Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Diwrnod
Cymraeg i’r Teulu
yng Ngwent

llun gwent

Dyma'r ail ddiwrnod Cymraeg i'r Teulu mae'r ganolfan wedi ei gynnal.  Roedd y diwrnod cyntaf ym mis Chwefror yn llwyddiant mawr gyda llawer o bobl ar hyd a lled Gwent yn dod i gael hwyl a sbri. Penderfynon ni drefnu yr ail ddiwrnod ym mis Hydref er mwyn hybu'r cyrsiau newydd ac i ddangos bod Cymraeg i'r Teulu yn tyfu mewn sawl ardal yng Ngwent. Mae'r diwrnodau wedi codi statws ein cyrsiau a statws y Ganolfan yn fawr iawn.  Daeth llawer o ddysgwyr pur i holi am ddosbarthiadau newydd a wnaeth llawer o'n dysgwyr ein cefnogi.  Mae dau ddiwrnod arall wedi cael eu trefnu yn y flwyddyn newydd mewn cydweithrediad â Menter Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, a Menter Caerffili.

llinell