Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl alt

Thema 39fed cyfarfod ALTE ym Mhrâg oedd tegwch a rheoli ansawdd wrth brofi ieithoedd.  Roedd y gweithdai a’r sesiynau’n ymwneud ag agweddau gwahanol ar hyn, e.e. diogelwch, mynediad, camymddwyn, moeseg ac egwyddorion.

Gweithdy

Roedd Dittany Rose o Cambridge ESOL yn trafod y berthynas rhwng safonau ISO 9001 a safonau ALTE.  Mae ALTE wedi datblygu system ansawdd yn cynnwys 17 o safonau, a gweithdrefnau manwl ar gyfer archwilio arholiadau sy’n ymrwymo i’r safonau hynny.  Mae ISO yn gymdeithas ryngwladol sy’n archwilio safonau ym meysydd busnes, llywodraeth, addysg, yn cynnwys sectorau cyhoeddus a phreifat.  Mae Cambridge ESOL wedi cael eu derbyn fel sefydliad sy’n ymrwymo i’r safonau hynny hefyd.  Pwrpas y gweithdy oedd edrych ar yr hyn y gall sefydliadau eu dysgu wrth fynd drwy’r broses hon, a sut y bu i safonau ISO ddylanwadu ar safonau ALTE.

Canolbwyntiwyd ar un agwedd benodol ar safonau, sef rheoli dogfennaeth.  Mewn sefydliad mawr, mae hyn yn codi cwestiynau defnyddiol:  Pa ddogfennau i’w cadw?  Pa ddogfennau sydd ar gael i’r cyhoedd? Sut mae sicrhau fersiwn cyfredol o ddogfennau allweddol? 

Crynhoir yr egwyddorion sylfaenol yn yr acronym PDCA, sef Plan - Do - Check - Act, a hynny’n gylch parhaus.  Dyna’r camau syml sy’n cymell rheoli ansawdd.  Mae sôn fod ISO yn datblygu safonau newydd ar gyfer darparwyr dysgu anffurfiol a dysgu ieithoedd  (ISO 29991), ond nid yw’r rhain ar gael eto.  Gallai fod yn fuddiol i’r canolfannau CiO ystyried gofynion y system ansawdd hon yn y dyfodol.

Ceir rhagor o fanylion mewn rhifyn o gylchgrawn chwarterol Cambridge ESOL, Research Notes (rh. 39): http://www.cambridgeesol.org/rs_notes/rs_nts39.pdf

Grwpiau Trafod (SIGs)

Mae grŵp trafod y Cod Ymarfer wedi cwblhau’r dasg o ail-lunio’r Gweithdrefnau ar gyfer Awdit. Bydd y ddogfen hon ar gael ar wefan ALTE yn fuan. Cafwyd adroddiad gan gynrychiolwyr o’r pwyllgor sy’n edrych ar adroddiadau awdit y sefydliadau. Mae nifer o newidiadau i’r broses awdit, felly bydd rhaid i bob aelod ymgymryd â hyfforddiant o’r newydd. Treialwyd yr adnoddau ar gyfer hyn mewn deuddydd hyfforddi cyn cyfarfod ALTE ym Mhrâg, a chafwyd peth adborth gan rai a fu yno.

Yn yr un modd, mae’r ddogfen a drafodwyd gynt gan y grŵp fframwaith - Llawlyfr i Ddarparwyr Arholiadau - bron yn barod. Bydd hon ar gael ar wefan Cyngor Ewrop yn 2011. Felly, treuliwyd amser yn edrych ar y ‘grid’ sy’n helpu diffinio arholiadau, yn dadansoddi pob agwedd ar arholiad o safbwynt paramedrau gwahanol.  Gellir edrych ar y fersiynau presennol (gridiau ar gyfer siarad ac ysgrifennu) ar y ddolen hon: http://www.coe.int/T/DG4/Portfolio/?L=E&M=/main_pages/illustrationse.html
Mae gridiau ar gyfer y profion goddefol yno hefyd.

Cynhadledd

Mae diwrnod olaf y cyfarfod yn gynhadledd agored, fel arfer, a chafwyd nifer o gyflwyniadau’n ymwneud â’r thema gyffredinol. 

Siaradodd Antony Kunnan, Athro mewn Addysg Ieithoedd ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, ac awdur Test Fairness Framework (2004).  Roedd yntau hefyd yn edrych ar safonau ALTE, a’u rhoi yn y cyd-destun hanesyddol.  Yn y 60au i’r 80au, roedd tegwch yn canolbwyntio ar ragdueddiad mewn arholiadau, e.e. yn erbyn grwpiau penodol; yn yr 80au, dechreuwyd sôn am Godau Ymarfer, cyn dechrau cyfeirio at Safonau yn y 90au.  Cyfeiriodd at safonau ETS (Educational Testing Service) - cymdeithas ar gyfer cynnal safonau mewn arholiadau, yn benodol yn yr Unol Daleithiau. Ceir copi o’r safonau hynny yn y ddolen hon: http://www.ets.org/Media/About_ETS/pdf/standards.pdf

Mae llawer o’r safonau y cyfeirir atynt yn debyg i rai ALTE, e.e. dibynadwyedd, dilysrwydd, tegwch ac ati. Ei bwynt oedd bod hwn yn rhan o gyfrifoldeb pawb sy’n ymwneud â phrofion, nid y datblygwyr yn unig - mae’n bwysig i reoleiddwyr, y rhai sy’n gwneud defnydd o’r canlyniadau, cyflogwyr, tiwtoriaid ac ati.  Defnyddiodd y cartŵn isod i danlinellu’r pwynt fod yn rhaid i brawf fod yn deg:

cartwn alte

Cyflwynwyd sgwrs gan Neil Jones, o Cambridge ESOL ar broject Survey Lang. Mae hwn yn arolwg ar ffurf profion a gynhelir dros Ewrop mewn ysgolion uwchradd i brofi sgiliau pobl ifainc wrth ddarllen, gwrando ac ysgrifennu (nid siarad). Project sydd ar waith yw hwn, a cheir rhagor o wybodaeth ar y wefan: http://www.surveylang.org

Eto o Gaergrawnt, roedd Juliet Wilson a Mike Gutteridge yn sôn am ddiogelwch mewn arholiadau.  Wrth reswm, mewn arholiadau Saesneg fel ail iaith mae hyn yn broblem fawr. Un o’r pethau sy’n codi yw adnabod ymgeiswyr - rhywun yn dod i sefyll yr arholiad yn lle rhywun arall. Felly, er mwyn cael sefyll un o arholiadau ESOL Caergrawnt, bydd rhaid tynnu llun webcam o’r ymgeisydd wrth gofrestru ac wrth sefyll yr arholiad, ac mae’r datganiad canlyniadau wedyn yn cynnwys y ddau lun - ar yr Online Results Verification Site.  Mae’n gynllun peilot ar hyn o bryd, ond y bwriad yw ei wneud yn orfodol i bawb.  Mae byrddau arholi eraill yn fwy eithafol, e.e. yn mynnu bod CCTV yn ffilmio’r ystafell arholi.  Soniodd Mike Gutteridge am y cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr ag anghenion penodol, e.e. technoleg newydd. Yng Nghymru a Lloegr, mae deddfwriaeth yn nodi hyn:

Ceir Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SENDA 2001) sy’n gwneud...
.... rhagfarnu anghyfiawn gan ddarparwyr addysg yn erbyn disgyblion, myfyrwyr ac oedolion sy’n dysgu, yn anghyfreithlon.  Rhaid i’r cyrff hyn wneud addasiadau rhesymol, a all gynnwys newid arferion neu weithdrefnau.’

Cafwyd cyflwyniad gan Nick Saville o Gaergrawnt ar ddatblygiad system ansawdd ALTE a’r safonau, yna un cyflwyniad gan Brifysgol Charles ym Mhrâg yn sôn am ddatblygu’r arholiadau Tsieceg i fewnfudwyr. Ychydig gannoedd sy’n sefyll yr arholiadau ar hyn o bryd, ond mae’r Brifysgol wedi ei derbyn fel aelod llawn o ALTE, ar ôl bod drwy’r awdit yn llwyddiannus. 

Cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf ALTE yn gynhadledd agored fawr, gydag academwyr ac ymchwilwyr o bob rhan o’r byd. Disgwylir y bydd tua 500 yn mynychu’r gynhadledd a gynhelir yn Krakow rhwng 7 a 9 Gorffennaf 2010.  Mae croeso i bawb fynd yno, a gellir cofrestru ar wefan ALTE: http://www.alte.org/2011

Arall

Cafodd ED ei ethol yn gadeirydd pwyllgor gwaith ALTE am y tair blynedd nesaf!  Rôl weinyddol sydd i’r pwyllgor yn gweithredu ar ran yr aelodaeth lawn.

 

Emyr Davies

llinell