Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl canolbarth

Taith Gerdded

Mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cynnal teithiau cerdded rheolaidd yn y gorllewin. Yn ddiweddar cynhaliwyd taith Cymdeithas Edward Llwyd, a oedd yn daith hir. Fel arfer mae’r teithiau sydd ar y rhaglen yn deithiau Cerddwyr Cylch Teifi sy'n para rhyw 2 awr.

Ar 13 Tachwedd bu’r grŵp yn cerdded yn ardal Rhydlewis dan ofal Clem Lewis. Yn amlwg mae’r pwyslais ar sgwrsio a mwynhau! Os am fwy o fanylion am y teithiau cerdded cysylltwch â philippa.gibson@gmail.com

llinell

Dysgwyr yn Darllen

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth yn cydweithio â Llyfrgell y Dref yn Aberystwyth i roi cyfleoedd i ddysgwyr ddarllen a thrafod llyfrau.

Mae rhai o fyfyrwyr y Ganolfan a phobl leol wedi cyfarfod yn barod ac wedi penderfynu darllen y 3 llyfr isod i ddechrau. Mae’r llyfrau wedi’u dosbarthu gan y llyfrgell i bawb oedd wedi dod i’r cyfarfodydd cychwynnol.

Mae croeso i fwy o bobl ymuno â’r 3 grŵp, yn enwedig grŵp ‘Blodwen Jones’ a grŵp  ‘Stori a Mwy’. Os ydych am ymuno, a wnewch chi gysylltu â Jaci Taylor os gwelwch yn dda er mwyn cael copi o’r llyfr.

llinell

Sut mae’n gweithio?

Hyd pob cyfarfod: 1 awr.
 

clawr cyffesionGrŵp 1

Cyffesion Georgie Oddi Cartref - Tony Bianchi
(i ddarllenwyr lefel Uwch/iaith gyntaf)

Bydd y grŵp hwn yn darllen y llyfr gartref (8 stori i ddechrau), ac yna ei drafod gydag aelod o staff y llyfrgell.

Cyfarfodydd nesaf:
23 Tachwedd 2010, am 5.30 o’r gloch yn yr Orendy
neu 25 Tachwedd 2010, am 3.00 o’r gloch yn y Treehouse

 

llinell

clawr blodwenGrŵp 2 

Bywyd Blodwen Jones – Bethan Gwanas
(i ddarllenwyr lefel Sylfaen/Canolradd)

Bydd y grŵp hwn yn darllen y llyfr gartref, ac yna ei drafod gydag aelod o staff y llyfrgell.

Cyfarfodydd nesaf:
23 Tachwedd 2010, am 5.30 o’r gloch yn yr Orendy
neu 25 Tachwedd 2010, am 3.00 o’r gloch yn y Treehouse

 

llinell

clawr stori a mwyGrŵp 3 

Stori a Mwy – Meleri Wyn James
(i ddarllenwyr lefel dechreuol)

Bydd y grŵp hwn yn darllen y llyfr gartref, ac yna mynd dros y straeon/deialogau gydag aelod o staff y Ganolfan. Bwriedir darllen peth o’r llyfr yn y cyfarfod.

Cyfarfod nesaf:
Nos Fawrth, 23 Tachwedd 2010, am 5.30 o’r gloch yn yr Orendy

Fydd y grŵp hwn ddim yn cyfarfod am 3.00 yn y Treehouse ar hyn o bryd

 

llinell