1. Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu? Soniwch am eich cefndir a’ch teulu.
Ges i ’ngeni yn Ysbyty Stouthall yn Reynoldston, Bro Gŵyr, ym 1952. Cymry di-Gymraeg o’dd teulu ’nhad ond Cymry o Rydaman o’dd teulu fy mam. Mae dwy chwaer ’da fi sy’n byw ym Mro Gŵyr o hyd. O’dd teulu fy nhad yn ffarmio yno ac mae’r ffarm mewn pentre’ o’r enw Llan y tair Mair (Knelston yn Saesneg). A phwy yw’r tair Mair? Mae sôn amdanyn nhw yn yr apocryffa ac yn ôl y stori yno priododd mam-gu Iesu a chael merch, sef Mair mam Iesu, ond collodd hi ei gŵr. Priododd hi ’to a chael merch arall ac o achos o’dd ei merch gynta’, Mair mam Iesu, yn amlwg yn blentyn arbennig, rhoiodd hi’r enw Mair ar y ferch ’ma hefyd. Wedyn collodd hi ei gŵr, priodi ’to a chael merch arall gan roi’r enw Mair ar y ferch ’ma hefyd, ac am yr un rheswm. Felly Mair mam Iesu a’i dwy hanner chwaer o’r un fam yw’r tair chwaer. O’dd tipyn o fynd ar y stori ’ma yn ystod yr oesoedd canol ac mae sawl cerdd o’r cyfnod yn sôn amdynyn nhw. Sa i wedi dod o hyd i’r un eglwys yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban na Lloegr sydd ag enw tebyg, ond ’w i’n meddwl fod un yn Llydaw. Dim ond yr enw Saesneg sy’ ar yr arwyddion tu fa’s i’r pentre’.
Sylvanus Jones o’dd enw fy nhad. Mae Sylvanus yn enw sy’n mynd o un genhedlaeth i’r llall yn y teulu ers cenedlaethau, yn enw cynta’’r mab hena’ ac yn ail enw bob yn ail. Daeth e i fi yn ail enw a newides i fe i’r ffurf Gymraeg Silfanws. Silfanws o’dd duw’r goedwigaeth i’r Rhufeiniaid ac wedyn daeth yr enw i olygu swyddog o’dd yn gweithio yn y goedwig. Y cyfnod mwya’ diddorol i fi yn hanes Cymru a Prydain yw cyfnod y Brythoniaid ac os ewch chi i bentre’ Silian ar bwys Llanbedr Pont Steffan i weld yr eglwys yno, ’welwch chi, tu fa’s ac i’r dde o brif fynedfa’r adeilad a chwpl o lathenni rownd cornel yr eglwys marce pum troedfedd o’r llawr a wedi’i gosod yn y wal, hen garreg fedd. Wrth godi’r eglwys canrifoedd yn ôl daeth y gweithwyr o hyd i’r garreg fedd yn yr ardal a’i rhoi yn wal yr eglwys. Mae ysgolheigion wedi dyddio’r garreg rhwng y 7fed a’r 9fed ganrif ac ar y garreg mae dau air Lladin SILBANDWS IACIT. Yn ôl Yr Athro Kenneth Jackson yr enw yw ’..... Silbānus (a Vulgar Latin form of Silvānus), .....’ Yn aml iawn y fformiwla o’dd ’HIC IACIT X’ sef ’(d)yma orwedda X’ ond ambell waith o’dd dim ’HIC’, fel gyda’r garreg fedd yn wal eglwys Silian. Mae hi’n ddiddorol i fi weld enw’r teulu’n mynd ’nôl mor bell a phan gafodd fy mab ei eni penderfynes i docio’r enw hir gan roi’r enw Silfan arno fe.
2. Oedd y Gymraeg yn bwysig i chi a’ch teulu pan oeddech yn blentyn?
O’dd dim diddordeb gyda fy mam yn y Gymraeg. Saesneg o’dd y ffordd i gael swydd dda, arian a bod yn bwysig. Fi a’r ddwy chwaer yw’r genhedlaeth gynta’ yn y teulu i gael ei magu heb y Gymraeg ac os yw’r Athro John Koch, Aberystwyth yn iawn yn dyddio tarddiad yr iaith mae hyn yn golygu y genhedlaeth gynta’ ers dros bedair mil o flynyddoedd i fod heb Gymraeg ar eu gwefusau. O’dd tair chwaer ac un brawd ’da fy mam, yn Gymry i gyd a’u plant nhw’n siarad Cymraeg.
3. Ble aethoch chi i’r ysgol? Soniwch am eich addysg.
Bu farw fy nhad pan o’n i’n ddwy flwydd oed ac es i i Rydaman i aros ’da teulu fy mam ac es i i’r ysgol feithrin a’r ysgol gynradd yno, yr un ar bwys y sgwâr. Gorsaf fysiau yw’r safle nawr. Wedyn es i ’nôl i Fro Gŵyr i fyw ac i Ysgol Ramadeg Tregŵyr.
4. Beth wnaethoch chi wedyn? Soniwch am eich gwaith.
Ar ôl dargyfeiriad bach yng Nghaerdydd a’r Alban es i i Aberystwyth pan o’n i’n saith ar hugain i ’neud gradd yn Gymraeg, gan ddechrau gyda’r cwrs ar gyfer pobol o’dd yn dysgu Cymraeg, cwrs i ddechreuwyr. Ond o’n i ddim yn hapus gyda bywyd y coleg a hefyd o’n i’n mo’yn ’neud iaith, dim llenyddiaeth felly gadawes i heb fennu’r cwrs. Yn anffodus o’dd hi ddim yn bosib ’neud gradd mewn ieithyddiaeth gan ganolbwyntio ar ieithyddiaeth y Gymraeg adeg ’ny.
5. Pryd dechreuoch chi ddangos diddordeb yn y maes Cymraeg i Oedolion?
Soniwch am eich profiadau cyntaf fel tiwtor CiO.
Dechreuodd fy niddordeb ym maes CiO yn Nhŷ Tawe, Abertawe marce chwarter canrif yn ôl pan ’nes i gwrs Cymraeg yno. Un wythnos o’dd un o’r tiwtoriaid yn dost a gofynnodd rhywun i fi gymryd y dosbarth a ’nes i hynny. ’W i’n cofio hyd heddi rhai o’r pethe gwirion ’nes i yn ystod y dosbarth. Dim profiad, dim digon o Gymraeg, di-glem, ond dyna o’dd dechrau’r daith yn y maes i fi. Mae hyfforddiant ar gael i ddarpar diwtoriaid erbyn heddi!
6. Soniwch am eich gwaith presennol. Hefyd, pa ddosbarthiadau sydd ‘da chi ar hyn o bryd? Ble dych chi’n cwrdd a.y.y.b?
’W i’n gweithio fel Tiwtor Drefnydd Cymraeg i Oedolion yn Sir Benfro ac aelod staff Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ac mae swyddfa fach ’da fi yn Hwlffordd. ’W i’n byw yn Abergwaun. Cymysgedd o ddysgu a threfnu yw’r gwaith felly ac eleni mae dosbarthiadau Mynediad dwys a Sylfaen Dwys ’da fi. Mewn byd delfrydol bydden i’n dysgu dim ond lefel Mynediad a Sylfaen achos dyna’r rhan o’r gwaith sy’ fwya’ diddorol a hwylus i fi, yn gweld pobol yn dod aton ni a dim Cymraeg ’da nhw a gadael lefel Sylfaen yn cyfathrebu yn yr iaith.
7. Beth yw eich diddordebau?
Ymlacio a ’neud dim byd. Dysgu, dim addysgu, Gwyddeleg (mae dosbarthiadau Gwyddeleg ’da ni yn Hwlffordd) a dysgu Swedeg achos mae’r mab Silfan yn byw yn Sweden.
8.Soniwch am sefydlu’r Clonc Mawr. Beth oedd y bwriad tu ôl i wneud hynny? Ydy’r fenter wedi bod yn llwyddiannus?
Fi yw Cloncfeistr y Clonc Mawr, sef taith gerdded ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg a’r Cymry. ’Yn ni’n cerdded rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro un dydd Sadwrn bron bob mis. Dechreuon ni yn Llanrhath (Amroth) yn ne Sir Benfro ym mis Mawrth 2009 a bennwn ni ar draeth Poppit yng ngogledd y sir. Cymerith y Clonc Mawr marce pedair blynedd i fynd o Lanrhath i Poppit ac wedyn troiwn ni a cherdded ’nôl i Lanrhath, ac wedyn troiwn ni a .........; fydd dim taw ar y cloncan Cymraeg.
Mae defnyddio iaith tu fa’s i’r stafell ddosbarth yn hanfodol i oedolion sy’n dysgu’r iaith. Yn fy marn i, rhan fach o ddysgu iaith yw’r gwaith yn y stafell ddosbarth ac mae’r mwyafrif o’r gwaith sy’ eise i ddysgu iaith yn digwydd wrth i bobol gymdeithasu trwy gyfrwng yr iaith tu fa’s i’r stafell ddosbarth. A dyna’r broblem fwya sy’n wynebu’r oedolion sy’n trïal dysgu Cymraeg heddi, hyd yn oed mewn llefydd fel Abergwaun, sdim digon o gyfle iddyn nhw gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymdeithasol. Sdim rheidrwydd iddyn nhw ddefnyddio Cymraeg achos mae pawb yn gallu cyfathrebu yn Saesneg. Mae’r Clonc Mawr yn helpu llenwi’r bwlch ’ma.
Mae’r Clonc Mawr yn dechrau am 10.30 mewn caffi, neu os nad oes caffi cyfleus ’yn ni’n cwrdd am 10.45 a dechrau cerdded am 11.00. ’Yn ni’n bennu mewn tafarn neu gaffi am 3.30 a chael awr yn cloncan tan 4.30, felly rhwng 10.30 a 4.30 dyna marce chwech awr o gloncan yn Gymraeg. Daeth y syniad o ’neud hyn i fi marce deng mlynedd yn ôl. Mae e’n llwyddiannus ond mae eise i ni gael mwy o ddysgwyr a mwy o Gymry ar y Clonc Mawr. Mae e’n brofiad gwerthfawr i’r oedolion sy’n dysgu Cymraeg a gallwch chi weld lluniau yma: http://www.flickr.com/photos/y_clonc_mawr/sets/
Canodd Dafydd Iwan am y Clonc Mawr:
“I’r Clonc! I’r Clonc!
Dewch Gymry hen ac ifanc.
Dewch i’r Clonc!”
Newidodd e’r geiriau wedyn, sa i’n gwbod pam, a daeth yr ail fersiwn yn enwog.
A dyma pwt bach ’sgrifennes i i danlinellu pa mor bwysig yw hi i ni gael y Cymry ar y Clonc Mawr. Dim ond trwy gymdeithasu â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg all oedolion ddysgu’r iaith.
Cymry’r Cloncie
Fe gewch chi hwyl a sbri,
Bisgedi, cacenni a dished o fri,
A phan ddewch chi’n llu, pentigili,
I ganol y miri, a’r garw wedi’i dorri,
Fe gewch chi’r fraint, heb sylwi,
O ddod â’ch Cymraeg aton ni.
Y Cloncfeistr
9. Sut dych chi’n gweld y maes CiO yn datblygu?
- Peth da o’dd creu’r chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion. Mae strwythur ’da ni nawr a gall y strwythur addasu, datblygu a gwella. I fi, dechreuodd maes CiO o ddifri pan ddechreuodd y chwe chanolfan ac mae tipyn o ffordd i ni fynd cyn i ni fod yn llwyddiannus, ond ’yn ni ar y ffordd nawr.
- Mae eisiau cyrsiau newydd, da ar bob lefel ac mae’r gwaith ’ma wedi dechrau.
- Mae eisiau mwy o ieithyddion i ’neud gwaith ymchwil academaidd ym maes dysgu iaith i oedolion ac wrth gwrs i faes dysgu Cymraeg i oedolion. Mae dylanwad ’pobol lenyddiaeth’ yn ormod ar y maes (a’r un broblem yn yr ysgolion).
- Rhaid cael tiwtoriaid ar gytundebau a chyflogau tebyg i athrawon ysgol i roi gyrfa broffesiynol go iawn iddyn nhw a hoffwn i weld y termau ’tiwtor’ a ’dysgwr’ yn diflannu. Athro ydw i, yn dysgu myfyrwyr.
- Hoffwn i weld Y Tiwtor yn dod ma’s bob mis a llawer mwy o bethe ynddo fe.
- Hoffwn i weld cwrs gradd tair blynedd ar gyfer pobol sy’n mo’yn hyfforddi i fod yn diwtoriaid Cymraeg i oedolion.
- Bydd Coleg Cymraeg Ffederal ’da ni cyn bo hir fydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddara i ddarparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr prifysgol. Hoffwn i weld Coleg Cymraeg i Oedolion Ffederal hefyd fydde’n datblygu maes CiO ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr/myfyrwyr gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddara sy’n golygu bydde rhai oedolion yn parhau i ’neud cyrsiau CiO mewn canolfannau cymunedol ayyb ond bydde eraill yn ’neud eu cyrsiau neu ran o’u cyrsiau gartre, ble bynnag maen nshw’n byw.
10. Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol? – yn bersonol ac o ran y maes CiO.
- ’W i’n gobeithio ’neud y swydd sy’ ’da fi’n iawn a hybu maes CiO, y dysgu a’r addysgu yn Sir Benfro, tu fewn a tu fa’s i’r stafell ddosbarth.
- ’W i’n gobeithio gweld yr holl fudiadau sydd â’r gallu i hybu’r Gymraeg a’r defnydd o’r iaith yng Nghymru yn cydweithio yn effeithiol.
- Mae Borsley, Tallerman a Willis yn dweud “..... the language ..... is threatened by ..... decreasing fluency of it speakers .....” (The Syntax of Welsh, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, tud. 4). Mae rhuglder y Cymry’n lleihau a dyma’r bygythiad mwya’ i ddyfodol yr iaith yn fy marn i.
- ’W i’n gobeithio gweld yr enw Cymraeg gwreiddiol, Llan y tair Mair, gyda’r enw Saesneg ar yr arwyddion wrth gyrraedd y pentre’ bach ’na ym Mro Gŵyr.
- ’W i’n gobeithio darllen fersiwn Cymraeg ’The Ascent of Rum Doodle’ gan W. E. Bowman a fersiwn Cymraeg fy hoff nofel i, ’Siddhartha’ gan Herman Hesse, rywbryd.
- ’W i’n gobeithio gwella fy Ngwyddeleg a fy Swedeg i.
- Mae comig poblogaidd iawn yn Sweden o’r enw ’Bamse’, a ’Bamse’ yw enw’r arwr. Bamse yw arth gryfa’r byd. Mae Bamse’n bwyta ’dunderhonung’, sef mêl taranau (thunder honey) a dyna gyfrinach ei gryfder, yn union fel Popeye a’i ’spinach’. ’W i’n gobeithio gweld ’dunderhonung’ yn siopau Abergwaun, bydde tipyn bach ar yr uwd bob bore cyn mynd i’r gwaith yn fuddiol iawn. Gallwch chi weld y cartŵn yma: http://www.youtube.com/watch?v=E3Kx-Ks4FA8&feature=player_embedded
- O ie, a ’w i’n gobeithio bod yn hapus, wrth gwrs!