Roedd y gweithdy hwn yn fuddiol iawn a chawsom ein harwain o’r syml i’r mwy cymhleth gyda gweithgareddau oedd wedi’u cynllunio’n ofalus i gyflwyno gwybodaeth ac i adeiladu ar yr wybodaeth honno.
Y cam cyntaf oedd i ni ddarllen paragraff a dod o hyd i enghreifftiau o rannau ymadrodd fel yr arddodiad ‘yn’, ‘yn’ traethiadol, ansoddair cysefin, ansoddair yn y radd gymharol, rhifolyn, goddrych, gwrthrych, treiglo adferfol - elfen gyntaf adferfol, a threiglo sangiadol. Wedyn roedd rhaid defnyddio’r wybodaeth i roi jig-so trionglau at ei gilydd (gweler Gêm y Trionglau) drwy ddadansoddi’r treigladau mewn caneuon a cherddi adnabyddus.
Gêm y Trionglau
Edrychodd Dr Angharad George wedyn ar lunio cymalau a’r opsiynau i ddefnyddio ‘pe’, ‘os’, neu ‘a’ i gyfleu ‘if’ y Saesneg. Esboniodd fod ‘pe’ yn cyflwyno cymal y mae amheuaeth am ei gyflawni, gydag amser amodol a gorberffaith, e.e. Prynwn gar mawr drud pe bawn i’n gyfoethog. Defnyddir ‘os’ pan mae rhywbeth yn ddibynnol ar rywbeth arall ond mae’n debygol y bydd yn digwydd e.e. Agorir yr adeilad os bydd yn ddiogel. Mae ‘a’ yn cyflwyno cwestiwn anuniongyrchol e.e. Rhowch wybod a fyddwch yn gallu dod i’r briodas
Ymlaen wedyn at fannau problematig a rhai eithriadau treiglo: eglurwyd nad ydy ‘ll’ na ‘rh’ yn treiglo ar ôl y geiriau ‘yn’, ‘y’, ‘mor’, ‘cyn’, ‘un’. Nodwyd bod ‘Os mae’ yn anghywir; dylid defnyddio ‘Os yw/ydy’ gyda brawddegau penodol ac ‘Os oes’ gyda brawddegau amhenodol.
I grynhoi’r gweithdy, defnyddiwyd yr wybodaeth ramadegol i gywiro paragraff gwallus.
Diolch i Angharad George am anfon yr enghreifftiau isod o’r tasgau a wnaed yn y sesiwn.
Ymarferion gloywi
- Adnabod Rhannau Ymadrodd – cadarnhau gwybodaeth
Chwiliwch am enghreifftiau o’r isod yn y darn.
Rhan Ymadrodd / Term gramadegol |
Enghraifft |
berf |
|
berfenw |
|
y fannod |
|
|
|
cysylltair |
|
‘yn’ traethiadol |
|
yr arddodiad ‘yn’ |
|
arddodiad syml (byr) |
|
arddodiad rhediedig (hir) |
|
ansoddair cysefin |
|
ansoddair yn y radd gymharol |
|
rhifolyn |
|
goddrych |
|
gwrthrych |
|
treiglo adferfol – elfen gyntaf adferfol |
|
treiglo sangiadol |
|
|
|
2. Defnyddio’r termau i ddadansoddi’r treigladau
- Gweler Gêm y Trionglau (sy’n cynnwys yr atebion)
- Gellir defnyddio’r termiadur defnyddiol isod i’w helpu gyda’r dasg.
Termiadur defnyddiol
TERMAU Gramadeg y Gymraeg |
Cymraeg Clir / Ystyr |
goleddfu |
yn dilyn |
rhagflaenu |
o flaen |
‘yn’ traethiadol |
Predicative – is/are |
U3g |
3ydd person unigol |
U1 |
Y person cyntaf unigol |
arddodiad syml |
arddodiad byr |
arddodiad rhediadol |
arddodiad sy’n cynnwys person |
Treiglo sangiadol |
Sangiad – geiriau sy’n newid trefn arferol y frawddeg |
Elfen gyntaf adferfol |
Yr adferf gyntaf sy’n rhoi mwy o wybodaeth inni : pryd, pellter |
Cymal enwol |
cymal y mae ‘bod’ yn ei gyflwyno |
Cymal perthynol |
cymal sy’n cyfleu that/who/whom/which |
cysefin |
ffurf wreiddiol |
3. Llunio cymalau amod a chwestiynau anuniongyrchol
1. |
|
2. |
|
3. |
|
Janette Jones