Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
teitl dyddiadur

Cwrs o 60 credyd dros ddwy flynedd yw’r Cymhwyster Cenedlaethol a gaiff ei achredu gan Brifysgol Caerdydd a’i noddi gan Lywodraeth y Cynulliad. Ar ddiwedd y cwrs bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif ac mae modd parhau â chwrs 60 credyd arall mewn Coleg Addysg Bellach er mwyn cymhwyso’n llawn fel athro ôl 16.

Mae’n gwrs ymarferol ond mae hefyd yn edrych ar wahanol ddamcaniaethau dysgu ac addysgu. Rhoddir pwyslais ar astudio ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno gwersi effeithiol drwy ddull gweithdai. Rhaid cwblhau 75 awr o ymarfer dysgu a bydd disgwyl cael eich arsylwi 6 gwaith yn ystod y cwrs.

Drwy asesiad parhaus y dyfernir y cymhwyster a gosodir aseiniad ar ddiwedd pob modiwl. Ceir 4 modiwl i gyd, gyda modiwlau 1 a 2 yn cael eu cwblhau erbyn Pasg 2011. Ceir cyfnod hefyd o 4 penwythnos preswyl er mwyn paratoi ar gyfer yr aseiniadau.

Cefais yr awydd i wneud y Cymhwyster Cenedlaethol ar ôl cael blas ar waith tiwtor wrth gynorthwyo â gwaith gweinyddol yng Nghanolfan y Canolbarth yn y gynhadledd ranbarthol ym mis Medi. Wedi gweithio ym myd yswiriant a ffermio ers gadael ysgol es nôl i’r coleg a graddio mewn Mathemateg eleni, er mwyn newid cyfeiriad fy ngyrfa. Tan yn ddiweddar, doeddwn ddim wedi gwir werthfawrogi hwylustod na phwysigrwydd gweithio’n gyfan gwbwl drwy’r Gymraeg, heb sôn am brofi’r bwrlwm o gynorthwyo eraill i ddysgu siarad ein iaith. Rwy’n credu bod rhaid cael cyfnod o weithio y tu allan i’n gofod cyfforddus cyn i ni allu dweud yn bendant beth yw ein awyrgylch gwaith delfrydol. Penderfynais felly mai bod yn diwtor Cymraeg oedd yr union her oedd ei hangen arnaf.

Daeth penwythnos preswyl cyntaf y Cymhwyster Cenedlaethol, a phrofiad cyffrous oedd cyrraedd Gregynog gyda’r gerddi a’r plas yn edrych yn drawiadol dros ben, ac yn cynnig cyfleusterau dysgu arbennig o dda yn ogystal â lleoliad arbennig i ymlacio.

Dros dished o de ac ambell gacen flasus iawn cawsom gyfle i gwrdd â phawb, gan gynnwys ein darlithwyr, Haydn, Sian ac Elin, a’n mentor personol, Lowri. Er bod nifer o’r myfyrwyr yn dod o faes addysg roedd rhai o gefndir hollol wahanol a nifer yn ddysgwyr llwyddiannus eu hunain. Dyma beth oedd rysáit dda am gwmni diddorol! Ar y nos Wener cawsom hanes y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion a chrynodeb o ddatblygiadau yn y maes. Cawsom wybodaeth am y Cymhwyster a’r amserlen, gan gynnwys y meini prawf, a’r hyn fyddai’n ofynnol ohonom yn ystod y cyfnod dan sylw.
Roedd dydd Sadwrn yn llawn prysurdeb wrth flasu gweithdai bywiog, yn cyflwyno ac ymarfer iaith. Edrychwyd ar batrymau a blociau modelu gan gynnwys ailadrodd, disodli a thrawsnewid.  Cawsom gyfle i ymarfer ambell syniad newydd wrth drosglwyddo’r patrymau ar ffurf gemau a gweithgareddau difyr ac amrywiol. Gwelsom y syniadau yn cael eu harbrofi arnom wrthi ini weithio trwyddynt mewn grwpiau bychain neu barau. Roedd hyn yn dipyn o hwyl ac wrth gael cyfle i newid grwpiau o fewn y dosbarth roedd yn hawdd dod i adnabod pawb.

Roedd y dydd Sadwrn wedi ein paratoi ar gyfer y cyflwyniad ‘Meicro Ddysgu’. Ar fore Sul trafodwyd strwythur cynllun gwers lwyddiannus a’r dechneg o gyflwyno’n effeithiol. Ystyriwyd pa steil a thechneg sydd fwyaf llwyddiannus o ran annog myfyrwyr i siarad ac ymarfer patrymau. 

Mae’n wir i ddweud mai un nodwedd bwysig o’r math yma o benwythnos yw’r cymdeithasu. Drwy sgwrsio mae modd rhannu profiadau a bwydo ar egni’r bobl hynny sydd ychydig yn fwy profiadol o fewn y dosbarth.  Braf oedd gweld cymaint o frwdfrydedd ymysg tiwtoriaid am eu gwaith, a chymaint o angerdd dros ddyfodol yr iaith.

Teimlaf fy mod bellach yn rhan o dîm sydd fel teulu mawr, ac a fydd yn gefn imi ac yn sicrhau fy mod yn datblygu fel tiwtor hyd eithaf fy ngallu. 

Edrychaf ymlaen yn fawr at ein penwythnos nesaf yn Nhanybwlch lle byddwn yn canolbwyntio ar y Micro Ddysgu ac yn cael llond sach o sbort wrth wneud hynny.

Fe gewch chi’r hanes tro nesa!

 

Catrin
(Dyddiadur Tiwtor Newydd gan Catrin Griffiths, Canolfan CiO Canolbarth Cymru.)

 

llinell