Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
llun


teitl cystadleuaeth

 

Gwobr cystadleuaeth y rhifyn diwethaf oedd pecyn o adnoddau Cymraeg i Oedolion yn rhoddedig gan Adran Cymraeg i Oedolion, CBAC. Mae’r pecyn yn cynnwys copi o’r Ffeil Hyfedredd a hefyd yr adnodd newydd sbon, Dysgu Trwy Lenyddiaeth.

 

cloriauAm gyfle i ennill y pecyn hwn o adnoddau, rhaid oedd ateb y cwestiwn canlynol:

Pa gwrs Cymraeg i Oedolion sydd wedi ei addasu ar gyfer yr iphone?

Yr ateb wrth gwrs yw’r cwrs Mynediad, ac erbyn hyn mae’r holl baratoadau wedi eu gwneud ac mae’r cwrs Mynediad ar gael yn siop iTunes. Yr enillydd yw Caryl Clement, sy’n diwtor yn ardal Llanelli, a llongyfarchiadau mawr iddi. Gobeithio bydd y ddau becyn yn ddefnyddiol iawn iddi hi a’i dosbarthiadau.

 

llinell

map
Cystadleuaeth Newydd 
 

logoGyda thywydd oer y gaeaf wedi cyrraedd yn ei holl ogoniant, beth am flanced draddodiadol Gymreig i’ch cynhesu?  Dyma’r math o nwyddau a gynhyrchir yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach-Felindre. Mae mynediad am ddim ac mae’r amgueddfa ar agor ar hyd y flwyddyn:


Ebrill - Medi: 10am–5pm, bob dydd
Hydref - Mawrth: 10am–5pm, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn

Cynhelir nifer o weithgareddau yno i ddysgwyr ac mae’r pecyn Gwau Geiriau yn adnodd gwerthfawr iawn i diwtoriaid. Lle braf i gael sgwrs Gymraeg dros baned hefyd!

llinell

llun amgueddfa gwlan

Yr Amgueddfa Wlân sy’n cynnig y wobr ar gyfer cystadleuaeth y rhifyn hwn, sef carthen Gymreig, ac mae’n diolch yn fawr iddyn nhw am y wobr arbennig hon.

Am gyfle i ennill y garthen, atebwch y cwestiwn hwn:

llinell

Ble mae Amgueddfa Wlân Cymru?

llinell

Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu, a’r dyddiad cau yw 14 Ionawr, 2011. Felly brysiwch! Mae mwy o wybodaeth am yr Amgueddfa Wlân a’r adnodd Gwau Geiriau yn yr adran Newyddion.

                                                               Pob lwc! llun gwlan