Newyddion
Canolfan
Morgannwg
Digwyddiadau
Gwasanaeth Carolau
Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr yng Nghapel Salem, Tonteg am 11am.
Paned a mins pei i ddilyn.
Clwb Cerdded
Dydd Sadwrn, 11 Rhagfyr yn ardal Penderyn.
Cwrdd am 10.30am yn nhafarn y Llew Coch, Church Road, Penderyn.
Cwrs Nadolig
Cwrs deuddydd o fewn awyrgylch Nadoligaidd ar 14 + 15 Rhagfyr yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg, Pentre’r Egwlys ger Pontypridd.
Sul Siarad
Mewn ymateb i Lais y Dysgwr am gael ysgolion undydd ar ddydd Sul, cynhelir Sul Siarad ar 23 Ionawr yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr rhwng 10am a 3.30pm.
Gellir cael manylion am y digwyddiadau uchod trwy fynd i’r wefan - www.glam.ac.uk/welsh neu drwy ffonio 01443 483600.
Sesiynau hyfforddi
Cymraeg o’r Crud
Er mwyn arfogi tiwtoriaid i gyflwyno’r pecyn newydd sbon hwn cynhelir hyfforddiant ar y cyd rhwng Canolfannau’r De-ddwyrain ar ddydd Sadwrn, 5 Chwefror rhwng 10am a 3pm yn yr Atriwm, Heol Knox, Caerdydd. Croeso i bawb!
Newyddion cyffredinol
Diolch Shân
Ymddeolodd Shân Morgan dros yr haf ac mae pawb ym Morgannwg yn gweld ei heisiau yn fawr. Gweithiodd Shân yn ddyfal yn ystod y cyfnod y bu yma fel Swyddog Dysgu Anffurfiol er mwyn gosod sylfeini cadarn iawn ar gyfer ei holynydd, Ifan Dylan. Ar ben hynny, bu Shân yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd am nifer fawr o flynyddoedd ac wedi ysbrydoli cannoedd o ddysgwyr dros y blynyddoedd. Un o nodweddion amlycaf Shân yw ei gofal dros unigolion ac roedd hynny’n ei gwneud yn Swyddog Dysgu Anffurfiol penigamp. Diolch byth, dyw hi ddim wedi gadael y maes yn llwyr – mae’n dal i ddysgu dosbarth nos i ni.
Canolfan Gymraeg Merthyr
Rydym yn ffodus iawn bod Canolfan Gymraeg Merthyr wedi derbyn arian mawr i drawsnewid y Ganolfan. Bu’r gwaith yn digwydd dros y flwyddyn diwethaf ac erbyn hyn mae’r Ganolfan wedi’i thrawsnewid ac mae gennym ddosbarthiadau a swyddfa yn y Ganolfan, ynghyd â nifer o fudiadau Cymraeg eraill.
Ffitrwydd Tiwtoriaid CiO Morgannwg
Llongyfarchiadau i’r tiwtoriaid canlynol am eu llwyddiant ym myd y campau:
Cath Williams: trydydd yn y rhaglen 10 Jonathan
Rebeca Little: newydd dderbyn ei thystysgrif Cymhwyster Cenedlaethol ac wedi rhedeg hanner marathon Caerdydd mewn 2 awr 14 munud.
Emily Cole: gwneud y CC eleni a wedi rhedeg hanner marathon Caerdydd hefyd mewn 2awr 29m.
Phil Stone: wedi beicio o Lundain i Baris i godi arian at elusen.
Colin Williams: wedi cwblhau ei drydedd daith beic elusen o'r Gelli Gandryll i Gaerdydd.