Cefndir yr awdur: Guto Rhys
Un o Lanfairpwllgwyngyll ydw i ac rydw i wedi bod yn gweithio gydag ieithoedd ers amser maith fel athro a thiwtor. Am gyfnod bues i’n dysgu Saesneg ym Madrid ac wedyn Cymraeg ym Mhrifysgol Roazon/Rennes yn Llydaw. Erbyn hyn rydw i yn yr Alban yn gweithio ar ddoethuriaeth am iaith y Prydyn, Y ‘Pictiaid’. Roedd yr iaith hon yn cael ei siarad yn yr Alban am gannoedd o flynyddoedd ond bu farw rhyw fil o flynyddoedd yn ôl. Mae’n ymddangos mai math o Gymraeg oedd hi ond dydyn ni ddim yn hollol siŵr pa mor debyg oedd hi. Meddyliwch am enwau lleoedd fel Aberdeen.
Cyn hyn gwnes i MLitt ym Mhrifysgol Glasgow ac edrychais ar Gymraeg yr Hen Ogledd, sef de’r Alban a gogledd Lloegr. Mae’r ardal hon yn llawn dop o enwau Cymraeg. Lanark ydy llannerch, wrth gwrs, a glas sydd yn Glasgow. Mae’n debyg mai melyn sydd yn enw’r mynydd Helvellyn ac ystyr Cumbria ydy Cymru. Mae yma hefyd le o’r enw Penersax, sef Pen-y-Sais. Beth feddyliech chi yw Traprain Law gerllaw Caeredin? Wel, Tre’r Bryn yn ôl pob tebyg, a gellir cymharu Bannockburn â Bannau Brycheiniog.
Bum mlynedd yn ôl penderfynais i a chyfaill imi ddatblygu cwrs Wlpan ar gyfer Gaeleg yr Alban. Ar y pryd ychydig iawn o bobol oedd yn llwyddo i ddysgu’r iaith yn rhugl oherwydd doedd dim cwrs fel ein Wlpan ni yng Nghymru. Buon ni’n gweithio’n ddiwyd iawn am flwyddyn yn datblygu gwersi, yn eu treialu, yn llunio gemau ac yn treialu’r adnoddau ar gwrs dwys. Erbyn hyn mae Wlpan Gaeleg yr Alban yn llwyddiannus iawn gyda channoedd a channoedd o bobol yn dilyn cyrsiau ledled y wlad.
A dyma ddod nôl, ymhen hir a hwyr, at y Gymraeg.
Fel athro roeddwn i’n gwybod y gallai’r treigladau beri trafferthion lu i lawer o bobl, gan gynnwys Cymry Cymraeg – yn enwedig wrth ysgrifennu’r iaith. Felly, dyma benderfynu ceisio nodi’r rheolau ar ddwy ochr un daflen. Crynodeb lliw sydd yma felly o’r holl brif reolau treiglo. Nid gorchwyl hawdd. Gofynnais i lawer o diwtoriaid ac athrawon am syniadau ac wedi blwyddyn neu ddwy o waith dyma’r canlyniad. Doedd pawb ddim yn gytûn am y ffurfiau a hefyd mae rhai treigladau rydyn ni’n eu hysgrifennu ond ddim yn eu dweud bob tro. Hefyd, roedd yna gwestiynau’n codi am y gwahaniaethau bychain rhwng y tafodieithoedd. Ond mae’r daflen hon yn adnodd hanfodol, hwylus a deniadol ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn ysgrifennu Cymraeg safonol, ac yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr o bob lefel.
Y gobaith yw y bydd y daflen hon yn helpu pobl feistroli’r rheolau wrth edrych arni o dro i dro.
Pris y daflen yw £1.99 ac am fwy o fanylion cysylltwch â:
Treigladur@yahoo.com