Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl amgueddfa gwlan

 

Yn y gorffennol, y diwydiant gwlân oedd diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin Cymru. Ar un adeg, roedd pentref pert Dre-fach Felindre yng nghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i'r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw'n 'Huddersfield Cymru'. Yno, gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a'u gwerthu i'r ardaloedd cyfagos - ac i bedwar ban byd.

Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd. Ail-agorwyd yr Amgueddfa yn 2004 ar ôl gwaith ailddatblygu helaeth ac erbyn hyn mae'n lle cyffrous i ymweld ag ef gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae cyfle i ddilyn y broses o ddafad i ddefnydd ac i ymweld ag adeiladau hynafol y ffatri sydd wedi eu hadnewyddu mewn ffordd sensitif. Yno mae cyfle i weld peirianwaith hanesyddol a nodweddion newydd sbon, fel y clos to gwydr.

Caiff ymwelwyr gyfle i ddilyn llwybr arbennig a gweld tecstiliau'n cael eu cynhyrchu ym Melin Teifi, sef ffatri wlân masnachol y safle, ac ymweld â'r Oriel Decstiliau sy'n dangos agweddau ar y Casgliad Cenedlaethol o Decstilau Fflat am y tro cyntaf.

llun amgueddfa gwlanGall teuluoedd ddilyn llwybr y 'Stori Wlanog', gan greu eu cyfarwyddiadau eu hunain i wneud a defnyddio brethyn a rhoi cynnig ar waith cardio, nyddu a gwnïo ar eu ffordd.

llinell

Gwau Geiriau

Pecyn adnoddau i diwtoriaid Cymraeg i'w ddefnyddio yn Amgueddfa Wlân Cymru yw Gwau Geiriau. Mae’r pecyn yn dangos sut y gall dysgwyr a thiwtoriaid ddefnyddio ymweliad ag Amgueddfa Wlân Cymru ym mhentref Dre-fach Felindre i wella eu sgiliau Cymraeg ac ar gyfer gwersi pellach nôl yn y dosbarth. Mae’n cynnwys deunyddiau sy’n helpu paratoi’r dosbarth ar gyfer yr ymweliad a gweithgareddau ar gyfer pob lefel o ddysgu yn ystod yr ymweliad. Mae’r pecyn ar gael ar y we a medrwch lawrlwytho fersiwn PDF sy’n cynnwys:

Gellir lawrlwytho ffeiliau sain a ffeiliau gweledol neu gysylltu â’r rhif isod am CD a DVD sy’n cynnwys clipiau sain Cymraeg byr a hir, wedi eu hanelu at y lefelau dysgu gwahanol, gan gynnwys:

Mae’r Amgueddfa a’r adnoddau cysylltiedig yn cynnig cyfle i ddysgwyr fwynhau profiad Cymraeg go iawn wrth ddysgu. Am fwy o wybodaeth ewch i
 www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/gwaugeiriau

neu os am drefnu ymweliad, ffoniwch (01559) 370 929.
Mae pecynnau adnoddau tebyg i’w gael ar gyfer yr amgueddfeydd eraill hefyd:

Geiriau Glo ar gyfer Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru www.museumwales.ac.uk/en/geiriauglo

Perthyn ar gyfer Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru www.museumwales.ac.uk/en/perthyn/

Camau Cymraeg ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru www.museumwales.ac.uk/en/camaucymraeg/

Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Adran Addysg Amgueddfa Cymru, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

llinell