Ers dechrau mis Chwefror mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn gallu astudio modiwl Cymraeg i Oedolion yn rhan o’u gradd Gymraeg am y tro cyntaf. Cynigir y cwrs i fyfyrwyr israddedig sydd yn eu hail flwyddyn.
Mae’r cwrs yn edrych ar sawl agwedd gwahanol ar y maes ac yn dechrau gyda hanes Cymraeg i Oedolion. Dechrau’r daith yw llyfrau ‘dysgu’ diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, llyfrau fel Llyfr Ymddiddanion a Geir-lechres Gyflawn Saesneg a Chymraeg At Wasanaeth Teithwyr ac Efrydwyr a gyhoeddwyd yn 1890 yn Wrecsam.
Mae cefnogaeth y cyfryngau yn derbyn sylw, o raglenni radio Stephen J Williams yn y pedwardegau a rhaglenni teledu fel Croeso Christine (TWW), hyd at raglenni mwy cyfoes fel Now You’re Talking ac Yr Wythnos. Mae’r pwyslais wedi newid rhywfaint yn ddiweddar gyda diflaniad rhaglenni i ddysgwyr o’r cyfryngau torfol a symudiadau tuag at ddatblygu’r cyfryngau ‘newydd’ ar y we.
Mae hanes twf dosbarthiadau cymunedol a dechreuadau cyrsiau wlpan yn arwain at ddatblygiadau mwy cyfoes fel sefydlu’r Consortia yng nghanol y nawdegau hyd at eu dileu a sefydlu’r Canolfannau presennol.
Mae’r sesiwn ar fethodoleg yn trafod prif elfennau datblygiadau methodolegau dysgu dros y canrifoedd gan ystyried dulliau gramadeg - cyfieithu, y dull union, clyw lafar, y cyrch-ddull cyfathrebol, dadawgrymeg, ymateb corfforol cyflawn a’r dull distaw.
Yn hwyrach yn y cwrs daw pynciau mwy ymarferol dan sylw fel cynllunio gwersi a manylion gwerslyfrau’r lefelau gwahanol a chaiff myfyrwyr y cwrs gyfle i ddysgu rhywfaint o Bortiwgaleg gan eu rhoi yn esgidiau’r dysgwyr. Trwy wneud hyn rhoddir cyfle iddynt ystyried y dulliau dysgu o safbwynt y dysgwr. Yn y pendraw, y gobaith yw denu mwy o sylw at y maes ymhlith myfyrwyr y cwrs gradd ac efallai gellir denu ambell i fyfyriwr i mewn i’r byd dysgu.
Mae 12 o fyfyrwyr wedi cofrestru i wneud y cwrs ac mae tri aelod o staff y Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn gyfrifol am ddysgu’r cwrs. Steve Morris fydd yn gyfrifol am gynnal y wers enghreifftiol mewn iaith dramor yn ogystal â gweithdy ar sut mae dysgu a gwella ynganiad. Bydd Mark Stonelake yn cynnal gweithdy ar ddefnyddio gwerslyfrau a Chris Reynolds fydd yn edrych ar hanes y maes a thrafod methodoleg a dulliau dysgu.
Am fwy o fanylion cysylltwch â c.j.reynolds@swansea.ac.uk
neu ewch i wefan Academi Hywel Teifi a gwefan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion.