Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

croeso i'r tiwtoruchelwydd

llun clawrY Gynhadledd Genedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion sy’n mynd â’n sylw yn y rhifyn hwn. Cafwyd diwrnod llawn o gyflwyniadau amrywiol yng Ngwesty’r Park Thistle yng Nghaerdydd ar 19 Tachwedd eleni, oedd yn cynnwys Gweithdy Mireinio’r Gymraeg. Ceir mwy o fanylion eto yn yr erthygl Pigion y Gynhadledd.

Cawn wybod hanes Emyr Davies yng Nghyfarfod ALTE a chawn weld beth yw ffrwyth llafur Peter Arnold wrth Brofi Geirfa. Darllenwch am y diweddara o ran adnoddau a Phrosiectau Newydd APADGOS, a dewch am dro draw i’r Amgueddfa Wlân yn Nrefach-Felindre i ddysgu sut mae Gwau Geiriau. A sôn am adnoddau, dyma gyflwyniad i holl rychwant Adnoddau’r BBC ar gyfer dysgwyr Cymraeg.


Beth yw ADCDF?

Yn y rhifyn hwn hefyd mae Hadyn Hughes yn esbonio beth yw ystyr a goblygiadau ADCDF i diwtoriaid. Ewch i’r adran Deunydd Dysgu hefyd i weld sut y gellir cynnwys yr elfen hon yn eich gwersi.

Mae nifer o brofiadau newydd yn cyrraedd tudalen flaen Y Tiwtor, ond dyma’r tro cyntaf i ni gynnwys Dyddiadur Tiwtor Newydd, gan gofnodi profiadau Catrin Griffiths wrth iddi gofrestru i gwblhau’r Cymhwyster Cenedlaethol.  Un arall sy’n cofnodi profiadau yw Guto Rhys wrth iddo esbonio cefndir Y Treigladur / The Mutations Map.

Garddio a gwnïo, merlota a hwylio – mae gennym Diwtor a Dysgwr prysur iawn yn y proffiliau yn y rhifyn hwn. Darllen yn y Canolbarth, beicio a rhedeg ym Morgannwg, a mwynhau diwrnod Cymraeg i’r Teulu yng Ngwent: yn wir, does dim amser i laesu dwylo yn y Canolfannau chwaith.

Cystadleuaeth

Ar drothwy tywydd garw unwaith yn rhagor, ewch i’r adran Cystadleuaeth am gyfle i ennill blanced draddodiadol Gymreig i’ch cynhesu. Mae yma syniadau da am anrhegion Nadolig hefyd!

Deunydd Dysgu

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn, ymysg pethau eraill, mae gennym dasgau arbennig sy’n cynnwys enghreifftiau o ADCDF, yn ogystal â thasg gwrando ar gyfer lefel Mynediad. nadolig llawenMae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

 

llun gwaelod clawr