Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru


teitl ADCDFMae gen i ddamcaniaeth ynglyn â sut y mae nifer o ffasiynau diweddara’r byd addysg yn cyrraedd maes Cymraeg i Oedolion, ac yn aml yn cael eu gorfodi ar y maes heb unrhyw ystyriaeth o briodoldeb gwneud hynny. Yn aml iawn bydd y cyrff arolygu addysg yn gweld datblygiad i’w ganmol mewn un sector addysg e.e. ysgolion cynradd, ac wedyn yn defnyddio’r datblygiad hwnnw fel meincnod i feirniadu sectorau eraill. Gallai’r arfer hwn deithio o‘r sector cynradd i’r uwchradd, i golegau addysg bellach oddi yno i faes dysgu oedolion yn y gymuned a - heidi ho - mwya sydyn mae’n rhywbeth sydd yn ddisgwyliedig ym maes Cymraeg i Oedolion.

Dyma’n sicr yw’r llwybr y teithiodd ADCDF ar ei hyd. Y llynedd rhoddwyd gwybod i faes Cymraeg i Oedolion gan Lywodraeth y Cynulliad fod angen plethu elfennau o ADCDF i gyrsiau’r maes. Cyhoeddodd Estyn arweiniad ar ddysgu oedolion yn y gymuned oedd yn nodi bod ADCDF yn un o’r elfennau y byddant yn eu hystyried wrth farnu ansawdd yr addysgu. Roedd yn ymddangos felly fod rhaid i ni gymryd y mater o ddifri.

Wel, beth yn union yw ADCDF? Y teitl llawn yw Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang. Mae iddo saith thema:

Ymateb cynta nifer o fewn y maes oedd – be goblyn sydd a wnelo hyn â dysgu Cymraeg? Tydi’r dysgwr sy’n talu i ddod i ddosbarth nos unwaith yr wythnos yn neuadd bentre Tudweiliog ddim eisiau cael moeswersi gan eu tiwtoriaid. Nid plant ysgol gynradd ydyn nhw wedi’r cwbl. Mae’n ddigon anodd dysgu Cymraeg heb orfod ymdopi â’r holl elfennau ychwanegol yma. Fodd bynnag, y neges a gawsom oedd bod ADCDF yma i aros ac roedd rhaid i ni dderbyn hynny. Yn wyneb hyn penderfynodd cynrychiolwyr y canolfannau symud ymlaen mewn dwy ffordd:

llinell

Daeth tro i gynffon y stori fach yma fodd bynnag wrth i Estyn gymryd sylw o sylwadau’r maes a phenderfynu nad oedd ADCDF yn berthnasol i Gymraeg i Oedolion wedi’r cwbl. Felly ydyn ni i gyd yn bloeddio ‘hwre’? Wel, dw i ddim yn siŵr erbyn hyn. Wrth fynd ati i gasglu deunyddiau ac wrth baratoi sesiwn hyfforddi i diwtoriaid y canolbarth mi ddes i’n reit hoff o’r syniad. Nid y syniad o baladaruo am agenda gwyrdd a dyngarol, cofiwch, ond oherwydd mod i’n gweld potensial i gael adnoddau newydd, lliwgar, deniadol fyddai’n ychwanegu at brofiad dysgu ein dysgwyr ni. Dyma rai o’r syniadau ddaeth o du’r canolfannau ar y gwahanol lefelau:


Mynediad a Sylfaen

Mae’r dimensiwn Cymraeg a Chymreig yn ddefnyddiol iawn ar y lefel hon. Mae digon o ddeunyddiau darllen penodol ar gyfer dysgwyr ar:

Erbyn i’r dysgwyr gyrraedd yr amherfffaith ar lefel Mynediad mae’n bosib gofyn iddyn nhw, mewn grwpiau, feddwl am dri pheth maen nhw’n ei wybod am yr uchod a defnyddio hynny’n sail i’r gwaith darllen ac i sgwrs elfennol. Erbyn iddyn nhw gyrraedd lefel Sylfaen, ac yn enwedig ar ôl cyrraedd yr amodol, gellir rhoi tasg megis hon iddyn nhw:
 ‘Tasai Dewi Sant yn dod yn ôl i Gymru heddiw, meddyliwch am dri pheth basai fo’n eu hoffi a thri pheth basai’n eu casáu am y Gymru newydd’.
Mae hon yn dasg sy’n gweithio ar bob lefel gyda sgyrsiau estynedig ar y lefelau uwch.


Canolradd

Be am chwilio am storïau tipyn yn fwy rhyngwladol eu naws? Yn bersonol dw i wedi blino clywed am ddamweiniau ar yr A55 a streic mewn ffatri ddillad isaf yn Llanerchymedd.


Uwch

Mae hi’n dod dipyn yn haws cael deunyddiau ar y lefel yma. Dyma rai syniadau:

Erbyn hyn maen nhw’n awchu i weld y gerdd!!!

llinell

Blas yn unig yw hyn ar yr amrywiaeth y mae rhai o adnoddau ADCDF yn medru eu cynnig i ni. Mae’n debyg na fydd y canolfannau ar gymaint o frys i greu deunyddiau nawr ac yr oedden nhw cyn i Estyn newid ei feddwl.  Ga i roi sialens i chi am y flwyddyn nesa – i feddwl am weithgareddau newydd fyddai’n ateb gofynion ADCDF ac y byddai’n plethu’n naturiol i’n cyrsiau ni. Os dewch chi ar draws rhywbeth sy’n gweithio’n dda, cysylltwch ag adran Cymraeg i oedolion CBAC drwy adran Cysylltu y wefan hon, a gellir cyhoeddi’r deunydd ar wefan y Tiwtor.

 

*Ewch i’r adran Deunydd Dysgu i weld yr adnoddau ar lefel Sylfaen / Canolradd sy’n cynnwys elfennau o ADCDF.

llinell