal â linc i wybodaeth bellach ar wefan gwales.com ar gyfer deunyddiau sydd ar werth neu ddolen uniongyrchol i’r adnoddau ar-lein. Bydd y gronfa ddata hon yn cael ei diweddaru’n gyson er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol.
Y gobaith yw y bydd cyhoeddwyr yn cael eu hapwyntio i ymgymryd â’r pedwar prosiect yn gynnar yn 2011 gyda’r gwaith yn cychwyn yn fuan ar ôl hynny.