Daw Felicity Ramage o Swydd Buckingham yn wreiddiol ond symudodd hi a’i gŵr i Shropshire i fagu teulu nifer o flynyddoedd yn ôl. Roedd Cymru hefyd yn apelio’n fawr at Felicity, a hynny fyth ers iddi hi fynd ar ei hymweliad cyntaf â’r wlad pan oedd yn wyth oed. Felly, 4 blynedd yn ôl, gyda’r pedwar plentyn wedi tyfu’n oedolion, dyma benderfynu symud i bentref Dolanog ger Llanfair Caereinion ym Mhowys.
Nid oes ganddi unrhyw gysylltiad teuluol â’r wlad, ond mae Felicity a’i gŵr wrth eu boddau yma ac yn teimlo eu bod wedi cael croeso gwresog iawn yn ardal Dolanog. Erbyn hyn mae hi’n gweithio gartref fel ysgrifenyddes i gwmni offer trydanol ei gŵr. Gyda’r plant wedi ymgartrefu yn yr Alban, Doncaster, Plymouth a Yeovil, a’i gŵr yn teithio llawer gyda’r gwaith, mae Felicity yn gwerthfawrogi ei milltir sgwâr bresennol yn fawr iawn. Mewn gwirionedd, dyma’r sbardun i fynd ati i ddysgu Cymraeg, sef yr awydd i fod yn rhan o’r gymuned arbennig hon. Sylwodd fod nifer o siaradwyr Cymraeg yn byw yn yr ardal ac roedd nifer o gyfleoedd iddi hi ymarfer ei sgiliau iaith.
Roedd Felicity hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd hanesyddol ei phentref gan mai dyma oedd pentref Ann Griffiths, yr emynydd. Un o fawrion hanesyddol eraill y pentref yw Owain Glyndŵr!
Mae Felicity wedi llwyddo yn arholiadau Mynediad a Sylfaen CBAC ac yn parhau i fynychu dosbarth dwys unwaith yr wythnos, am wers o bedair awr, dan ofal y tiwtor Lois Martin-Short. Mae’n aelod o Gymdeithas y Merched, Dolanog, ac wedi mwynhau nifer o nosweithiau a theithiau Cymraeg gyda nhw. Yr agosatrwydd a deimla yn y gymuned naturiol Gymraeg hon sy’n ei hysbrydoli i barhau i ddysgu’r iaith.
A hithau wedi bod yn athrawes ei hun ar un adeg, mae’n gweld pa mor hanfodol yw parhau â’r ymdrechion y tu allan i’r dosbarth. Mae’n ddarllenwraig frwd o’r papur bro ‘Plu’r Gweinydd’ ac mae’n cael llawer o hwyl ar y gyfres ‘Nofelau Nawr.’ Mae’n gwneud pob ymdrech hefyd i wrando ar Radio Cymru a gwylio S4C.
Mae diddordebau eraill Felicity yn cynnwys cerdded, hwylio a marchogaeth, ac mae’n mwynhau teithio i Ellesmere bron pob penwythnos i hwylio gyda’r clwb hwylio yno. Gwraig wylaidd, weithgar sydd yn sylweddoli bod yna werth personol a chymdeithasol i bopeth mae’n ei wneud, gan gynnwys dysgu’r Gymraeg.