Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cynhadledd genedlaethol

Ar y 19eg o Dachwedd daeth dros 170 o diwtoriaid i Gaerdydd i’r bumed gynhadledd genedlaethol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Erbyn hyn, mae’r gynhadledd wedi’i sefydlu fel digwyddiad pwysig yng nghalendr tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, ac mae nifer o diwtoriaid yn cysylltu â ni i gael gwybod y dyddiad, yn aml, cyn i’r trefniadau gychwyn!

Prif nod y gynhadledd yw rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes, rhoi cyfle i diwtoriaid dderbyn hyfforddiant ar rai themâu allweddol, ac i ddod ynghyd i rannu profiadau.

Roedd hi’n dipyn o gamp eleni trefnu sesiynau llawn ac amrywiol mewn amserlen undydd ond, fel arfer, roedd y cynadleddwyr wedi cyflwyno nifer o syniadau trwy’r canolfannau a’u tiwtoriaid.

Roeddem yn ffodus bod Huw Jones, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru wedi gallu dod i siarad am yr agenda sgiliau cenedlaethol, a chyfraniad Cymraeg i Oedolion i’r agenda hwnnw. Roedd ei gyflwyniad yn ddifyr iawn, ac yn gosod y cyd-destun ehangach i waith y tiwtoriaid. Roedd cyflwyniad Dr. Enlli Thomas o Brifysgol Bangor am ei hymchwil i gaffaeliad iaith mewn plant a’r cysylltiadau â chyd-destun oedolion hefyd yn fuddiol dros ben ac ysgogodd sawl trafodaeth ymhlith y tiwtoriaid.

llun cynhadledd 2

Fel arfer, cafwyd gweithdai buddiol iawn yn ystod y gynhadledd ar nifer o bynciau sy’n berthnasol i’r maes. Roedd yn bleser croesawu RSC Cymru i gyflwyno sesiynau rhyngweithiol trwy’r dydd ar sut i gefnogi’r broses dysgu drwy dechnoleg. Cynhaliwyd nifer o weithdai ymarferol eraill megis sesiwn ‘Mireinio’r Gymraeg’ gyda Dr. Angharad George, sesiwn ar ‘sut i ddrilio’ gyda Gareth Kiff a Dr. Adrian Price,  a gweithdy gan Emyr Davies, CBAC, a oedd yn cyflwyno’r datblygiadau diweddaraf i gymhwyster lefel Uwch. Roedd cyfleoedd i diwtoriaid gyfrannu at y prosiect ymchwil cenedlaethol ar sut i wella’r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion, o dan arweiniad tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd, ynghyd â gweithdy i gyflwyno deunyddiau newydd ar gyfer Cymraeg i’r Teulu a dysgu trwy’r Amgueddfa Genedlaethol. Yn olaf, roedd sesiynau rhaeadru ar weithgareddau a welwyd yng nghynhadledd IATEFL ac ar yr ymchwil i ystyried effaith ‘Canolfannau Iaith’ ar integreiddio dysgwyr i’r rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg.

Roedd y sesiynau i gyd yn boblogaidd ac yn ddefnyddiol iawn - diolch yn fawr i bawb a gytunodd i gynnal y sesiynau.

Bu’r gynhadledd yn llwyddiannus dros ben unwaith eto, a dymuna Llywodraeth y Cynulliad ddiolch i bawb a gyfrannodd. Diolch hefyd i’r tiwtoriaid am eu brwdfrydedd a’u parodrwydd i fanteisio ar amserlen brysur iawn!

Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau cenedlaethol yn y dyfodol, anfonwch neges at tiwtor@cymraegioedolion.org

 

Rhodri Jones

llinell