www.bbc.co.uk/cymru
Mae gwledd o adnoddau rhad ac am ddim ar gyfer Cymraeg i Oedolion ar wefan Dysgu BBC Cymru.
Ceir gweithgareddau rhyngweithiol, gemau addysgol yn ogystal â ffeiliau sain i’w lawrlwytho ar gyfer ystod eang o lefelau gwahanol. Er mai bwriad pennaf y wefan yw cefnogi dysgwyr sy’n dymuno gweithio ar eu liwt eu hunain y tu allan i’r stafell ddosbarth, mae’r adnoddau yn cynnig cymorth gwerthfawr yn ogystal â syniadau creadigol i diwtoriaid hefyd.
Strwythurir pob elfen o fewn y wefan yn ofalus iawn, er mwyn darparu cynnwys iaith o’r safon uchaf, a seilir y cynnwys ar ddulliau addysgol cadarn a ddatblygir gan arbenigwyr iaith.
Ceir nifer o safleoedd unigol o fewn y brif wefan, a phob un ag enw a naws unigryw. Gan fod pob un o’r adnoddau unigol hyn yn dilyn fformat gwahanol, mae’r testunau amrywiol a’r gweithgareddau amgen yn sicrhau na fydd y dysgwyr yn diflasu wrth i’w dealltwriaeth o’r Gymraeg gynyddu ac wrth iddynt ddod i adnabod y cynnwys a dechrau meistrioli’r iaith.
Offer iaith
Cynigir offer iaith ar y brif wefan ac ar draws y safleoedd amrywiol ar ffurf geiriadur rhyngweithiol, gwirydd sillafu ynghyd ag adran ar ramadeg.
Mae’r geiriadur dwyieithog rhyngweithiol yn nodi cenedl y gair, y ffurf luosog ac, mewn nifer o achosion, yn cynnig brawddeg enghreifftiol sy’n cynnwys y gair dan sylw ynghyd â ffeil sain i wrando ar ynganiad y gair.
Mae’r gwirydd sillafu yn cynnig nifer o opsiynau i roi help llaw wrth ddod i’r afael â sillafu yn y Gymraeg, a cheir dogfennau cynhwysfawr i’w lawrlwytho yn yr adran ramadeg, yn ogystal â phrofion rhyngweithiol i gyd-fynd â’r taflenni hyn.
Hefyd, mae’r gwirydd treigladau yn gwirio’r treiglad meddal pan fo ansoddair yn dilyn enw benywaidd.
Colin & Cumberland
Cymeriadau cartŵn doniol dros ben yw Colin a’i gi, Cumberland, sy’n byw yn eu byd bach digrif eu hunain. Ceir dulliau dysgu sy’n helpu defnyddwyr i ddysgu’r iaith bron iawn heb sylwi. Mae’r safle hwn yn ffordd ardderchog i ddysgu ymadroddion allweddol Cymraeg ar gyfer dechreuwyr pur, ac mae’r adnodd hefyd yn addas ar gyfer lefel mynediad a sylfaen, gyda fersiwn y de neu’r gogledd.
Ceir hyd i’r prif gynnwys iaith o fewn yr adran Games. Mae’r dysgu o fewn y gemau yn dilyn yr un strwythur bob tro gyda dilyniant syml a synhywrol. Mae’r dysgu cynyddol yn galluogi’r defnyddiwr i fynd drwy’r lefelau yn raddol, gyda chliwiau gweledol a chyfieithiadau i’w helpu ar y ffordd cyn cwblhau’r gêm drwy ddefnyddio’r Gymraeg yn unig.
Mae’r holl gynnwys iaith ar gael yn y Little Black Book/Wordbank, sef cyfeirlyfr y gellir ei ddefnyddio wrth chwarae’r gemau, neu fel offer dysgu syml.
Ceir hefyd ffeiliau sain i gyd-fynd â’r eirfa enghreifftiol i helpu’r defnyddwyr gydag ynganu.
Welsh at Home
Dyma ffordd wych o ddysgu’r Gymraeg wrth deithio o gwmpas tŷ rhithwir. Mae modd ymweld â phob ystafell yn y tŷ a chlicio ar nifer o declynnau a chelfi cyffredin mewn tŷ arferol. Ceir hyd i weithgareddau hwyliog, croeseiriau ac ymarferion gwrando a deall o fewn yr adnodd drwy glicio ar ambell i ddodrefnyn. Cynllunir y wefan hon yn wreiddiol ar gyfer rhieni sydd am fynd i’r afael â’r iaith a chefnogi addysg Gymraeg eu plant. Wedi dweud hynny, gyda’r pwylais ar yr iaith lafar, sgiliau ysgrifennu ynghyd ag ymarferion darllen a deall, a gwrando a deall, mae Welsh at Home yn adnodd penigamp ar gyfer dechreuwyr pur. Noder bod angen y feddalwedd Shockwave ar eich cyfrifiadur i weld y cynnwys hwn. Mae modd dewis fersiwn y gogledd neu fersiwn y de.
Welsh in the Workplace - Jonesville
Pentref rhithwir yw Jonesville, ac mae’r adnodd Welsh in the Workplace wedi ei gynllunio i helpu dysgwyr yn y byd gwaith sy’n cyfathrebu â chwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg, neu sydd am ehangu eu gorwelion yn y gweithle. Drwy ymweld â’r pentref a dewis gweithle arbennig, megis swyddfa, siop neu westy, ceir cyfle i glicio ar wahanol wrthrychau o fewn yr adeiliadau a gwrando ar ynganiad yr eirfa. Gellir gwylio golygfeydd syml a chwarae rôl yn seiliedig arnynt er mwyn gwella sgiliau llafar. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer lefel mynediad a sylfaen, a gellir dewis naill ai fersiwn y gogledd neu fersiwn y de.
Big Welsh Challenge
Cwrs fideo rhyngweithiol sy’n torri tir newydd yw Big Welsh Challenge. Ceir cyfle i ddysgu Cymraeg gyda chyfres o olygfeydd drama sy’n seiliedig ar fframwaith Cwrs Mynediad CBAC. Gellir ymarfer y patrymau iaith gyda thiwtor ar-lein, chwarae rôl a defnyddio isdeitlau yn Gymraeg, Saesneg neu yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Cyflwyniad ydyw i adnoddau ar gyfer dysgwyr. Ceir dogfennau hefyd ar gyfer tiwtoriaid i’w lawrlwytho.
Catchphrase
Catchphrase ydy’r enw ar nifer o adnoddau radio ar gyfer dysgwyr. Mae’r gyfres radio wreiddiol yn cynnwys deunydd clywedol a thaflenni gwaith. Gellir lawrlwytho’r ffeiliau sain i beiraint MP3.
Opera sebon ar-lein ar gyfer dysgwyr yw Ysbyty Brynaber a gellir lawrlwytho’r penodau cyffrous ynghyd â’r penodau gramadeg i beiriaint MP3. Mae copïau o’r sgriptiau ar gael hefyd.
Mae cyfle i ddysgu Cymraeg gyda theulu’r Lloyds o Gaerdydd. Mae’r gyfres yn cynnwys deunydd sain a thaflenni gwaith a cheir prawf ar ddiwedd pob gwers.
Living in Wales
Mae’r wefan Living in Wales yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn ag ardaloedd gwahanol yng Nghymru yn ogystal â rhoi help llaw ar gyfer ynganu geiriau Cymraeg bob dydd ynghyd ag enwau lleoedd Cymraeg.
Bwrdd Negesuon - bbc.co.uk/dna/mbwalesedu/
Mae bwrdd negeseuon Language Lab ar gael ar gyfer dysgwyr sy’n cael trafferth gyda’u geirfa Gymraeg, neu sy’n pendroni dros bwyntiau gramadegol. Dyma ffordd wych i ddysgwyr ofyn cwestiynau yn ddi-enw pe dymunent, ac i diwtoriaid gynnig cyngor.
Os am gyfarfod siaradwyr Cymraeg, yna mae bwrdd negeseuon Learning Welsh yn ffordd ardderchog o rannu profiadau a dysgu mwy am Gymru a’r Gymraeg gan ddysgwyr eraill.
eClips
Cyfarpar clyweled BBC Cymru ar gyfer athrawon a thiwtoriaid yw eClips. Gellir dod o hyd i gannoedd o glipiau a’u harddangos yn y dosbarth drwy chwilio am air allweddol, neu ddewis clipiau fesul oedran neu bwnc arbennig. Ar ôl dod o hyd i glip, bydd y system yn arddangos y clipiau priodol a bydd crynodeb o ddisgrifiad y clip yn ymddangos. Er mwyn gweld y delweddau a gwybodaeth bellach ar gyfer tiwtoriaid, cliciwch ar mwy am y clip.
Ynghyd â phob fideo, ceir nifer o luniau llonydd. Gellir argraffu’r rhain yn gopïau caled neu eu hychwanegu fel rhan o gyflwyniad cyfrifiadurol. Gallwch glustnodi eich hoff glipiau a’u chwarae dro ar ôl tro heb orfod chwilio amdanynt eto.
Hefyd, mae DVD eClips Cymru a Chymreictod yn cynnwys adnoddau fideo, sain a lluniau o archif BBC Cymru. Mae’r DVD yn gyfle i bori drwy'r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael i athrawon, a dod o hyd i nifer helaeth o glipiau ar gyfer gwersi sy'n berthnasol i iaith a diwylliant Cymru. Mae’r DVD yn cynnwys nodiadau tiwtor a chlipiau byr o archif BBC Cymru ar gyfer themâu amrywiol, gan gynnwys llenyddiaeth, yr iaith Gymraeg, traddodiadau, digwyddiadau hanesyddol a llawer mwy. Yn ogystal, ceir gweithgareddau dysgu sydd wedi eu hysgrifennu gan Elwyn Hughes o Goleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, ynghyd â thrawsgrifiadau o’r cynnwys.
I fynd at yr holl adnoddau uchod, ewch i www.bbc.co.uk/cymru a chlicio ar y gair Dysgu. Mae croeso i chi gysylltu â’r BBC am fwy o fanylion.
Lowri Williams